Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlith | 1 x Darlith 1 Awr |
Darlith | 5 x Darlithoedd 2 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | 1 x cais ymchwil 2,000 o eiriau | 10% |
Asesiad Semester | 1 x traethawd estynedig 12,000 o eiriau | 90% |
Asesiad Ailsefyll | 1 x cais ymchwil atodol (ail-sefyll) 2,000 o eiriau | 10% |
Asesiad Ailsefyll | 1 x traethawd estynedig atodol (ail-sefyll) 12,000 o eiriau | 90% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
trefnu a chyflwyno dadl hanesyddol yn seiliedig ar ymchwil wreiddiol;
datblygu eu gallu i reoli amser a gweithio'n effeithiol o fewn terfynau amser;
arddangos deallwriaeth feirniadol o'r llenyddiaeth hanesyddol berthnasol;
cynhyrchu darn o waith sy'n cydfynd o ran cyflwyniad a safonau academaidd addas.
Nod
Y mae'r traethawd estynedig yn elfen hanfodol yn rhaglenni anrhydedd sengl yr Adran. Galluoga myfyrwyr i ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol, gan adeiladu ar eu profiad dysgu blaenorol o fewn yr Adran. Bydd y modiwl hwn yn arwain myfyrwyr drwy'r broses o baratoi, cynllunio ac ysgrifennu darn estynedig o ysgrifennu hanesyddol.
Disgrifiad cryno
Cynigia rhan gyntaf y modiwl rhagbaratoad i fyfyrwyr Anrhydedd Sengl Hanes er mwyn cynllunio ac ymchwilio ar gyfer traethawd estynedig ar lefel israddedig. Yn ystod y semester cyntaf bydd myfyrwyr yn diffinio'u testun gan ymgynghori gyda goruchwyliwr o blith staff yr Adran ac yn cyflwyno cynllun o'r traethawd arfaethedig. Darperir darlithoedd a gweithdai yn Semester 1 yn trafod problem diffinio testun traethawd estynedig ac ar gynllunio'r ymchwil a'r ysgrifennu. Cynigir cymorth priodol ar leoli ffynonellau a llunio llyfryddiaethau. Erbyn diwedd Sesiwn 4 dewisir goruchwyliwr ar gyfer pob myfyriwr a bydd sesiynau 6-8 yn gyfarfodydd seminar mewn grwpiau bychain gyda'r goruchwylwyr. Ar ol hynny, bydd myfyrwyr yn cyfarfod a'u goruchwylwyr mewn cyfarfodydd unigol wrth iddynt fwrw ymlaen gydag ymchwilio ac ysgrifennu'r traethawd estynedig 12,000 o eiriau.
Cynnwys
Sesiwn 1: Cyflwyniad Cyffredinol (2 awr)
Sesiwn 2: TG a Sgiliau Gwybodaeth (2 awr)
Sesiwn 3: Ffynonellau ac Ymchwil (2 awr)
Sesiwn 4: Diffinio'r Pwnc: Gweithdy i fyfyrwyr i drafod eu syniadau, gyda chyngor oddi wrth aelodau o'r staff. (2 awr)
Sesiwn 5: Cyfarfod unigol gyda'r goruchwyliwr (30 munud)
Sesiwn 6: Dadansoddi Ffynonellau (2 awr)
Sesiwn 7: Materion Hanesyddiaethol (2 awr)
Sesiwn 8: Cynllunio (2 awr)
Semester 2: dau sesiwn grwp 2 awr, un yn wythnos 2 ac un yn wythnos 8, ynghyd a chyfarfodydd unigol gyda'r goruchwyliwr.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Datblygir medru cyfathrebu drwy gyfrwng y gweithdy, y seminarau a'r tiwtorialau lle mae gofyn i fyfyrwyr drafod eu ffynonellau, eu methodoleg a'u cynnydd, ynghyd a thrwy'r broses o ysgrifennu'r traethawd estynedig. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu ymwybodaeth o medrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol; profiad uniongyrchol o gynllunio a chyflwyno gwaith hanesyddol a all fod o ddefnydd ar gyfer gyrfa yn y dyfodol. |
Datrys Problemau | Rhoddir cyfarwyddyd i fyfyrwyr i'w cynorthwyo i adnabod y problemau posib a all godi wrth gynllunio ac ymchwil i brosiect ymchwil hanesyddol a byddant yn trafod problemau ac atebion posib yn y grwpiau seminar a gyda'r goruchwyliwr. |
Gwaith Tim | Heb fod yn berthnasol |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Disgwylir i fyfyrwyr fedru trefnu'u gwaith ac adrodd yn ol i'w goruchwyliwr ar eu cynnydd. Drwy'r broses hon, disgwylir iddynt ddatblygu'r gallu i fyfyrio'n feirniadol ar eu gwaith. |
Rhifedd | Fe all fod yn berthnasol, petai'r traethawd ag elfen ystadegol neu fesurol amlwg, er enghraifft ar demograffeg neu agwedd ar hanes economaidd. |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd y modiwl yn datblygu ymhellach sgiliau'r myfyrwyr wrth gynllunio darn o waith sylweddol, gan ddangos adnabyddiaeth o'r cyd-destun hanesyddiaethol ac ymwybyddiaeth o'r confensiynau cyhoeddi ar gyfer y ddisgyblaeth. |
Sgiliau ymchwil | Seilir y traethawd ar ymchwil wreiddiol ac y mae datblygu dulliau ymchwil effeithiol yn rhan hanfodol o'r modiwl. |
Technoleg Gwybodaeth | Anogir y myfyrwyr i chwilio am ddeunydd ar y we ac oddi ar CD-Rom, ac i'w ddefnyddio mewn ffordd addas er mwyn darganfod ffynonellau addas ar gyfer eu testun ymchwil. Hefyd, anogir y myfyrwyr i ddefnyddio prosesydd geiriau wrth ysgrifennu'r gwaith. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6