Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Dyddiadur labordy ysgrifenedig | 60% |
Asesiad Semester | Adroddiad ffurfiol ysgrifenedig | 20% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad llafar | 20% |
Asesiad Ailsefyll | 3 Awr Fel bennir gan y bwrdd arholi adrannol | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Ar ddiwedd y modiwl, dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Cyflawni arbrofion syml mewn ffiseg sylfaenol
2. Cyflawni dadansoddiad syml o gyfeiliornadau mewn mesuriadau
3. Llunio casgliadau priodol o ganlyniadau
4. Cyflwyno a dadansoddi gwaith mewn dyddiadur labordy
5. Disgrifio gwaith mewn adroddiad ffurfiol
6. Trafod gwaith mewn cyflwyniad llafar
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl hwn ar Ffiseg Labordy yn gyflwyniad i ffiseg arbrofol. Rhoddir pwyslais ar hyfforddi myfyrwyr i ddefnyddio offerynnau sylfaenol, gwneud cyfrifiadau cyfeiliornadau syml ac asesu'r canlyniadau yn feirniadol er mwyn dod i gasgliadau dibynadwy. Mae'r arbrofion wedi'u cynllunio i adlewyrchu testunau damcaniaethol a gyflwynir mewn modiwlau eraill – felly mae'r arbrofion yn cwmpasu priodweddau mater, grymoedd a mecaneg yn ogystal ag agweddau eraill o ffiseg sylfaenol. Datblygir sgiliau cyflwyno yng nghyd-destun yr arbrofion.
Cynnwys
Disgwylir i'r myfyrwyr gyflwyno eu gwaith mewn Dyddiadur Labordy lle nodir cynnydd manwl pob arbrawf, ysgrifennu adroddiad ffurfiol ar arbrawf neilltuol a rhoi cyflwyniad llafar
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Cofnodi arbrofion yn y dyddiadur labordy. Cyd-weithio mewn grwpiau bychain i gyflawni arbrofion. Cyfathrebu canlyniadau drwy adroddiad ffurfiol a chyflwyniad llafar. |
Datrys Problemau | Caiff myfyrwyr eu hannog i gyflawni'r arbrofion a chynnig dulliau a datrysiadau. |
Gwaith Tim | Mae'r myfyrywr yn gweithio mewn grwpiau bychain ar bob arbrawf ymarferol. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Ystyried y gwaith yn feirniadol ac adlewyrchu i asesu'r modd y cyflawnwyd arbrawf a sut y gellid ei wella. |
Rhifedd | Mae sgiliau mathemategol yn ganolog i ddeall a chymhwyso ffiseg. Cofnodi data wrth wneud arbrofion ffiseg. Cymhwyso dadansoddiad cyfeiliornad sylfaenol i fesuriadau. Asesir drwy ddyddiaduron labordy ac adroddiad ffurfiol |
Sgiliau pwnc penodol | Cymhwyso ffiseg sylfaenol i ddulliau arbrofol. |
Sgiliau ymchwil | Mae angen ymchwil cefndirol a sgiliau cyfeirio elfennol ar gyfer adroddiad ffurfiol. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddir prosesydd geiriau i baratoi'r adroddiad ffurfiol. Defnyddir PowerPoint neu becyn cyfatebol yn y cyflwyniad llafar. Defnyddio offer arbrofol sylfaenol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 3