Module Information

Cod y Modiwl
CY34520
Teitl y Modiwl
Y Gynghanedd: Cwrs Trochi
Blwyddyn Academaidd
2020/2021
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Chwe thasg wythnosol (5% yr un)  lle gosodir cwestiynau ymarferol er mwyn asesu’n ffurfiannol gynnydd y myfyrwyr wrth ddysgu egwyddorion y gynghanedd.  30%
Asesiad Semester Tair tasg wythnosol (10% yr un)  ar gyfer seminarau 8, 9 a 10, lle gofynnir i’r myfyrwyr asesu o safbwynt cynganeddol wahanol destunau gosod – megis cerddi o’r Oesoedd Canol, emynau enwog neu gerddi ar ffurf trydariad – gan roi ar waith yr hyn a ddysgwyd yn chwe darlith gychwynnol y modiwl. Mae’r rhan fwyaf o’r cwestiynau a osodir yng nhasgau rhan 1 a rhan 2 yn rhai nad oes iddynt ond atebion cywir neu anghywir (megis tasgau gramadegol), ond ceir rhai tasgau, megis dadansoddi testun, sy’n cynnwys mwy hyblygrwydd.   Dros bum wythnos (seminarau)  30%
Arholiad Semester 2 Awr   - Adran 1: cwestiynau ymarferol ynghylch adnabod a chreu cynganeddion; adran 2: dewis o gwestiynau traethawd ar hanes y grefft a’i datblygiad hyd heddiw.  40%
Asesiad Ailsefyll Traethawd byr yn ymateb i gwestiynau ymarferol  er mwyn asesu’n ffurfiannol gynnydd y myfyrwyr wrth ddysgu egwyddorion y gynghanedd (1,500 o eiriau)  30%
Asesiad Ailsefyll Traethawd byr yn asesu  gwahanol destunau o safbwynt cynganeddol (1500 o eiriau)  30%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Adran 1: cwestiynau ymarferol ynghylch adnabod a chreu cynganeddion; adran 2: dewis o gwestiynau traethawd ar hanes y grefft a’i datblygiad hyd heddiw.  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Adnabod a dadansoddi’r prif fathau o gynghanedd;

Llunio cynganeddion cytsain syml;

Deall o’r newydd rai egwyddorion ieithyddol sylfaenol ynghylch yr iaith Gymraeg, megis cyseinedd, sillafau, acennu, odli;

Adnabod a dadansoddi enghreifftiau o’r gynghanedd mewn gwahanol gyfnodau yn hanes y grefft, o’r cynfeirdd i’r beirdd mwyaf diweddar;

Adnabod a deall sut y datblygodd y gynghanedd o gyfnod i gyfnod yn hanes y grefft;

Deall datblygiadau ymarferol a theoretig diweddar ym maes y gynghanedd.

Disgrifiad cryno

Ystyrir y gynghanedd yn grefft gwbl unigryw i’r iaith Gymraeg ac yn drysor diwylliannol. I’r rheini sydd wedi bod â diddordeb yn y grefft ers tro, ond heb gael cyfle i fynd i’r afael â hi, bydd y cwrs hwn yn eu rhoi ar ben ffordd. I’r rheini sy’n credu mai crefft i feirdd yn unig yw’r gynghanedd, bydd y cwrs hwn yn eu hannog i ailfeddwl. Nid yw popeth a ysgrifennir mewn cynghanedd yn farddoniaeth, ac mae’r sgiliau a ddysgir fel rhan o’r cwrs yn werthfawr i unrhyw un sy’n defnyddio’r iaith Gymraeg.
Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno egwyddorion theoretig ac ymarferol y grefft o gynganeddu. Yn y bôn, crefft yw’r gynghanedd sy’n galluogi i’r sawl sy’n ei hymarfer adnabod geiriau a gramadeg mewn modd trylwyr iawn. Beth bynnag a ysgrifennir, o gerdd i nofel i draethawd i ddarn cyfieithu, gall dealltwriaeth o’r gynghanedd gyfoethogi defnydd yr awdur o’r iaith Gymraeg. Yn ogystal â’r gwaith ymarferol o lunio cynganeddion, bydd y cwrs yn olrhain twf a datblygiad hanesyddol y gynghanedd ar hyd y canrifoedd, o Aneirin i Twm o’r Nant a Goronwy Owen (a gyfeiriodd at y gynghanedd fel ‘that horrid jingle’) i’r datblygiadau mwyaf diweddar.

Cynnwys

Chwe gweithdy dwyawr o hyd a phum seminar ddwyawr o hyd dros gyfnod o 11 wythnos.

1. Gweithdy: hanfodion ymarferol y gynghanedd (y ‘sbectol gynganeddu’), sef cytseiniaid/llafariaid, sillafau, acen, odl;
2. Gweithdy: y gynghanedd gytsain, gyda phwyslais ar gynganeddu geiriau unigol ac osgoi proestio;
3. Gweithdy: y gynghanedd gytsain, gyda phwyslais ar gynganeddu geiriau unigol gyda mwy nag un gair arall;
4. Gweithdy: y gynghanedd gytsain, gyda phwyslais ar lunio llinellau seithsill;
5. Gweithdy: ymarfer llunio cynganeddion cytsain, gan ganolbwyntio ar feiau a goddefiadau;
6. Gweithdy: y gynghanedd sain a’r gynghanedd lusg;
7. Seminar: darllen a dadansoddi enghreifftiau o’r gynghanedd yng ngwaith beirdd cyfoes;
8. Seminar: darllen a dadansoddi enghreifftiau o’r gynghanedd yng ngwaith y cynfeirdd, y gogynfeirdd a’r cywyddwyr, gan olrhain twf a datblygiad y grefft;
9. Seminar: darllen a dadansoddi enghreifftiau o’r gynghanedd yng ngwaith beirdd y cyfnod modern cynnar, o anterliwtiau Twm o’r Nant i waith yr emynwyr a’r awdlau eisteddfodol, ynghyd ag adfywiad y canu cynganeddol gan feirdd a hynafiaethwyr y ddeunawfed ganrif a’i ddylanwad ar y canu caeth a’r canu rhydd, yr awdl a’r bryddest;
10. Seminar: theorïau yn ymwneud â’r gynghanedd, megis dadleuon R.M. Jones ynghylch ‘gwahuno’, ymchwil diweddar i berthynas y gynghanedd a niwrowyddoniaeth;
11. Seminar: y defnydd o’r gynghanedd y tu hwnt i farddoniaeth, megis mewn penawdau papur newydd a chylchgronau, hysbysebion ac ar Twitter.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Datblygir gallu’r myfyrwyr i gyfathrebu’n effeithlon yn ystod y darlithoedd a’r seminarau.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygir sgiliau hanfodol (megis delio â llif gwaith yn wythnosol, trefnu amser yn effeithlon a chyflawni ymchwil yn annibynnol) drwy gydol y modiwl.
Datrys Problemau Datblygir drwy’r gweithdai a’r seminarau allu’r myfyrwyr i ddatrys problemau’n analytig, yn arbennig yn achos Asesiad 1, ond y mae’n berthnasol hefyd ar gyfer Asesiadau 2 a 3.
Gwaith Tim Asesir y gallu i gyfrannu at waith tîm fel rhan o’r seminarau’n bennaf, ond y mae’n berthnasol hefyd i’r gweithdai.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Datblygir gallu’r myfyrwyr i wella eu dysgu a’r perfformiad drwy’r tasgau wythnosol (Asesiadau 1 a 2).
Rhifedd Mae ymarfer a dadnsoddi cynganeddu yn golygu cyfri sillafau sylfaenol.
Sgiliau pwnc penodol Y gallu i adnabod, dadansoddi a llunio cynganeddion, a thrwy hynny i ddeall o’r newydd rai agweddau hanfodol ar yr iaith Gymraeg.
Sgiliau ymchwil Asesir y gallu i ymchwilio’n annibynnol ac i bwyso a mesur testunau a gwybodaeth yn feirniadol yn Asesiad 2 a 3.
Technoleg Gwybodaeth Anogir y myfyrwyr i wneud defnydd o’r Bwrdd Du ac (mewn cyswllt ag Asesiadau 2 a 3) i ddod o hyd i ddeunydd yn ymwneud â’r gynghanedd ar lein.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6