Module Information

Cod y Modiwl
AD34320
Teitl y Modiwl
Lleoliad Gwaith B Blwyddyn 3
Blwyddyn Academaidd
2020/2021
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:



1. Integreiddio persbectifau damcaniaethol yn feirniadol wrth ddarparu ymarfer proffesiynol

2. Bodloni’r safonau galwedigaethol cenedlaethol ar gyfer ymarferwyr blynyddoedd cynnar sy’n cael sylw yn y modiwl hwn, a dangos tystiolaeth eu bod yn eu bodloni

3. Ystyried yn feirniadol oblygiadau canfyddiadau ymchwil ar gyfer datblygu personol yn y dyfodol, a’u cloriannu

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl yn annog myfyrwyr i gymryd cyfrifoldeb am eu datblygiad personol, proffesiynol ac academaidd eu hunain a defnyddio hyn i wella eu hymarfer. Bydd myfyrio’n feirniadol ynglŷn ag arferion presennol a rolau proffesiynol yn rhan hanfodol o’r portffolio. Anogir myfyrwyr i gloriannu canfyddiadau ymchwil cyfredol ac i archwilio’r posibiliadau a’r goblygiadau ar gyfer datblygu yn y dyfodol, yn bersonol ac o fewn y proffesiwn. Neilltuir goruchwyliwr prifysgol a mentor lleoliad gwaith i bob myfyriwr. Bydd y modiwl lleoliad gwaith hwn yn rhoi sylw i’r materion canlynol:

-Arwain rhaglenni i hyrwyddo datblygiad plant a phobl ifanc SCDCCLD 0403

-Arwain y cwricwlwm addysg gynnar i blant SCDCCLD 0407

-Arwain datblygiad corfforol, emosiynol a chymdeithasol plant SCDCCLD 0408

-Arwain y gwaith o gefnogi sgiliau cyfathrebu plant SCDCCLD 0409

-Arwain y gwaith o gefnogi creadigrwydd plant SCDCCLD 0410

-Arwain y gwaith o gefnogi sgiliau plant o ran dysgu mathemategol, archwilio a datrys problemau SCDCCLD 0411

-Arwain o ran cynghori a chefnogi ymarferwyr mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar sy’n gweithio gyda phlant ag anghenion cymorth ychwanegol SCDCCLD 0415

-Arwain ymarfer sy’n hyrwyddo’r broses o ddiogelu plant a phobl ifanc SCDHSC 0044

-Datblygu eich ymarfer trwy fyfyrio a dysgu SCDHSC 0033

-Datblygu eich gwybodaeth a’ch ymarfer eich hun SCDHSC 0023

-Ymgysylltu â theuluoedd mewn ffyrdd sy’n eu hannog i ymwneud â gwaith dysgu a datblygiad eu plant SCDCCLD 0317

-Cynorthwyo teuluoedd i gymryd rhan mewn grwpiau yn y lleoliad gofal plant SCDCCLD 0332

-Cyfrannu at effeithiolrwydd timau SCDCHSC 0241

Cynnwys

Bydd myfyrwyr yn ymgymryd â 15 diwrnod mewn lleoliad blynyddoedd cynnar i ddatblygu eu sgiliau i ddod yn ymarferydd blynyddoedd cynnar. Bydd myfyrwyr yn canolbwyntio ar y cymwyseddau a amlinellir uchod. Bydd y portffolio ymarfer proffesiynol yn cynnwys tystiolaeth o ymarfer mewn lleoliad blynyddoedd cynnar. Yn ystod eu lleoliad gwaith, bydd myfyrwyr yn derbyn cymorth ar-lein ar y pynciau canlynol:

Y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol a datblygiad proffesiynol (darlith 2 awr)

Yn ogystal â hyn, bydd gan bob myfyriwr oruchwyliwr dynodedig a mentor lleoliad gwaith a fydd yn monitro cynnydd y myfyriwr.

Bydd myfyrwyr wedi cwblhau lleoliadau gwaith yn semester 2, blwyddyn 2.



Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu
Datblygu personol a chynllunio gyrfa
Datrys Problemau Bydd angen i fyfyrwyr ddangos effeithlonrwydd wrth drefnu llawer iawn o wybodaeth gymhleth a’r gallu i nodi, disgrifio a dadansoddi nodweddion allweddol y wybodaeth.
Gwaith Tim
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Bydd angen i fyfyrwyr ddangos bod ganddynt y sgiliau angenrheidiol i weithio mewn practis proffesiynol.
Sgiliau ymchwil
Technoleg Gwybodaeth

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6