Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Tiwtorial | 6 x Tiwtorial 1 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad ysgrifenedig | 70% |
Asesiad Semester | Aseiniadau gwaith cwrs | 30% |
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad ysgrifenedig | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Ar ddiwedd y modiwl, dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Mynegi a dangos dealltwriaeth o egwyddorion sylfaenol mewn dynameg glasurol.
2. Galw i gof theori perthnasol i fudiant trawsfudol, mudiant cylchdro ac osgiliadu.
3. Defnyddio technegau mathemategol addas i fudiant trawsfudol, mudiant cylchdro ac osgiliadu.
4. Datrys problemau rhifiadol sydd wedi'u diffinio'n dda ar gyfer mudiant trawsfudol, mudiant cylchdro ac osgiliadu, a dehongli'r canlyniadau yng nghyd-destun y ffiseg.
5. Llunio hafaliadau mathemategol wedi'u diffinio'n dda i fynegi problemau mewn dynameg glasurol ac egluro'r defnydd o'r hafaliadau yng nghyd-destun y sefyllfa a roir.
Nod
Mae'r modiwl yn datblygu dealltwriaeth y myfyriwr o egwyddorion a thechnegau dynameg. Rhoddir pwyslais ar ddatrys problemau. Darperir enghreifftiau rhifiadol i'r myfyriwr ymarfer. Mae'r modiwl yn addas fel modiwl craidd blwyddyn-gyntaf cynlluniau gradd anrhydedd Ffiseg a Mathemateg, ac mae'n paratoi'r myfyriwr ar gyfer defnyddio'r testunau mewn astudiaethau uwch ym modiwlau Rhan 2.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl yn darparu cyflwyniad i theori glasurol dynameg. Mae tair prif ran i'r modiwl, yn dilyn crynodeb fer o ddulliau trin fectorau. Mae'r rhan gynaf yn ystyried cinemateg glasurol, Deddfau Mudiant Newton, momentwm, grymoedd, gwaith ac egni mecanyddol. Mae'r ail ran yn cyflwyno mudiant cylchdroi ac yn dangos sut i'w ystyried mewn modd tebyg i fudiant trawsfudol. Cyflwynir theori osgiliadau yn y drydedd rhan, yn cynnwys yr osgiliadur harmonig clasurol, cyseiniant ac osgiliaduron cypledig.
Cynnwys
Mesurau fector a sgalar. Fector safle. Fectorau uned orthogonal.
Trin fectorau: adio, cydrannu, lluosymiau sgalar a fector.
MUDIANT TRAWSFUDOL
1. Cinemateg gronyn: cyflymiad cyson, mudiant teflyn.
2. Deddfau Mudiant Newton: momentwm, grymoedd (yn cynnwys pwysau, normal, ffrithiant, tensiwn, elastig, llusgiad), mudiant mewn cylch.
3. Gwaith, Egni a Phwer: gwaith a wneir gan rym, egni cinetig, grym cadwrol, pwer, egni potensial (disgyrchol a sbring), cadwraeth egni mecanyddol.
4. Craidd mas: system o ronynnau, system a dwysedd unffurf.
5. Gwrthdrawiadau: cadwraeth momentwm, cyfernod adfer.
MUDIANT CYLCHDROI
1. Gwrthrychau solid yn cylchdroi: cyflymder onglog, cyflymiad onglog, moment inertia, momentwm onglog, trorym.
2. Dulliau paralel o drin mudiant trawsfudol a mudiant cylchdroi.
OSGILIADAU
1. Mudiant Harmonig Syml: cyfnod, osgled, cyflymder, cyflymiad, egni.
2. Mudiant Harmonig Syml mewn systemau mecanyddol.
3. Osgiliadau gwanychol a gorfodol, cyseiniant.
4. Osgiliadau cypledig: moddau normal.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Datrys Problemau | Datblygir sgiliau datrys problemau drwy gydol y modiwl a chant eu hasesu drwy aseiniadau ac yn yr arholiad ysgrifenedig. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Anogir addysgu hunan-gyfeiriedig a gwella perfformiad drwy daflenni enghreifftiau a phecyn gwaith cartref electronig. Darperir datrysiadau i'r taflenni enghreifftiau. Gosodir enghreifftiau ychwanegol ar Blackboard. |
Rhifedd | Mae problemau rhifiadol ar daflenni enghreifftiau a'r papur arholiad yn datblygu sgiliau rhifedd. |
Sgiliau pwnc penodol | Mae dynameg yn destun craidd mewn Ffiseg a Mathemateg. |
Sgiliau ymchwil | Bydd darllen cyfeiriedig ac enghreifftiau ar Blackboard yn galluogi'r myfyriwr i ymchwilio testunau y modiwl. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4