Module Information
			 Cod y Modiwl
		
DA20100
			 Teitl y Modiwl
	 
			 Tiwtorial Gwyddor Amgylchedd yr Ail Flwyddyn
	 
		 	Blwyddyn Academaidd
	 
			 2019/2020
	 
			 Cyd-gysylltydd y Modiwl
	 
			 Semester
	 
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Elfennau Anghymharus
Elfennau Anghymharus
Elfennau Anghymharus
			 Staff Eraill sy'n Cyfrannu
	 
Manylion y cyrsiau
| Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu | 
|---|---|
| Darlith | 3 x Darlithoedd 2 Awr | 
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran | 
|---|---|---|
| Asesiad Ailsefyll | Adolygiad llenyddiaeth 1500 gair | 30% | 
| Asesiad Ailsefyll | Traethawd 1500 gair | 30% | 
| Asesiad Ailsefyll | Cynnig traethawd hir/prosiect 1800 gair | 40% | 
| Asesiad Semester | Adolygiad llenyddiaeth 1500 gair | 30% | 
| Asesiad Semester | Traethawd 1500 gair | 30% | 
| Asesiad Semester | Cynnig traethawd hir/prosiect 1800 gair | 40% | 
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Ysgrifennu mewn arddull academaidd.
2. Trafod llenyddiaeth gyfoes ym maes gwyddor amgylchedd yn feirniadol.
3. Dangos gwybodaeth o ddatblygiad Gwyddor Amgylchedd dros y degawdau diwethaf.
4. Trafod a dadansoddi’r defnydd o safbwyntiau damcaniaethol gwahanol o fewn Gwyddor Amgylchedd.
5. Adnabod problem neu bwnc ymchwil a dylunio strategaeth ymchwil briodol.
6. Dangos gwerthfawrogiad o natur a defnydd priodol o wahanol strategaethau methodolegol mewn Gwyddor Amgylchedd.
7. Dangos ymwybyddiaeth o faterion moesegol mewn ymchwil Gwyddor Amgylchedd.
Disgrifiad cryno
 
 Dylunnir y modiwl i gefnogi myfyrwyr sy’n sil 
 
Mae'r modiwl tiwtorial Lefel 2 yn orfodol i fyfyrwyr yr ail flwyddyn sy'n dilyn cynlluniau gradd Gwyddor Amgylchedd. Mae'n gosod sail ar gyfer cyswllt arolygol clos a rheolaidd rhwng myfyrwyr a staff trwy gydol y flwyddyn.
 
Y mae iddo bedwar nod penodol. Yn gyntaf, gan ei fod yn ffynhonnell o gyswllt clos, fe fydd yn ymdrin â phroblemau cyffredinol bugeiliol ac academaidd sy'n wynebu'r myfyrwyr yn ystod y flwyddyn. Yn ail, mae gan bob modiwl tiwtorial gwyddor amgylchedd maes llafur academaidd ei hun. Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar themâu cysylltiedig a rheda drwy gydol y rhaglen Gwyddor Amgylchedd. Yn drydydd, bydd yn datblygu sgiliau ymchwil drwy adnabod blychau llunio cwestiynau ymchwil, a dylunio strategaethau ymchwil. Yn olaf, bydd yn ymwneud a maes llafur ddiffiniedig o sgiliau astudio, a fydd yn galluogi myfyrwyr i ymdrin yn fwy effeithiol a gofynion astudiaeth academaidd, i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy, ac yn eu galluogi i fanteisio yn llawnach ar y posibiliadau a gynigir gan ein rhaglen.
 
Mae Tiwtorial yr Ail Flwyddyn yn ymdrin â’r sgiliau astudio canlynol: Gwaith prosiect/traethawd hir [gan gynnwys dylunio /llunio problem ymchwil; ffynonellau data a thechnegau; llunio llyfryddiaeth; technegau ysgrifennu adroddiadau] Cyflwyniadau llafar Cyngor a hunanasesu gyrfaol Damcaniaethau daearyddol: gofodol/integredig/ecolegol/systemig/gwerthusol
 
Asesir y modiwl drwy dair elfen: traethawd (1,500 gair, 30%); adolygiad llenyddiaeth (1,500 gair, 30%); a chynnig traethawd hir/prosiect cydanrhydedd (1,800 gair, 40%).
 
Cynnwys
 
 Cyfuna’r modiwl gyfrifoldebau bugeiliol a datblygiad personol y tiwtor personol gyda sgiliau astudio sy’n allweddol ar gyfer llwyddiant mewn addysg uwch. Mae’r deg sesiwn (sy’n cynnwys sesiynau tiwtor personol) yn ystyried y themâu canlynol: 
• Crynhoi a chyfosod llenyddiaeth academaidd;
• Llunio a chefnogi dadleuon;
• Dadleuon a seiliau deallusol i wyddor amgylchedd;
• Technegau adolygu;
• Llunio Cwestiynau ymchwil
• Moeseg a diogelwch mewn gwaith maes;
• Technegau cyflwyno.
 
Caniateir trafod agweddau eraill o ddatblygiad personol - megis nodi gwasanaethau prifysgol a lleol, disgwyliadau a heriau bywyd prifysgol, rheolaeth amser ac adnoddau; myfyrio ar berfformiad academaidd, a chyflogadwyedd a dyheadau gyrfa - yn y sesiynau tiwtor personol penodedig.
 
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau | 
|---|---|
| Cyfathrebu | Gofynnir i fyfyrwyr gyflwyno gwaith ysgrifenedig mewn cywair academaidd priodol. | 
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Mae materion cyflogadwyedd a datblygiad wedi eu hintegreiddio i’r modiwl drwy’r sesiynau tiwtora personol. | 
| Datrys Problemau | Gofynnir i fyfyrwyr adnabod problem ymchwil ac i lunio strategaeth ymchwil | 
| Gwaith Tim | Er nad yw wedi’i hasesu, bydd cyfleoedd i fyfyrwyr weithio fel tîm | 
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Anogir myfyrwyr i ymateb i adborth; asesa rhan o’r aseiniad gyntaf sut ymatebwyd i adborth. | 
| Rhifedd | Heb ei asesu’n uniongyrchol yn benodol yn y modiwl | 
| Sgiliau pwnc penodol | Targeda’r tair aseiniad dadleuon a themâu allweddol mewn daearyddiaeth. | 
| Sgiliau ymchwil | Gofynnir i fyfyrwyr i ymchwilio a gwerthuso a dadansoddi gwybodaeth ar gyfer y gwaith cwrs | 
| Technoleg Gwybodaeth | Gofynnir i fyfyrwyr i ddefnyddio technoleg prosesu geiriau ar gyfer y gwaith cwrs. | 
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5