Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran | 
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Traethawd 3000 o eiriau Traethodau: 3.000 o eiriau | 60% | 
| Asesiad Semester | Traethawd 2000 o eiriau | 40% | 
| Asesiad Ailsefyll | Traethawd 3000 o eiriau | 60% | 
| Arholiad Ailsefyll | Traethawd 2000 o eiriau | 40% | 
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Adnabod y testunau mwyaf perthnasol ar gyfer olrhain datblygiadau cynharaf y chwedl Arthuraidd;
Pwyso a mesur y dadleuon o blaid ac yn erbyn y gred fod Arthur yn berson hanesyddol o gig a gwaed;
Deall a dadansoddi o leiaf ddwy gerdd gynnar o safbwynt yr hyn a ddywedir ynddynt am y chwedl Arthuraidd;
Deall a dadansoddi testun rhyddiaith ‘Culhwch ac Olwen’ o safbwynt yr hyn a ddywedir ynddo am y chwedl Arthuraidd;
Darllen a dehongli testunau barddonol a rhyddiaith Cymraeg Canol;
Olrhain trosglwyddiad ansefydlog a gwerthfawr y testunau a astudir drwy gyfrwng llawysgrifau cynnar;
 
 Deall natur y delfryd arwrol yn yr Oesoedd Canol o safbwynt Cymreig.
 
 
 
Cynnwys
1. Y maes llafur: braslun o’r maes ac o’r ffynonellau perthnasol;
2. A oedd Arthur yn ddyn o gig a gwaed? Astudio’r ffynonellau;
3. Darllen ac astudio ‘Pa Ŵr yw’r Porthor’;
4. Darllen ac astudio ‘Pa Ŵr yw’r Porthor’;
5. Darllen ac astudio ‘Preiddiau Annwfn’;
6. Darllen ac astudio ‘Preiddiau Annwfn’;
7. Darllen ac astudio rhannau o chwedl ‘Culhwch ac Olwen’;
8. Darllen ac astudio rhannau o chwedl ‘Culhwch ac Olwen’;
9. Darllen ac astudio rhannau o chwedl ‘Culhwch ac Olwen’;
10. Darllen ac astudio rhannau o chwedl ‘Culhwch ac Olwen’.
Disgrifiad cryno
Yn sgil pwysigrwydd y ffynonellau hynny i ddiwylliant a hanes Cymru, diben y modiwl hwn yw cynnal y diddordeb yn y maes mewn cyd-destun academaidd Cymraeg. At hynny, mae astudiaeth o’r maes yn fodd hwylus o ymgyfarwyddo â nifer o wahanol feysydd eraill, megis hanesyddiaeth (Historia Brittonum), barddoniaeth gynnar (‘Preiddiau Annwfn’), chwedlau cynnar (‘Culhwch ac Olwen’) a bucheddau seintiau fel Cadog ac Illtud. Mae hefyd yn gyflwyniad defnyddiol i’r ddisgyblaeth o ddarllen testunau Cymraeg Canol.
Bwrir golwg yn y modiwl hwn ar y testunau cynharaf sy’n ymwneud â’r chwedl Arthuraidd. Beth sydd ar ôl i’w weld o Arthur ar ôl diosg coron aur y brenin poblogaidd, gwisg urddasol ymerawdwr y rhamantau Ffrengig a’r fantell ddychmygus a roddwyd iddo gan Sieffre o Fynwy? Mae’r ateb yn aml yn ansicr ond bob tro’n gyffrous ac amlweddog. A fu Arthur hanesyddol o gig a gwaed? Edrychir yn fanwl ar y ffynonellau a ystirir weithiau’n rhai hanesyddol.
Edrychir hefyd ar y ffynonellau mwy niferus sy’n creu darlun o Arthur fel arwr a phennaeth ar fintai o ryfelwyr. Astudir dwy gerdd, y naill o Lyfr Du Caerfyrddin, sef ‘Pa Ŵr yw’r Porthor’, a’r llall o Lyfr Taliesin, sef ‘Preiddiau Annwfn’. Astudir hefyd rannau o chwedl ‘Culhwch ac Olwen’ sy’n ymwneud ag Arthur a’i wŷr, yn enwedig Cai a Bedwyr. Bydd darllen yn ofalus a thrylwyr destunau Cymraeg Canol yn rhan allweddol o’r gwaith hwn.
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau | 
|---|---|
| Cyfathrebu | Ceir yn y darlithoedd elfen o drafod a chyd-ddarllen, ac anogir y myfyrwyr i gyfathrebu’n effeithiol yn hyn o beth. At hynny, disgwylir i’r myfyrwyr gyfrathrebu’n effeithiol yn ysgrifenedig wrth lunio’r traethawd ac wrth gwblhau’r arholiad. | 
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygir sgiliau hanfodol (megis delio â llif gwaith yn wythnosol, trefnu amser yn effeithlon a chyflawni ymchwil yn annibynnol) drwy gydol y modiwl. | 
| Datrys Problemau | Datblygir drwy’r darlithoedd allu’r myfyrwyr i ddatrys problemau yn ymwneud â darllen yn fanwl destunau Cymraeg Canol. | 
| Gwaith Tim | Anogir y myfyrwyr i drafod a chyd-ddarllen yn y darlithoedd wrth astudio’r testunau. | 
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Anogir y myfyrwyr i wella eu gallu i ddarllen a dehongli testunau Cymraeg Canol yn wythnosol | 
| Rhifedd | Mae rhoi ystyriaeth i berthynas gwahanol destunau yn ôl y dyddiadau pan gawsant eu creu yn rhan o’r gwaith. | 
| Sgiliau pwnc penodol | Y gallu i ddarllen a deall testunau barddonol a rhyddiaith Cymraeg Canol, a thrwy hynny i ddysgu mwy am ddatblygiad yr iaith Gymraeg o’r Oesoedd Canol hyd heddiw. | 
| Sgiliau ymchwil | Asesir y gallu i ymchwilio’n annibynnol ac i bwyso a mesur testunau a gwybodaeth yn feirniadol yn Asesiad 1 a 2. | 
| Technoleg Gwybodaeth | Anogir y myfyrwyr i wneud defnydd o’r Bwrdd Du ac i ddod o hyd i ddelweddau o rai o’r ffynonellau perthnasol ar lein (er enghraifft, cerddi o Lyfr Du Caerfyrddin ar wefan y Llyfrgell Genedlaethol). | 
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6
