Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran | 
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Traethawd (2000 o eiriau) | 40% | 
| Asesiad Semester | Portffolio critigol (3000 o eiriau) | 60% | 
| Asesiad Ailsefyll | Traethawd (2000 o eiriau) - (i deitl newydd) | 40% | 
| Asesiad Ailsefyll | Portffolio Critigol (gwerth 3000 o eiriau) | 60% | 
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
 
 1. Datblygu corff systemataidd o wybodaeth am hanes y cyfryngau yng Nghymru.
 
 2. Datblygu gwybodaeth am ddadleuon cyfoes am ffilm a'r cyfryngau yng Nghymru.
 
 3. Deall, cymharu a dadansoddi damcaniaethau am hanes ffilm a'r cyfryngau, a natur ffilm a chyfryngau cyfoes.
 
 4. Cymhwyso gwybodaeth a dealldwriaeth er mwyn asesu'n feirniadol y problemau cyfoes sy'n wynebu ffilm a'r cyfryngau yng Nghymru.
 
 
Disgrifiad cryno
Fe fydd y modiwl hwn yn edrych ar ddatblygiad y cyfryngau yng Nghymru, gan gynnwys, ffilm, teledu, y wasg, a'r rhyngrwyd. Archwilir yr hinsawdd ddarlledu hanesyddol a chyfoes, gan ystyried hanes, polisiau a strwythurau darlledu, prif fudiadau a sefydlidau, yn ogystal a thestunau neilltuol. Dehonglir damcaniaethau sy'n rhoi modd o ddeall sialensiau sy'n wynebu'r cyfryngau yng Nghymru heddiw.
Cynnwys
10 x 2 awr Darlith/Seminar
10 x 3 awr Sesiynau Gwylio
Darlithoedd:
Hanes a Chyd-destun
Damcaniaethau am y cyfryngau yng Nghymru
Sefydliadau Prydeinig: BBC ac ITV
Ffilmiau Amatur Cynnar
Y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg
S4C
Y Sector Annibynnol: Teliesyn
Y Wasg
Y Rhyngrwyd
Blogiau a Gwe 2.0
Seminarau:
Fe fydd y seminarau yn dilyn yr un patrwm a'r uchod
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau | 
|---|---|
| Cyfathrebu | Cyfrannu at drafodaethau seminar, ysgrifennu ar gyfer gwaith a asesir, darllen. | 
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu ymwybyddiaeth o ddiddordeb a medrau personol, ac ychwanegu at sgiliau sylfaenol. | 
| Datrys Problemau | Adnabod problemau wrth drafod pynciau, bod yn ymwybodol o gymhlethdodau wrth geisio ffurfio atebion. | 
| Gwaith Tim | Fe fydd disgwyl i fyfyrwyr weithio mewn grwpiau bychan yn y seminarau, ac i ddeall deinamig trafodaeth. | 
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Er na asesir y medr yma yn ffurfiol, fe fydd cyfle i fyfyrwyr drafod eu prosesau dysgu gyda'u cyd fyfyrwyr a'r tiwtor. Rhoddir adborth manwl i draethodau ar y ffurflenni asesu. | 
| Rhifedd | |
| Sgiliau pwnc penodol | |
| Sgiliau ymchwil | Disgwylir i fyfyrwyr ddarllen ac ymchwilio i ystod eang o ffynonellau (llyfrau, cyfnodolion, y we) ar gyfer seminarau ac asesiadau. | 
| Technoleg Gwybodaeth | Er nad yhw'n cael ei asesu yn ffurfiol, disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio'r we i ymchwilio, medru defnyddio pecynnau gair brosesu, ac i fod yn gyfarwydd a system e-bost y Brifysgol. | 
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5
