Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Adroddiad ar ynysu'r gymysgedd o ficrobau (2000 gair) | 40% |
Asesiad Semester | Adroddiad grŵp: Erthygl fer ar ddulliau dadansoddi nad ydynt yn dibynnu ar dyfiant (1500 gair) | 20% |
Asesiad Semester | Cyflwyno gwybodaeth ar bwnc llosg yn ymwneud â microbau sy’n berthnasol i bolisi cyhoeddus | 40% |
Asesiad Ailsefyll | Yr un fath ag uchod. Rhaid i fyfyrwyr sefyll elfennau o'r asesiad sy'n cyfateb i'r rhai a arweiniodd at fethu'r modiwl. | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Gweithio'n ddiogel ac effeithiol mewn labordy microbioleg.
Defnyddio amrywiaeth o ddulliau annibynnol a dulliau sy'n dibynnu ar dyfiant ar gyfer disgrifio microbau.
Adrodd canlyniadau ymchwiliadau i ficrobau a chymunedau microbau gan ddefnyddio ystod o ddulliau ysgrifennu gwyddonol a ddefnyddir gan ficrobiolegwyr proffesiynol.
Cyfathrebu perthnasedd gwyddoniaeth microbau i bolisiau cyfredol a hanfodion cymdeithasol.
Disgrifiad cryno
Nod y modiwl yw arfogi’r myfyrwyr â’r sgiliau sylfaenol sy’n ddisgwyliedig oddi wrth berson graddedig sy’n gweithio mewn maes cysylltiedig â microbioleg. Yn gyntaf, bydd y myfyrwyr yn cael eu trwytho mewn sesiynau labordy a sesiynau maes a gynlluniwyd i gyflwyno’r myfyriwr i ystod eang o ddulliau annibynnol, a dulliau sy’n seiliedig ar dyfiant, o ddisgrifio microbau. Yn ail, bydd y myfyrwyr yn dehongli data o ddadansoddi meintiol a biowybodaeth gan ddefnyddio amrywiaeth o ffurfiau ysgrifennu gwyddonol. Yn drydydd, bydd y myfyrwyr yn datblygu eu safbwyntiau ar y rhyngwyneb rhwng mibrobioleg a chymdeithas a pholisi, gan archwilio pynciau llosg ym maes gwyddor microbau i gyfleu casgliadau ymchwil i gynulleidfaoedd an-arbenigol.
Cynnwys
Yn ystod sesiynau ymarferol, cyflwynir amrywiaeth eang o ddulliau microbiolegol a ddefnyddir yn y maes ac yn y labordy, gan gynnwys samplu amgylcheddol, techneg aseptig a gwaith diogel gyda microbau, tyfiannau, technegau microsgopig a biocemegol ar gyfer adnabod microbau, arbrofion i ddarlunio ffisioleg microbau, ac yn olaf y technegau molecylaidd diweddaraf ar gyfer dadansoddi cymunedau microbau.
Bydd y sesiynau gweithdy yn cyflwyno dulliau ar gyfer dadansoddi microbau a chymunedau microbau yn feintiol a thrwy fiowybodeg (e.e. dadansoddi genynnau RNA ribosomol 16S). Bydd y data hyn a DNA y gymuned microbau a ddadansoddir yn y sesiynau ymarferol yn ymwneud a diddordebau ymchwil cyfredol y staff, ac yn deillio ohonynt.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Llunio adroddiadau gwyddonol mewn gwahanol ffurfiau ysgrifenedig a thargedu gwahanol gynulleidfaoedd. Sgiliau gwrando a thrafod ar gyfer y seminarau. Cyfathrebu’n effeithiol yn bersonol ac yn electronig i lunio'r adroddiad cryno ar y cyd. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd myfyrwyr yn magu hyder yn eu gallu i werthuso problemau microbiolegol ac asesu'n wrthrychol ansawdd atebion arfaethedig mewn gwahanol gyd-destunau: labordy, maes a chyfathrebu gwyddoniaeth microbau er lles y cyhoedd. Ar ben hyn, bydd y myfyrwyr yn dod i werthfawrogi pwysigrwydd gwyddoniaeth microbau mewn amrywiaeth o yrfaoedd gwahanol. |
Datrys Problemau | Bydd y dosbarthiadau ymarferol yn galluogi myfyrwyr i ennill profiad wrth gynllunio, gweithredu a dehongli data o arbrofion, ac yn arbennig wrth adnabod microbau o ystod o brofion. Yn y seminarau bydd gofyn i’r myfyrwyr werthuso problemau cymhleth a llunio crynodebau effeithiol o’r pynciau dan sylw. |
Gwaith Tim | Bydd myfyrwyr yn gweithio mewn parau/grwpiau bychain yn ystod sesiynau ac yn cydweithredu wrth ysgrifennu'r adroddiad cryno ar y cyd. Bydd angen iddynt weithio'n effeithiol fel rhan o dîm er mwyn llunio'r gwaith cwrs hwn. Bydd gwaith tîm yn hanfodol i gyflawni'r gwaith maes ar gyfer y prosiect grŵp yn ddiogel ac yn effeithiol. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio deunyddiau, rheoli amser a chyrraedd dyddiadau cau, y tu allan i oriau cyswllt arferol. |
Rhifedd | Bydd gwaith ymarferol yn cynnwys cyfrif a dadansoddi ystadegol gan ddefnyddio'r data a gasglwyd. |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd myfyrwyr yn cael profiad o weithio'n ddiogel ac yn effeithiol ar gyfer cymhwyso ystod o sgiliau labordy microbiolegol traddodiadol a molecylaidd i ddadansoddi microbau. Bydd y myfyrwyr yn datblygu eu hymwybyddiaeth o ymrwymiadau proffesiynol a chymdeithasol gwyddonwyr microbau cyfoes. |
Sgiliau ymchwil | Bydd myfyrwyr yn ymchwilio i bynciau ehangach na chwmpas y deunyddiau a ddarperir ac yn gwerthuso data a thestunau o'r cronfeydd data cyhoeddus sydd ar gael ar gyfer holl elfennau'r modiwl. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio'r we i ddod o hyd i ffynonellau gwybodaeth a defnyddio cronfeydd data i chwilio am brif destunau a dadansoddi cyfresi DNA. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5