Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | 1 x traethawd 2,500 o eiriau | 50% |
Arholiad Semester | 2 Awr (1 x arholiad 2 awr) | 50% |
Asesiad Ailsefyll | 1 x traethawd atodol (ail-sefyll) 2,500 o eiriau | 50% |
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr 1 x arholiad atodol (ail-sefyll) 2 awr | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Dangos eu bod yn gyfarwydd gyda’r corff sylweddol o wybodaeth hanesyddol sydd ar gael o ran cymdeithas, crefydd ac awdurdod yng Nghymru’r unfed ganrif ar bymtheg.
Dangos dealltwriaeth wrth drafod y prif ddatblygiadau mewn hanes Cymru yn y cyfnod hwn, gan gynnwys canoli awdurdod a’r newidiadau crefyddol a ddaeth yn sgil y rhwyg oddi wrth Eglwys Rhufain.
Dangos ymwybyddiaeth o destunau gwreiddiol ac eilaidd, yn enwedig testun y Deddfau Uno, y propaganda Protestanaidd a gynhyrchwyd yn ystod y cyfnod a’r trafodaeth hanesyddiaethol ar dderbyniad Protestaniaeth yng Nghymru.
Datblygu’r gallu i bwyso a mesur cryfderau a gwendidau dadleuon hanesyddol penodol am Gymru’r unfed ganrif ar bymtheg
Disgrifiad cryno
Nod
Cynnwys
1. ‘Taffi tlawd’ neu hil Brutus: pwy oedd y Cymry?
2. Harri Tudur a’r ffordd i Bosworth
3. Harri VII: ‘y mab darogan’?
4. Natur y gymdeithas yng Nghymru’r cyfnod
5. Rheoli Tywysogaeth a Mers: Rhys ap Thomas a Rowland Lee
6. Yr Eglwys ar drothwy’r Diwygiad
7. Harri VIII a’i Ddiwygiad
8. Y ‘Deddfau Uno’ 1536-43
9. Effeithiau’r Deddfau Uno
10. Twf y bonedd
11. Rheoli Cymru: Tudur, Herbert a Cecil
12. Diwylliant a Dadeni yng Nghymru
13. Edward VI: plannu Protestaniaeth?
14. ‘Mari Waedlyd’?
15. Elisabeth I: Sefydlu Eglwys
16. Eglwys Oes Elisabeth: y gwrthwynebiad
17. Ofergoeliaeth, dewiniaeth a chrefydd yng Nghymru
18. Cymru Oes y Tuduriaid: Teyrngarwch a Theyrnfradwriaeth
Seminarau (4 x 1½ awr)
1. Harri Tudur a Chymru
2. ‘Uno’ Cymru a Lloegr
3. Y Diwygiad Protestannaidd
4. Y Dadeni a’r Iaith Gymraeg
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Trwy drafodaeth mewn seminar a throsglwyddo gwybodaeth mewn traethawd ac arholiad |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu sgiliau trosglwyddadwy megis sgiliau rheoli amser, sgiliau cyfathrebu a sgiliau dadansoddi |
Datrys Problemau | Disgwylir i fyfyrwyr fedru trin a thrafod problemau hanesyddol ac ymgymryd ag ymchwil briodol wrth baratoi ar gyfer seminarau a gwaith ysgrifenedig |
Gwaith Tim | Cymryd rhan mewn gweithgareddau seminar a deall sut i weithredu ar y cyd gydag aelodau eraill o’r grŵp. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Datblygu sgiliau trefnu drwy reoli amser a chyflwyno gwaith yn brydlon. Gwneud defnydd o adborth ar waith a gyflwynir er mwyn gwella’r perfformiad |
Rhifedd | |
Sgiliau pwnc penodol | Datblygu’r gallu i werthuso ffynonellau perthnasol i’r cyfnod a’r maes ynghyd â’r gallu i ymdrin yn feirniadaol â’r llenyddiaeth eilaidd. |
Sgiliau ymchwil | Defnyddio amryw o gyfryngau gwahanol er mwyn ffurfio barn feirniadol. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd defnydd o adnoddau arlein yn rhan hanfodol o ddulliau dysgu’r modiwl hwn a bydd felly’n rhoi cyfle i fyfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau wrth, er enghraifft, gwneud defnydd o fyrddau trafod ar Blackboard. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5