Module Information

Cod y Modiwl
AD24820
Teitl y Modiwl
Lleoliad Gwaith C Blwyddyn 2
Blwyddyn Academaidd
2020/2021
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Prosiect ymchwil  2,500 gair  50%
Asesiad Semester Portffolio  2,500 gair  50%
Asesiad Ailsefyll Prosiect ymchwil  2,500 gair  50%
Asesiad Ailsefyll Portffolio  2,500 gair  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Integreiddio persbectifau damcaniaethol yn feirniadol wrth ddarparu ymarfer proffesiynol

2. Bodloni’r safonau galwedigaethol cenedlaethol ar gyfer ymarferwyr blynyddoedd cynnar sy’n cael sylw yn y modiwl hwn, a dangos tystiolaeth eu bod yn eu bodloni

3. Ystyried yn feirniadol oblygiadau canfyddiadau ymchwil ar gyfer datblygu personol yn y dyfodol, a’u cloriannu

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl yn annog myfyrwyr i gymryd cyfrifoldeb am eu datblygiad personol, proffesiynol ac academaidd eu hunain a defnyddio hyn i wella eu hymarfer. Bydd gofyn i fyfyrwyr gadw portffolio o dystiolaeth i ddangos eu bod yn gallu bodloni’r safonau galwedigaethol cenedlaethol ar gyfer ymarferwyr blynyddoedd cynnar. Bydd myfyrio’n feirniadol ynglŷn ag arferion presennol a rolau proffesiynol yn rhan hanfodol o’r portffolio. Anogir myfyrwyr i gloriannu canfyddiadau ymchwil cyfredol ac i archwilio’r posibiliadau a’r goblygiadau ar gyfer datblygu yn y dyfodol, yn bersonol ac o fewn y proffesiwn. Neilltuir goruchwyliwr prifysgol a mentor lleoliad gwaith i bob myfyriwr. Bydd y trydydd modiwl lleoliad gwaith hwn yn rhoi sylw i’r materion canlynol:

-Cefnogi plentyn ag anghenion cymorth ychwanegol SCDCCLD 0209

-Cefnogi dysgu iaith newydd drwy ddulliau trochi ymhlith plant mewn lleoliad blynyddoedd cynnar SCDCCLD 0247

-Hyrwyddo dysgu iaith newydd drwy ddulliau trochi ymhlith plant mewn lleoliad blynyddoedd cynnar SCDCCLD 0347

-Hyrwyddo gofal, dysgu a datblygiad plant ag anghenion cymorth ychwanegol mewn lleoliadau addysg gynnar SCDCCLD 0339

-Hybu lles a gwytnwch plant SCDCCLD 0308

- Paratoi amgylcheddau i ddiwallu anghenion plant SCDCCLD 0205

-Cynllunio a threfnu amgylcheddau i blant a theuluoedd SCDCCLD 0306

-Creu amgylcheddau cadarnhaol ar gyfer babanod a phlant SCDCCLD 0312


-Gweithio gyda phlant a phobl ifanc i greu lleoedd chwarae a chefnogi gweithgareddau chwarae hunan-gyfeiriedig SKAPW34


-Datblygu eich ymarfer drwy fyfyrio a dysgu SCDCHSC 0023



-Datblygu eich gwybodaeth a’ch ymarfer eich hun SCDHSC 0023


Ymgymryd â phrosiect ymchwil SCDCCLD 0420


Cyfrannu at effeithiolrwydd timau SCDCHSC 0241


Meithrin perthynas waith gynhyrchiol ag eraill SCDCCLD 0338

Cynnwys

Bydd myfyrwyr yn ymgymryd â 15 diwrnod mewn lleoliad blynyddoedd cynnar i ddatblygu eu sgiliau i ddod yn ymarferydd blynyddoedd cynnar. Bydd myfyrwyr yn canolbwyntio ar y cymwyseddau a amlinellir uchod. Yn ystod eu lleoliad gwaith, bydd myfyrwyr yn derbyn cymorth ar-lein ar y pynciau canlynol:

Y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol a datblygiad proffesiynol (darlith 2 awr)

Yn ogystal â hyn, byd gan bob myfyriwr goruchwyliwr dynodedig a mentor lleoliad gwaith a fydd yn monitro cynnydd y myfyriwr. Bydd disgwyl i’r myfyriwr anfon e-bost at y goruchwyliwr bob pythefnos i roi diweddariad ar eu cynnydd.

Trwy gydol semester 1 ym mlwyddyn 2, cynhelir gweithdai gyda’r myfyrwyr i ddarparu manylion ynglŷn â threfnu lleoliadau gwaith, ymddygiad proffesiynol a’r portffolios asesu. Bydd yn rhaid mynychu pob un o’r gweithdai.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu
Datblygu personol a chynllunio gyrfa
Datrys Problemau Bydd angen i fyfyrwyr ddangos effeithlonrwydd wrth drefnu llawer iawn o wybodaeth gymhleth a’r gallu i nodi, disgrifio a dadansoddi nodweddion allweddol y wybodaeth.
Gwaith Tim
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Bydd angen i fyfyrwyr ddangos bod ganddynt y sgiliau angenrheidiol i weithio mewn practis proffesiynol.
Sgiliau ymchwil
Technoleg Gwybodaeth

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5