Module Information
Manylion y cyrsiau
| Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu | 
|---|---|
| Tiwtorial | 4 x Tiwtorial 1 Awr | 
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran | 
|---|---|---|
| Arholiad Ailsefyll | 2 Awr (Arholiad Ysgrifenedig) | 100% | 
| Arholiad Semester | 2 Awr (Arholiad Ysgrifenedig) | 100% | 
Canlyniadau Dysgu
 
 Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr: 
 1.	ymchwilio priodweddau elfennol graffiau;
 2.	perfformio lluniadau graff syml;
 3.	cynrychioli graffiau haniaethol fel diagramau;
 4.	penderfynu os yw graff yn bodloni amryw o feini prawf;
 5.	cymhwyso algorithmau ar gyfer darganfod cydrannau;
 6.	disgrifio algorithmau Dijkstra a Floyd, a’u cymhwyso mewn achosion syml;
 7.	cymhwyso dadansoddiad llwybr critigol i brosiectau syml;
 8.	cymhwyso naill ai algorithm Prim neu Kruskal ar gyfer darganfod coed rhychwantol pwys optimwm;
 9.	cymhwyso algorithm Ford-Fulkerson i rwydwaith cludiant i ddarganfod llif macsimwm.
 
 
Disgrifiad cryno
Datblygwyd damcaniaeth graff trwy ymchwilio nifer o broblemau clasurol – Problem Pontydd Konigsberg Euler, Problem Rhwydwaith Trydanol Kirchoff, Rhifiad Cayley o Graffiau Cemegol a’r Broblem Pedwar Lliw ar gyfer Mapiau Plân. Darganfyddir datrysiad llawn i Broblem Euler ac astudir problem Hamilton perthynol. Rhoddir algorithmau llwybr byrraf a hiraf gyda chymwysiadau, er enghraifft, i amserlennu gorchwyl (PERT). Disgrifir algorithmau i ddarganfod coed rhychwantol pwys optimwm mewn graffiau pwysol. Gellir eu defnyddio, er enghraifft, i ddarganfod rhwydweithiau cludiant cysylltiedig cost leiaf. Amlinellir y damcaniaethau o lifoedd mewn rhwydweithiau cludiant, yn arbennig theorem y toriad-lleiaf-llif-mwyaf. Mae yna gymwysiadau i lifoedd cludiant a damcaniaeth cydweddu.
Nod
I gyflwyno rhai testunau mewn damcaniaeth graff clasurol. I ddisgrifio algorithmau rhwydwaith fel y rhai i ddarganfod llwybrau o hyd optimaidd, coed rhychwantol pwysau optimwm a llifoedd macsimwm, ac i’w egluro trwy gymwysiadau i achosion syml.
Cynnwys
2. Llwybrau a chydrannau mewn graff. Algorithm i bennu cydrannau. Algorithmau llwybrau byrraf (Dijkstra) a hiraf. Algorithm Floyd.
3. Trefniad topolegol. Dadansoddiad Llwybr Critigol.
4. Coed rhychwantol. Algorithmau Prim a Kruskal i ddarganfod coed rhychwantol pwysau optimwm.
5. Rhwydweithiau cludiant. Llifoedd, toriadau. Theorem y toriad-lleiaf-llif-mwyaf. Algorithm Ford-Fulkerson.
6. Cymwysiadau.
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6
