Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran | 
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Traethawd 900 gair | 30% | 
| Asesiad Semester | Portffolio 2,100 gair | 70% | 
| Asesiad Ailsefyll | Aseiniad ysgrifenedig 900 gair | 30% | 
| Asesiad Ailsefyll | Portffolio 2,100 gair | 70% | 
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
 
 1. Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth am ddatblygiad a dysgu plant.
 
 
 
 
 2. Deall effaith oedolion a’r amgylchedd ar ddatblygiad a dysgu plant. 
 
 
 
 
 3. Myfyrio ynghylch datblygiad a dysgu plant yn ymarferol, a’u cloriannu. 
 
 
 
Disgrifiad cryno
Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno i’r myfyrwyr ddulliau astudio plant, arferion gofal plant a seicoleg ddatblygiadol ac mae’n ystyried y rhain yng nghyd-destun ymarferol gweithio gyda phlant ifanc. Bydd myfyrwyr yn ystyried y prif egwyddorion o ran datblygiad plant yn ogystal ag anghenion dysgu ychwanegol penodol. Byddant yn ystyried effaith yr amgylchedd ar ddatblygiad a dysgu plant, ac yn myfyrio ynghylch pwysigrwydd monitro, adolygu a chloriannu datblygiad plant a’u harferion eu hunain. Fel rhan o’r modiwl, bydd myfyrwyr yn ymgymryd â 50 awr mewn lleoliad blynyddoedd cynnar.
Cynnwys
Egwyddorion a Chysyniadau Allweddol (datblygiad corfforol a seicolegol)
Seicoleg Ddatblygiadol, theorïau datblygiad ac ymlyniad
Anghenion dysgu ychwanegol
Y Cyfnod Sylfaen
Effaith yr amgylchedd ar ddysgu plant
Rôl oedolion
Bodloni anghenion plant
Monitro, adolygu a chloriannu datblygiad ac arferion
Wythnosau 9 a 10 – bydd myfyrwyr yn ymgymryd â lleoliadau gwaith (cyfanswm o 50 awr). Trwy gydol y sesiynau seminar, bydd myfyrwyr yn cael cymorth i ddod o hyd i leoliadau gwaith, ac i wneud y trefniadau perthnasol.
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau | 
|---|---|
| Cyfathrebu | Mae technegau cyfathrebu yn elfen hanfodol drwy gydol darlithoedd a seminarau. Cyfathrebu ar lafar drwy gydol gweithgareddau seminar. Cyfathrebu ysgrifenedig drwy gydol aseiniadau ysgrifenedig. | 
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Anogir myfyrwyr i fyfyrio ynghylch eu sgiliau a’u cloriannu | 
| Datrys Problemau | Elfen hanfodol o’r broses o asesu’n feirniadol | 
| Gwaith Tim | Bydd gwaith tîm, ar ffurf ymddygiadau proffesiynol allweddol a gweithdrefnau gweithio rhyngddisgyblaethol, yn sgìl bwysig a fydd yn cael ei datblygu trwy gydol y modiwl | 
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Mae adborth ar gyfer yr aseiniad ysgrifenedig a myfyrio personol yn ystod tasgau seminar yn annog gwella perfformiad | 
| Rhifedd | Ystadegau disgrifiadol achlysurol mewn darlithoedd a ffynonellau. | 
| Sgiliau pwnc penodol | Bydd myfyrwyr yn cael eu herio a’u hannog i ddatblygu ystod o sgiliau proffesiynol. | 
| Sgiliau ymchwil | Bydd angen ymchwilio ar gyfer y prif aseiniadau a rhai o'r tasgau seminar | 
| Technoleg Gwybodaeth | Dylid geirbrosesu aseiniadau ysgrifenedig a bydd myfyrwyr yn defnyddio TGCh i wneud gwaith ymchwil. | 
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4
