Module Information

Cod y Modiwl
AD34620
Teitl y Modiwl
Lleoliad Gwaith A Blwyddyn 3
Blwyddyn Academaidd
2020/2021
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Aseiniad ysgrifenedig  (1,000 gair)  20%
Asesiad Semester Portffolio  (4,000 gair)  80%
Asesiad Ailsefyll Aseiniad ysgrifenedig  (1,000 gair)  20%
Asesiad Ailsefyll Portffolio  (4,000 gair)  80%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Integreiddio persbectifau damcaniaethol yn feirniadol wrth ddarparu ymarfer proffesiynol.

2. Bodloni’r safonau galwedigaethol cenedlaethol ar gyfer ymarferwyr blynyddoedd cynnar sy’n cael sylw yn y modiwl hwn, a dangos tystiolaeth eu bod yn eu bodloni.

3. Ystyried yn feirniadol oblygiadau canfyddiadau ymchwil ar gyfer datblygu personol yn y dyfodol, a’u cloriannu.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl yn annog myfyrwyr i gymryd cyfrifoldeb am eu datblygiad personol, proffesiynol ac academaidd eu hunain a defnyddio hyn i wella eu hymarfer. Bydd myfyrio’n feirniadol ynglŷn ag arferion presennol a rolau proffesiynol yn rhan hanfodol o’r portffolio. Anogir myfyrwyr i gloriannu canfyddiadau ymchwil cyfredol ac i archwilio’r posibiliadau a’r goblygiadau ar gyfer datblygu yn y dyfodol, yn bersonol ac o fewn y proffesiwn. Neilltuir goruchwyliwr prifysgol a mentor lleoliad gwaith i bob myfyriwr. Bydd y modiwl lleoliad gwaith cyntaf hwn yn rhoi sylw i’r materion canlynol:

-Hyrwyddo gofal, dysgu a datblygiad plant ag anghenion ychwanegol mewn partneriaeth â’u teuluoedd SCDCCLD 0321

-Asesu cynnydd plant yn unol â fframweithiau cwricwlwm perthnasol SCDCCLD 0310

-Hyrwyddo datblygiad llythrennedd, rhifedd ac iaith yn nysgu cynnar plant, mewn partneriaeth â’u teuluoedd SCDCCLD 0345

-Hyrwyddo cyfathrebu effeithiol SCDCCLD 0301

-Cefnogi eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac eraill SCDHSC 0022

-Gwerthuso’r amgylchedd ar gyfer plant a theuluoedd SCDCCLD 0412

-Datblygu eich ymarfer trwy fyfyrio a dysgu SCDHSC 0033

-Datblygu eich gwybodaeth a’ch ymarfer eich hun SCDHSC 0023

-Hyrwyddo gofal, dysgu a datblygiad plant ag anghenion ychwanegol mewn partneriaeth â’u teuluoedd CCLD 0321

Darparu gwasanaethau i deuluoedd, plant a phobl ifanc o gymunedau diwylliannol ac ieithyddol amrywiol SCDCCLD 0334

Hyrwyddo ffyrdd o gynorthwyo teuluoedd sydd ag anghenion llythrennedd, rhifedd ac iaith SCDCCLD 0315


Hyrwyddo byw’n iach ymhlith plant a theuluoedd SCDCCLD 0319

Cyfrannu at effeithiolrwydd timau SCDCHSC 0241

Cynnwys

Bydd myfyrwyr yn ymgymryd â 15 diwrnod mewn lleoliad blynyddoedd cynnar i ddatblygu eu sgiliau i ddod yn ymarferydd blynyddoedd cynnar. Bydd myfyrwyr yn canolbwyntio ar y cymwyseddau a amlinellir uchod. Yn ystod eu lleoliad gwaith, bydd myfyrwyr yn derbyn cymorth ar-lein ar y pynciau canlynol:

Y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol a datblygiad proffesiynol (darlith 2 awr)

Yn ogystal â hyn, bydd gan bob myfyriwr oruchwyliwr dynodedig a mentor lleoliad gwaith a fydd yn monitro cynnydd y myfyriwr.

Bydd myfyrwyr wedi cwblhau lleoliadau gwaith yn semester 2, blwyddyn 2.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6