Module Information

Cod y Modiwl
CT32120
Teitl y Modiwl
Cyfraith a Pholisi Cymru
Blwyddyn Academaidd
2020/2021
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Elfennau Anghymharus
Rhagofynion
GF13110 neu GF33110 , CT10420, CT13110 (or welsh equivalent LA13110, LA33110, LA15710, CT10420, CT13110)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Prosiect ymchwil ar  agwedd o gyfraith Cymru o ddewis (3,000 gair)   50%
Arholiad Semester 1 Awr   Trafodaeth lafar  ar ffurf viva fechan ar agweddau o gyfraith Cymru  50%
Asesiad Ailsefyll Ail sefyll y rhan a fethir  50%
Arholiad Ailsefyll 1 Awr   Ail sefyll y rhan a fethir  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Dangoes lefel uchwl o allu thrafod agweddau penodol a manwl o gyfraith a pholisi datganoledig Cymru mewn modd sydd yn briodol ar gyfer gwaith academaidd.

2. Dangos dealltwriaeth feirniadol a soffistigedig o'r gwahaniaethau mewn sylwedd rhwng cyfraith Cymru a chyfraith Lloegr, ac oblygiadau hynny mewn ymarfer.

3. Egluro'n fanwl polisiau Cymreig yng nghyd-destu cyfreithiau rhanbarthau eraill y du, Cymru a Lloegr fel awdurdodaeth a'r DU fel gwladwriaeth.

4. Egluro'n fanwlarwyddocad cyfreithiau a pholisiau datganoledig, ac sut mae newidiadau yn yr rhain yn effeithio ar hawliau a budddiannau yr unigolyn.

5. dangos tystiolaeth fanwl o ymchwil annibynnol, a dadansoddi arwyddocad yr ymchwil hwnnw, gyda chyfeirnodi priodol.

6. dangos dealltwriaeth fanwl o gryfderau a gwendidau cyfraith a pholisi Cymru o fewn cyd-destun y setliad datganoli.

7. Dangos dealltwriaeth feirnadol a manwl o ragolygon Cyfraith Cymru at y dyfodol.

Disgrifiad cryno

Ers 1999, y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi gallu deddfu ar sawl maes cyfreithiol, ac erbyn hyn y mae sawl agwedd o gyfraith Cymru sydd yn wahanol iawn i gyfraith Lloegr. Amcan y modiwl hwn felly fydd i drin a thrafod rhai o’r materion hyn, sef cyfaith gofal iechyd, cyfraith addysg, cyfraith tai, a dwyieithrwydd yn y gyfraith.

Cynnwys

1. Cymru – y setliad datganoli

2. Iechyd a chyfraith a pholisi iechyd

3. Addysg yng Nghymru

4. Cartrefi a thai

5. Dwyieithrwydd cyfreithiol

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Sgiliau ysgrifenedig a sgiliau trafod ar lafar.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu hyder ar gyfer cyfweliadau.
Datrys Problemau Canfod a dewis deunyddiau perthnasol.
Gwaith Tim Trafodaethau o fewn y sesiynau grwp.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Ymateb i sylwadau ac adborth.
Rhifedd Peth gwaith efo ystadegau.
Sgiliau pwnc penodol Dealltwriaeth o’r gyfraith. Cyflwyno dadl. Ysgrifennu a chyflwyno ar lafar.
Sgiliau ymchwil Prosiect ymchwil a gwaith paratoi.
Technoleg Gwybodaeth Gwaith ymchwil a chanfod deunyddiau.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6