Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Ymaerferion wythnosol | 40% |
| Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad | 60% |
| Asesiad Ailsefyll | Ymarferion | 40% |
| Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad | 60% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1.Byddwch yn gallu adnabod a defnyddio'r rhan fwyaf o bwyntiau gramadegol a chystrawennol Gaeleg yr Alban.
2. Byddwch yn gallu darllen gyda chymorth geiriadur amryw ddarnau rhyddiaith yng Ngaeleg yr Alban.
3. Byddwch yn gyfarwydd â rhai agweddau ar draddodiadau llafar Gaeleg yr Alban.
4. Byddwch yn gallu cyfieithu brawddegau i'r Gaeleg.
5. Byddwch yn gallu cynnal sgwrs syml yng Ngaeleg yr Alban.
Disgrifiad cryno
Cyflwyniad i brif nodweddion yr iaith fodern ynghyd ag astudiaeth o rai gweithiau llenyddol, megis storiau byrion a cherddi cyfoes.
Cynnwys
Cynhelir 40 gweithdy 1 awr. Cyflwynir y pynciau, isod, gan ddarlithydd a gosodir ymarferion a thasgau i fyfyrwyr er mwyn iddynt ymarfer a datblygu’r sgiliau perthnasol.
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Trafod materion gramadegol yn y gweithdai ; medru egluro gwallau gramadegol yn yr aseiniadau ac yn yr arholiad. |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd y gweithdai yn rhoi cyfle i fyfyrwyr drafod ymarferion iaith a darnau i’w cyfieithu; bydd y pecyn o dasgau yn caniatáu i fyfyrwyr fesur eu perfformiad a’u datblygiad personol. |
| Datrys Problemau | lYmateb i heriau technegol y rheolau gramadegol a’r ymarferion gramadegol unigol |
| Gwaith Tim | Ceir cyfle i drafod mewn grŵp yn ystod gweithdai. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd y gweithdai yn rhoi cyfle i fyfyrwyr drafod ymarferion iaith a darnau i’w cyfieithu; bydd y pecyn o dasgau yn caniatáu i fyfyrwyr fesur eu perfformiad a’u datblygiad personol. |
| Rhifedd | |
| Sgiliau pwnc penodol | Mae’r sgiliau gramadegol a ddatblygir yn rhai trosglwyddadwy a fydd o ddefnydd i fyfyrwyr yn y brifysgol ac yn y gweithle. |
| Sgiliau ymchwil | Ymchwilio er mwyn atgyfnerthu’r rheolau gramadegol a ddysgir yn y dosbarth. |
| Technoleg Gwybodaeth | Prosesu geiriau, cyrchu a defnyddio adnoddau electronig; defnyddio’r BwrddDu. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6
