Module Information
Manylion y cyrsiau
| Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu | 
|---|---|
| Tiwtorial | 4 x Tiwtorial 1 Awr | 
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran | 
|---|---|---|
| Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad ysgrifenedig | 100% | 
| Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad ysgrifenedig | 100% | 
Canlyniadau Dysgu
 
 Ar ôl cwblhau’r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
 1. cyfrifo’n effeithiol gyda rhifau cymhlyg;
 2. nodi a defnyddio hafaliadau Cauchy-Riemann;
 3. penderfynu a yw ffwythiant gwerth-cymhlyg yn ddadansoddol;
 4 enrhifo integrynnau amlinol;
 5 nodi theorem Cauchy a disgrifio’i ganlyniadau;
 6 enrhifo integrynnau gan ddefnyddio fformiwla integru Cauchy;
 7. ehangu ffwythiannau dadansoddol fel cyfres Taylor a chyfres Laurent;
 8. enrhifo integrynnau real gan ddefnyddio’r theori gweddillion. 
 
 
Disgrifiad cryno
Astudiaeth o ffwythiannau sy’n cymryd gwerthoedd cymhlyg yw dadansoddiad cymhlyg. Ar yr un llaw mae’n bwnc ffrwythlon mewn mathemateg bur sy’n arddangos llawer o ganlyniadau cain ac annisgwyl, ac ar y llaw arall gellir cymhwyso’r theori mewn sawl cangen o fathemateg a pheirianneg. Mae rôl pwysig dadansoddiad cymhlyg mewn mathemateg gymhwysol, er enghraifft, yn rhannol ddyledus i’r defnydd o’r theori gweddillion mewn enrhifo integrynnau real a’r cymhwysiad o fapiadau cydffurf yn hydrodynameg a phroblemau mewn theori potensial.
Cynnwys
2. Hafaliadau Cauchy-Riemann. Ffwythiannau dadansoddol. Amodau angenrheidiol a digonol ar gyfer ffwythiant i fod yn ddadansoddol.
3. Integru amlinol. Theorem sylfaenol integru.
4. Theorem Cauchy. Fformiwla integru Cauchy, yn cynnwys y fersiwn cyffredinol.
5. Cyfres Taylor.
6. Cyfres Laurent.
7. Theori gweddillion.
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau | 
|---|---|
| Cyfathrebu | Na | 
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Ychwanegiad defnyddiol i bortffolio mathemategol myfyriwr | 
| Datrys Problemau | Cynhenid mewn unrhyw fodiwl mathemateg. | 
| Gwaith Tim | Na | 
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Dod yn gyfarwydd a phwnc newydd mewn Mathemateg | 
| Rhifedd | Cynhenid mewn unrhyw fodiwl mathemateg. | 
| Sgiliau pwnc penodol | |
| Sgiliau ymchwil | Na | 
| Technoleg Gwybodaeth | Na | 
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5
