Module Information

Module Identifier
AD31630
Module Title
Addysgeg Effeithiol
Academic Year
2020/2021
Co-ordinator
Semester
Semester 2 (Taught over 2 semesters)
Co-Requisite
Co-Requisite
Co-Requisite
Pre-Requisite
Gofynion mynediad TAR
Other Staff

Course Delivery

 

Assessment

Due to Covid-19 students should refer to the module Blackboard pages for assessment details

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment Cyflwyniad    (10 munud. Cyflwyniad ac ymateb i gwestiynau)  20%
Semester Assessment Traethawd  (3,500 gair)  80%
Supplementary Assessment 100%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

1. Dangos dealltwriaeth o bwysigrwydd cefnogi a gwella cyflawniad pob dysgwr yn eu gofal.

2. Gwerthuso effeithiolrwydd ystod o strategaethau dysgu ac addysgu a gymhwysir ar draws sectorau cynradd ac uwchradd trwy dynnu ar dystiolaeth yn yr ystafell ddosbarth.

3. Dewis a chymhwyso'r strategaethau dysgu ac addysgu mwyaf priodol er mwyn gwella cyrhaeddiad grŵp o ddysgwyr.

4. Myfyrio ar ansawdd eu haddysgu.

Brief description

Dyluniwyd y modiwl craidd hwn i gwrdd â Chylchlythyr Llywodraeth Cymru Rhif: 008/2017, Meini Prawf ar Gyfer Achredu Rhaglenni Addysg Athrawon Cychwynnol yng Nghymru. Mae'r modiwl hwn yn rhoi pwyslais cryf ar addysgeg sy'n ymwneud â: mireinio addysgu; hyrwyddo dysgu a dylanwadu ar ddysgwyr. Oherwydd natur integredig y rhaglen byddwch yn ennill gwybodaeth, dealltwriaeth a phrofiad ymarferol o addysgeg effeithiol ar draws y sectorau Cynradd ac Uwchradd. Bydd y profiadau gwell hyn yn eich galluogi i gael gafael cynhwysfawr ar sut mae dysgwyr yn dysgu ac yn symud ymlaen, gan roi mewnwelediad rhagorol i chi o addysg yn ei chyfanrwydd. Byddwch yn barod i ddewis a chymhwyso'r strategaethau dysgu ac addysgu mwyaf priodol ac effeithiol ar gyfer y cyfnod a'r cyfnod allweddol y byddwch yn gweithio ynddo.

Content

Yn y modiwl hwn, bydd yr unedau canlynol yn cael eu trafod mewn perthynas â'r Safonau newydd ar gyfer SAC, fel y'u dangosir yn Schemapp 1 Adran B. Mae'r unedau cynnwys ar gyfer yr 8 wythnos yn y brifysgol fel a ganlyn, a byddant yn tynnu ar enghreifftiau o addysgeg effeithiol sydd yn berthnasol i addysgu'r Meysydd / Pynciau Dysgu Arbenigedd a Chyfoethogi yn y sectorau Cynradd ac Uwchradd. Bydd pob uned yn cynnwys pedair awr (2 x dwy awr) cyfuniad o ddarlithoedd a seminarau. Bydd y rhain yn darparu'r egwyddorion sylfaenol y mae'n rhaid eu defnyddio ar ymarfer dysgu.

Uned 1 - Y term ‘addysgeg’ a’i ystyr a sut y mae gwahanol wledydd ac ymchwilwyr yn ei weld - Rôl ymarfer myfyriol wrth wella ansawdd yr addysgu a’r Dysgu
Uned 2 - Sut mae dysgwyr yn dysgu. Cymhwyso seicoleg ymddygiadol, adeiladol ac adeiladol cymdeithasol yn yr ystafell ddosbarth
Uned 3 - Deall anghenion dysgu dysgwyr - hierarchaeth anghenion Maslow (1954) - Amgylcheddau dysgu ac amodau ar gyfer dysgu a chymhelliant - Y rôl mae iechyd a lles yn chwarae mewn ymgysylltiad a chyrhaeddiad dysgwyr.
Uned 4 - Datblygu cwricwlwm ac egwyddorion dylunio'r cwricwlwm - Cyflwyno cwricwlwm integredig, fel Dyfodol Llwyddiannus, sy'n hawlio fod dysgu i dynnu ar draws ffiniau pwnc
Uned 5 - Egwyddorion sylfaenol dysgu ac addysgu, megis 10 egwyddor TLRP
Uned 6 - Beth yw arfer effeithiol - Addysgeg effeithiol a sut mae hyn yn cael ei lywio gan brofiadau blaenorol a dysgu
Uned 7 - Rôl addysgeg effeithiol wrth hyrwyddo ymgysylltiad gweithredol dysgwyr - Rôl addysgeg effeithiol wrth ddatblygu sgiliau allweddol dysgwyr o lythrennedd, rhifedd, cymhwysedd digidol , a’r iaith Gymraeg
Uned 8 - Dimensiynau cymdeithasol a diwylliannol dysgu ac arwyddocâd dysgu anffurfiol - Gwella cyflawniad pob dysgwr. Canolbwyntir ar ystod o strategaethau gwahaniaethu
Uned 9 - Cyfathrebu a rolau allweddol gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu o fewn gwyddoniaeth addysgeg - Cyfathrebu effeithiol - Gweithio gydag eraill i gefnogi dysgu dysgwyr

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number Bydd data cyrhaeddiad perfformiad myfyrwyr a dosbarthiadau unigol yn cael ei ystyried gyda'r pwrpas o ddangos gwelliant mewn cyrhaeddiad mewn carfan o ddysgwyr yn dilyn cymhwyso strategaethau dysgu ac addysgu y gellir eu cyfiawnhau.
Communication Bydd hyn yn cael ei ddatblygu mewn trafodaethau seminar ac wrth baratoi ar gyfer yr asesiadau.
Improving own Learning and Performance Bydd asesu ar gyfer dysgu yn cael ei ymgorffori mewn llawer o sesiynau i ganiatáu i ddysgwyr fyfyrio ar eu perfformiad eu hunain ac i ddatblygu strategaethau i wella. Anogir athrawon dan hyfforddiant i archwilio eu profiadau Arbenigedd a Chyfoethogi yn eu Pasbort Dysgu Proffesiynol.
Information Technology Bydd pob aseiniad wedi ei gyflwyno ar brosesydd geiriau a bydd gofyn i fyfyrwyr ddefnyddio adnoddau TG wrth ymchwilio i'w haseiniadau.
Personal Development and Career planning Bydd myfyrio beirniadol yn cael ei ddatblygu trwy aseiniadau ysgrifenedig yn ogystal â thrwy weithgareddau cymheiriaid yn ystod seminarau a lleoliadau ysgol. Mae cryfderau a blaenoriaethau hyfforddeion ar gyfer datblygiadau proffesiynol yn y dyfodol, yn ffurfio elfen o’r portffolio. Bydd cwblhau'r portffolio yn galluogi myfyrwyr i nodi'n gliriach y dystiolaeth sy'n cadarnhau eu cyflawniadau (cryfderau, galluoedd, sgiliau), dyheadau a blaenoriaethau datblygiad proffesiynol, a bydd yn eu helpu i lywio eu Pasbort Dysgu Proffesiynol.
Problem solving Bydd gofyn i athrawon dan hyfforddiant werthuso addysgeg er mwyn dewis a chymhwyso'r strategaethau dysgu ac addysgu mwyaf priodol ar gyfer carfan o ddysgwyr. Byddant hefyd yn ystyried yr addysgeg fwyaf effeithiol ar gyfer dysgu pynciau trawsgwricwlaidd.
Research skills Bydd ymchwil yn cael ei ddatblygu trwy gydol y modiwl ond yn enwedig o ran strategaethau dysgu ac addysgu.
Subject Specific Skills Bydd myfyrwyr yn datblygu'r sgiliau canlynol sy'n ganolog i grefft addysgeg, megis: sgiliau meddwl, creadigrwydd a gwneud penderfyniadau.
Team work Bydd gweithgareddau seminar yn cynnwys gwaith grŵp.

Notes

This module is at CQFW Level 6