Module Information

Module Identifier
CT39020
Module Title
Traethawd Estynedig y Gyfraith a Throseddeg
Academic Year
2020/2021
Co-ordinator
Semester
Semester 2 (Taught over 2 semesters)
Mutually Exclusive
LC39020; LC/CT31040
Other Staff

Course Delivery

 

Assessment

Due to Covid-19 students should refer to the module Blackboard pages for assessment details

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment Cyflwyniad Llafar neu Gyflwyniad Poster  (8-10 munud)  25%
Semester Assessment Traethawd Estynedig  5000-8000 gair i’w gyflwyno ar ddiwedd semester 2. Bydd gofyn cyflwyno adroddiad ymchwil yn wythnos 8 yn semester 1. Gall methu â chyflwyno adroddiad ymchwil boddhaol olygu y bydd 5 marc yn cael eu tynnu o’r marc ar gyfer y traethawd terfynol.  75%
Supplementary Assessment Cyflwyniad Llafar neu Gyflwyniad Poster  (8-10 munud)  25%
Supplementary Assessment Traethawd Estynedig  5000-8000 gair i’w gyflwyno ar ddiwedd semester 2. Bydd gofyn cyflwyno adroddiad ymchwil yn wythnos 8 yn semester 1. Gall methu â chyflwyno adroddiad ymchwil boddhaol olygu y bydd 5 marc yn cael eu tynnu o’r marc ar gyfer y traethawd terfynol.  75%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

​Dysgu’r sgiliau angenrheidiol i wneud gwaith ymchwil mewn maes cyfraith a/neu droseddeg o’u dewis ac ysgrifennu canlyniadau’r ymchwil hwn mewn modd clir a dealladwy er mwyn sicrhau bod y wybodaeth a’r syniadau sydd yn yr ymchwil yn cael eu hyrwyddo mor eang a phosib.

2. Cymhwyso’r sgiliau a ddysgwyd yn y modiwlau Sgiliau Ymchwil i’w dewis faes o fewn cyfraith, troseddeg neu seicoleg troseddu.

3. Cynnal ymchwil annibynnol heb fawr o gyfarwyddyd neu oruchwyliaeth.

4. Darparu cyflwyniad rhesymegol a chlir ac ysgrifennu eu canfyddiadau.

5. Adolygu corff cydlynol o wybodaeth yn feirniadol a’i gyflwyno i gynulleidfa.

Gellir crynhoi canlyniadau’r hyfforddiant sy’n gysylltiedig a’r modiwl fel a ganlyn:
(a) dangos gwerthfawrogiad o bosibiliadau ymchwil pynciau trwy ddewis testun hyfyw i ymchwilio iddo.
(b) Adolygu, cloriannu a blaenoriaethu arwyddocâd y deunyddiau a gafwyd a’r materion a nodwyd.
(c) datblygu’r sgiliau sy’n gysylltiedig a chynllunio, trefnu ac amserlennu darn o waith ymchwil parhaus y gellir ei gynnal dros gyfnod o rai misoedd.
(d) datblygu’r gallu i drefnu syniadau a rhoi deunyddiau mewn trefn i gyflwyno'r ddadl a’r data yn effeithiol.
(e) datblygu sgiliau ysgrifennu academaidd er mwyn rhoi cyflwyniad eglur, cywir a darllenadwy o'r pwnc dan sylw mewn darn o waith ysgrifenedig sylweddol rhwng 8000-10000 gair.

Brief description

Mae'r modiwl hwn yn cynnwys ymarfer ymchwil ac ysgrifennu troseddegol dros gyfnod sy'n ymwneud â phwnc arbennig yn hytrach nag wedi'i seilio ar gwrs astudio rhagnodedig. Y myfyriwr fydd yn dewis pwnc i'w ymchwilio'n fanwl gyda chymeradwyaeth yr Adran a throsglwyddo i gamau ymchwilio ac ysgrifennu'r ymarfer dan gyfarwyddyd aelod o'r staff sy'n arbenigo ym maes y traethawd estynedig. Mae'r ymarfer cyffredinol o ymchwilio a llunio'r traethawd estynedig yn datblygu'r wybodaeth am adnoddau'r llyfrgell, a'r hyfforddiant ar gyfer eu defnyddio, a gyflwynir yn y modiwlau 'Criminology in Action’ ac ‘Introduction to Criminology’. Mae hefyd yn adeiladu ar hyfforddiant a chymhwysiad ymarferol y gallu i ddeall methodolegau'r gwyddorau cymdeithasol a ddysgwyd yn y modiwl Sgiliau Ymchwil Troseddeg. Mae ymchwilio'n llwyddiannus yn rhagdybio'r gallu i ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau'r llyfrgell ac i olrhain ffynonellau drwy gyfrwng cronfeydd data a chymorthyddion llyfryddiaethol. Darperir cyfarwyddyd gan y goruchwyliwr a bennwyd drwy gyfres o gyfarfodydd. Yn ystod y rhain, bydd y myfyriwr yn nodi ei gynnydd ac yn cyflwyno drafft neu ddrafftiau ysgrifenedig i gael sylwadau arnynt. Swyddogaeth y goruchwyliwr fydd rhoi cyngor am fethodoleg ymchwil a'r modd y cyflwynir yr ymchwil yn y traethawd ei hun.

Content

​Fe'i gosodir gan y myfyrwyr yn dilyn cyngor a chymeradwyaeth y staff.

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number Bydd rhai o’r testunau yn cynnwys dadansoddiadau ystadegol cymhleth y bydd angen eu deall a’u cloriannu.
Communication Anogir cyfathrebu llafar trwy drafod syniadau a mynegi problemau sy’n gysylltiedig a'r ymchwil mewn cyfarfodydd gyda’r goruchwyliwr, yn ogystal a’r cyflwyniad sy’n ofynnol ar gyfer y gynhadledd israddedig yn ystod semester 2. Datblygir cyfathrebu ysgrifenedig trwy’r angen i fynegi adroddiad darllenadwy o’r pwnc dan sylw ar ffurf ysgrifenedig sylweddol.
Improving own Learning and Performance Trwy ddatblygu corff sylweddol o wybodaeth a’r angen i leoli a threfnu deunydd perthnasol, bydd y myfyriwr yn dysgu sut i ddatblygu technegau academaidd mwy effeithiol.
Information Technology Dod o hyd i ddeunydd perthnasol, yn arbennig trwy ddefnyddio canllawiau llyfryddiaethol a chronfeydd data pwnc; Paratoi’r aseiniad yn electronig.
Personal Development and Career planning Gwell gallu ar gyfer meddwl annibynnol a beirniadol. Sgiliau rheoli amser da wrth baratoi ar gyfer cyfarfodydd goruchwylio dros ddau semester, a chyflwyno.
Problem solving Mae gosod pwnc hyfyw i ymchwilio iddo, gosod cwestiwn ymchwil a gweithio tuag at ei ateb yn defnyddio sgiliau datrys problemau a fydd yn gwella ac yn defnyddio sgiliau a ddatblygwyd eisoes.
Research skills (a) datblygu gwerthfawrogiad o botensial ymchwil pynciau trwy ddewis pwnc hyfyw i ymchwilio iddo; (b) datblygu sgiliau ymchwil o ran lleoli’r deunydd perthnasol, yn arbennig trwy ddefnyddio canllawiau llyfryddiaethol a chronfeydd data pwnc; (c) datblygu’r sgiliau sy’n gysylltiedig a chynllunio, trefnu ac amserlennu darn o waith ymchwil parhaus dros gyfnod o rai misoedd; (d) datblygu’r sgiliau sy’n gysylltiedig a chynllunio, trefnu ac amserlennu darn o waith ymchwil parhaus dros gyfnod o ddau semester; (e) datblygu sgiliau ysgrifennu academaidd ar gyfer cyflwyno adroddiad eglur, rhugl a darllenadwy o’r pwnc dan sylw ar ffurf ysgrifenedig sylweddol o 8,000 – 10,000 o eiriau.
Subject Specific Skills
Team work Cynhelir nifer o gyfarfodydd lle gall myfyrwyr, dan gyfarwyddyd, drafod a chymharu problemau a wynebwyd a’r atebion posibl iddynt.

Notes

This module is at CQFW Level 6