Module Information

Cod y Modiwl
AD13820
Teitl y Modiwl
Y Dysgwr a'r Amgylchedd Dysgu
Blwyddyn Academaidd
2020/2021
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Ymarfer llyfryddol  (500 gair)  25%
Asesiad Semester Portffolio Lleoliad  (2,500 gair)  75%
Asesiad Ailsefyll Ymarfer llyfryddol  (500 gair)  25%
Asesiad Ailsefyll Portffolio Lleoliad  (2,500 gair)  75%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Deall sut mae lleoliadau addysgol yn cael eu trefnu a'u rheoli.

2. Gwerthuso pwysigrwydd yr amgylchedd ar ddysgu.

3. Myfyrio ar eu harferion a'u harsylwadau eu hunain mewn perthynad â'r amgylchedd dysgu.

Disgrifiad cryno


Bydd y modiwl hwn yn amlinellu nodweddion amgylchedd dysgu effeithiol. Bydd yn gwerthuso'r gwaith o ddylunio, trefnu a rheoli amgylcheddau dysgu ac yn asesu swyddogaeth yr ymarferwr o ran datblygu a chynnal amgylcheddau dysgu effeithiol. Bydd y modiwl yn ymchwilio i'r damcaniaethau pedagogaidd sy'n sail i amgylcheddau dysgu effeithiol ac yn cynnig cyfle i fyfyrwyr werthuso'n feirniadol effaith yr amgylchedd dysgu ar ddysgwyr, drwy bortffolio lleoliad gwaith.

Cynnwys

Wythnos 1 - Nodweddion amgylcheddau dysgu

Wythnos 2 - Amgylcheddau dysgu cynhwysol

Wythnos 3 - Ymarfer proffesiynol a pharatoi ar gyfer lleoliadau.

Wythnos 4 - Safbwyntiau damcaniaethol ar amgylcheddau dysgu effeithiol 1

Wythnos 5 - Safbwyntiau damcaniaethol ar amgylcheddau dysgu effeithiol 2

Wythnos 6 - Dulliau ymarferol o gynllunio amgylcheddau dysgu

Wythnos 7 - Rhyngweithiadau rhwng yr amgylchedd, yr ymarferwr, a'r dysgwr

Wythnos 8 - Asesu risg a diogelwch

Wythnos 9 - Amgylcheddau dysgu awyr agored.

Wythnos 10 - Myfyrio ar arsylwadau o leoliadau a chymorth aseiniadau.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd y myfyrwyr yn cael cyfle i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar. Datblygir sgiliau cyflwyno ar lafar drwy gyfrwng trafodaethau dosbarth a datblygir sgiliau ysgrifenedig drwy'r aseiniadau.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd y myfyrwyr yn datblygu ystod o sgiliau trosglwyddadwy gan gynnwys rheoli amser, gwaith tîm, cyfathrebu a sgiliau gwerthuso. Bydd yr agwedd o leoliad yn y modiwl yn rhoi cyfle i fyfyrwyr weithio yn eu maes addysg dewisedig.
Datrys Problemau Bydd disgwyl i fyfyrwyr werthuso problemau wrth gynllunio amgylcheddau dysgu yn eu lleoliadau.
Gwaith Tim Bydd seminarau yn darparu cyfleoedd ar gyfer gwaith tîm
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr gynnal astudiaeth hunangyfeiriedig o ran y gwaith darllenehangach a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Bydd presenoldeb mewn sesiynau yn gwella ystod o sgiliau dysgu
Rhifedd Gall myfyrwyr ddadansoddi data rhifiadol wrth ymchwilio i'w haseiniadau
Sgiliau pwnc penodol Bydd myfyrwyr yn datblygu ystod o sgiliau wrth ddylunio amgylcheddau dysgu effeithiol a sut y gellir defnyddio'r rhain i wella dysgu
Sgiliau ymchwil Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr ymchwilio a nodi ffynonellau academaidd priodol fel rhan o'u haseiniadau modiwl.
Technoleg Gwybodaeth Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr ddefnyddio TG i gyflwyno gwaith dosbarth ac asesedig. Bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i ddefnyddio'r ADRh fel adnodd TG ychwanegol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4