Module Information

Cod y Modiwl
CT20220
Teitl y Modiwl
Trosedd yn y Gymru Gyfoes
Blwyddyn Academaidd
2020/2021
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester ​Prosiect ymchwil ar agwedd o drosedd yng Nghymru o ddewis  (2,000 gair)  50%
Asesiad Semester Cyflwyniad poster ar agweddau trosedd yng Nghymru  (Chwarter awr)  50%
Asesiad Ailsefyll ​Prosiect ymchwil ar agwedd o drosedd yng Nghymru o ddewis  (2,000 gair)  50%
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad poster ar agweddau trosedd yng Nghymru  (Chwarter awr)  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. ​Trafod hanes trosedd yng Nghymru a sut mae wedi cyfrannu at siapio polisi

2. Ystyried a thrafod trosedd hanesyddol a’r trosedd sydd ar gynnydd a’r rhesymau dros hyn

3. Trafod agweddau trosedd yng Nghymru a’r hyn sy’n ei wahaniaethu rhwng trosedd yn Lloegr

4. Cynnal gwaith ymchwil i mewn agwedd benodol o drosedd Cymru a’i gyflwyno yn ysgrifenedig.

5. Trafod ar lafar ar agwedd o drosedd yng Nghymru

6. Arfarnu’n feirniadol mesurau llwyddiant cyfreithiau a pholisiau sy’n ymwneud a throsedd yng Nghymru

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl 20 credyd hwn yn darparu 12 sesiwn 2 awr ar faterion yn ymwneud a throsedd yng Nghymru gan drafod troseddau treftadol, anufudddod sifil, troseddu gan ieuenctid a throseddu gweldig. Mae’r materion hyn i gyd a dimensiwn Cymreig naill ai o ran materion polisi, neu o ran mynediad at gyfiawnder, hanes neu berthnasedd penodol.

This 20 credit module will comprise of 12 x 2 hour sessions on matters relating to crime in Wales. It will cover the topics of heritage crime, civil disobedience, youth crime. and rural crime. All of these areas have a specifically Welsh dimension, either in terms of policy-making, or in terms of access to justice, history and significance.

Cynnwys

Cymru a’r system droseddol

Troseddu treftadol

Anufudddod sifil

Troseddu gan ieuenctid

Troseddu gwledig

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Sgiliau ysgrifenedig a sgiliau trafod ar lafar.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa ​​Datblygu hyder ar gyfer cyfweliadau.
Datrys Problemau Canfod a dewis deunyddiau perthnasol.
Gwaith Tim Trafodaethau o fewn y sesiynau grwp.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Ymateb i sylwadau ac adborth yn y sesiynau tiworial.
Rhifedd Peth gwaith efo ystadegau.
Sgiliau pwnc penodol Dealltwriaeth o drosedd Cyflwyno dadl Ysgrifennu a chyflwyno ar lafar
Sgiliau ymchwil Prosiect ymchwil a gwaith paratoi.
Technoleg Gwybodaeth Gwaith ymchwil a chanfod deunyddiau.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5