Module Information

Cod y Modiwl
BG34820
Teitl y Modiwl
Datblygiadau mewn Amaethyddiaeth
Blwyddyn Academaidd
2020/2021
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Adroddiad Taith Astudio ysgrifenedig  (3,000 gair)  50%
Asesiad Semester Adroddiad ymgynghorol ysgrifenedig  (2,000 gair)  50%
Asesiad Ailsefyll Rhaid i fyfyrwyr sefyll elfennau o'r asesiad sy'n cyfateb a'r rheini a arweiniodd at fethu'r modiwl.  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Dangos y gallu i ystyried amaethyddiaeth a materion amaethyddol o amrywiaeth o safbwyntiau penodol, amlddisgyblaethol a rhyngddisgyblaethol.

2. Dangos dealltwriaeth o’r berthynas rhwng polisi, ffactorau economaidd-gymdeithasol, arferion amaethyddol a’r economi wledig.

3. Defnyddio dull beirniadol, arfarnol a dadansoddol wrth ystyried amaethyddiaeth a’r economi wledig.

4. Dangos sut y gellir gwella systemau amaethyddol drwy eu haddasu a’u rheoli.

5. Defnyddio eu disgyblaeth i ddatrys problemau yn y diwydiant amaeth a defnyddio safonau proffesiynol.

6. Cynghori ar arferion cyfredol a chyfrannu at drafodaethau ar lefel fanwl a phriodol.

Disgrifiad cryno

Yn rhan gyntaf y modiwl bydd y myfyrwyr yn ymweld â sir neu ranbarth o fewn gwledydd Prydain ar gwrs maes neu daith astudio a fydd yn para wythnos, gan feithrin dealltwriaeth o nodweddion daearyddol, cymdeithasol ac economaidd yr ardal honno. Bydd ymweliadau â ffermydd, busnesau gwledig a chyrff sy'n chwarae rhan yn rheoleiddio a rheoli cefn gwlad yn darparu astudiaethau achos a fydd yn amlygu'r prif faterion dan sylw. Yn ogystal â’r ymweliadau a'r cyfraniadau y bydd y myfyrwyr yn eu gwneud yn y seminarau gyda'r hwyr, byddant yn cyflwyno adroddiad ysgrifenedig am y rhanbarth. Byddant bob amser yn gweithio mewn modd dadansoddol, beirniadol ac arfarnol.

Yn yr ail ran bydd myfyrwyr yn ymweld â menter neu fusnes amaethyddol yn rôl ymgynghorydd, lle y cyflwynir her dechnegol benodol iddynt. Bydd y myfyrwyr yn paratoi ac yn cyflwyno adroddiad ymgynghorol technegol. Bydd y gwaith yn ddadansoddol ac yn cynnwys gwneud adolygiad trylwyr o’r sefyllfa gyfredol, nodi’r rhesymau sylfaenol am y broblem neu’r her a gwneud argymhellion ynglŷn â’r camau y dylai’r cleient eu cymryd.

Cynnwys

Cyflwynir y modiwl mewn dwy ran.

Cyflwynir y rhan gyntaf trwy gyfuniad o ymweliadau a gynhelir yn ystod cwrs maes / taith astudio o fusnesau, sefydliadau a safleoedd neu leoliadau yng nghwmni staff a/neu dywyswyr arbenigol. Cynhelir y seminarau gyda’r hwyr ar ôl yr ymweliadau, a chyflwynir adroddiad manwl ar ôl i’r myfyriwr ddychwelyd.

Bydd yr ail ran yn cynnwys ymweliad â menter neu fusnes amaethyddol yng nghwmni’r perchennog/ rheolwr, casglu gwybodaeth, adnabod problem neu her benodol a mynd i’r afael ag ef, awgrymu datrysiadau posibl a’r camau priodol i’w cymryd drwy lunio adroddiad ymgynghorol.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd y ddau asesiad yn datblygu sgiliau sy’n gysylltiedig â derbyn, cloriannu ac ymateb i ffynonellau gwybodaeth amrywiol. Datblygir sgiliau ysgrifenedig yn y ddau aseiniad. Bydd yr Adroddiad Ymgynghorol yn datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig mewn arddull a chyd-destun proffesiynol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd hyn yn ddisgwyliedig fel rhan o’r dysgu adfyfyriol yn y ddau asesiad.
Datrys Problemau Mae’r asesiadau’n ymwneud â phroblem realistig a wynebir gan reolwyr amaethyddol, lle bo data ac egwyddorion ar gael, ond nid y datrysiad.
Gwaith Tim Bydd casglu data a gwybodaeth yn y maes yn cynnwys elfen o weithio ar y cyd.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd yr Adroddiad Ymgynghorol yn gofyn am ddefnyddio arddull gyflwyno newydd, a bydd gofyn am ystyriaeth a’r gallu i addasu.
Rhifedd Bydd cyfrifiadau rhifyddol a chyflwyno data rhifyddol yn elfennau annatod o’r ddau asesiad.
Sgiliau pwnc penodol Bydd y ddau asesiad yn helpu i wella sgiliau pwnc-benodol yn sylweddol. Byddant yn galw am y gallu i gyflwyno trosolwg cynhwysfawr yn ogystal a gwerthusiad manwl a ffocws mwy penodol.
Sgiliau ymchwil Bydd hyn yn rhan o'r gwaith a asesir.
Technoleg Gwybodaeth Gwneir defnydd sylweddol o ffynonellau data digidol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6