Module Information

Cod y Modiwl
GW28720
Teitl y Modiwl
America Ladin Heddiw
Blwyddyn Academaidd
2020/2021
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Elfennau Anghymharus
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Perfformiad Seminar  10%
Asesiad Semester Traethawd  (2,250 o eiriau)  45%
Arholiad Semester 1.5 Awr   Arholiad (wedi ei weld o flaen llaw)  45%
Asesiad Ailsefyll Adroddiad yn hytrach na pherffrmiad seminar  (500 o eiriau)  Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl  10%
Asesiad Ailsefyll Traethawd  (2,250 o eiriau )  Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl  45%
Arholiad Ailsefyll 1.5 Awr   Arholiad (wedi’i weld o flaen llaw)  Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl  45%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Gwerthuso'r materion gwleidyddol amlycaf ar hyd a lled rhanbarth America Ladin heddiw.

Cloriannu’r sefyllfa wleidyddol, gymdeithasol ac economaidd mewn ystod o wledydd yn America Ladin.

Cloriannu y ddeinameg gymdeithasol sy’n sail i anghydraddoldeb

Trafod effaith gwahanol actorion cymdeithasol ar wleidyddiaeth ar draws y rhanbarth.

Disgrifiad cryno

ae'r modiwl hwn yn archwilio nifer o themâu cyfoes yng ngwleidyddiaeth a chymdeithas America Ladin. Yn dilyn cyflwyniad i gyd-destun hanesyddol, gwleidyddol a chymdeithasol America Ladin, bydd myfyrwyr yn trafod pwnc newydd bob wythnos. Bydd y pynciau'n cynnwys agweddau ar ddemocratiaeth a chysylltiadau gwleidyddol, strategaethau datblygu, y frwydr dros gyfiawnder cymdeithasol, yn ogystal â rhyw a'r etifeddiaeth drefedigaethol. Bydd y modiwl yn trafod materion sy'n berthnasol i wleidyddiaeth ddomestig yn ogystal materion o berthnasedd ranbarthol a rhyngwladol.

Cynnwys

Mae'r modiwl yn cychwyn trwy gyflwyno gwleidyddiaeth, economeg a chymdeithas America Ladin, ac yna'n mynd ati i archwilio nifer o faterion cyfoes o bwys sy'n ymwneud â thlodi ac anghydraddoldeb cymdeithasol, perthnasau gwleidyddol a democratiaeth, symudiadau gwleidyddol allweddol, gwleidyddiaeth frodorol, a masnach cyffuriau.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau ar lafar ac ar bapur a sut i gyflwyno dadleuon fwyaf effeithiol (er mai dim ond y gwaith ysgrifenedig a gaiff ei asesu). Byddant yn dysgu pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu clir a sut i ymelwa ar hyn. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio'r gwahanol ffynonellau o wybodaeth sydd ar gael a sut i ddefnyddio'r ffurf fwyaf addas o gyfathrebu er mantais. Byddant yn dysgu bod yn eglur wrth ysgrifennu ac wrth siarad a dysgu bod yn uniongyrchol ynglyn ag amcanion a nodau. Byddant yn dysgu ystyried yn unig yr hyn sy'n berthnasol i bwnc, ffocws neu amcanion y ddadl neu'r drafodaeth. Bydd y modiwl yn profi hefyd sgiliau cyfathrebu clywedol a llafar gan ei fod yn asesu cyflwyniad a pherfformiad seminar. Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno eu gwaith wedi'i gwblhau ar brosesydd geiriau a dylai cyflwyniad y gwaith ddangos mynegiant effeithiol o syniadau a defnydd da o sgiliau iaith er mwyn sicrhau eglurder, cysondeb a chyfathrebu effeithiol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Mae'r modiwl hwn wedi'i gynllunio i hogi a phrofi sgiliau a fydd o ddefnydd i fyfyrwyr yn ei bywydau gwaith, yn arbennig rhoi cyflwyniadau, gwrando, meddwl ac ymateb i gyflwyniadau llafar. Mae'r gwaith ysgrifenedig yn cynnwys ysgrifennu cyflwyniad sy'n dasg gyffredin yn gweithle. Bydd myfyrwyr yn cael eu hannog drwy gydol y modiwl i ystyried eu perfformiad ac ystyried pa wersi i'w dysgu ar gyfer y dyfodol.
Datrys Problemau Un o amcanion canolog y modiwl fydd gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau; bydd cyflwyno adroddiad a pharatoi at gyflwyniad seminar yn gofyn i'r myfyriwr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol a sgiliau datrys problemau. Datblygir ac asesir gallu'r myfyriwr i ddatrys problemau trwy ofyn iddynt: ystyried gwahanol agweddau a barn; trefnu data ac amcangyfrif ateb i broblem; ystyried achosion eithafol, trafod yn rhesymegol; creu modelau damcaniaethol; ystyried achosion tebyg; edrych am batrymau; rhannu materion yn broblemau llai. Bydd arholiad terfynol yn sicrhau fod gallu'r myfyriwr i weithio ar ei ben ei hun yn cael ei asesu.
Gwaith Tim Bydd y myfyrwyr yn cyflawni ymarferion tim yn y seminarau a bydd y cydlynydd yn eu hannog i weithio mewn timoedd tu allan i'r seminarau hefyd. Defnyddir adnoddau Blackboard megis y bwrdd trafod hefyd.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae'r modiwl yn ceisio hybu hunanreolaeth o fewn cyd-destun o gymorth oddi wrth y cynullydd a'r cyd-fyfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr wella eu perfformiad addysgol eu hunain trwy wneud gwaith ymchwil annibynnol a chymell eu hunain i chwilio am ffynonellau, a phenderfynu (gydag arweiniad) gyfeiriad eu gwaith cwrs a phynciau eu cyflwyniadau. Rhaid cwblhau cyflwyniad seminar a chyflwyno gwaith cwrs ar amser, a dylai hyn eu helpu i reoli amser ac adnoddau yn y ffordd orau. Disgwylir i fyfyrwyr ystyried eu perfformiad eu hunain mewn seminarau (cryfderau a gwendidau allweddol o'u cymharu a meini prawf cyhoeddedig) mewn ffurf fydd yn cael eu atodi i fersiwn ysgrifenedig y cyflwyniad seminar.
Rhifedd Ddim yn berthnasol.
Sgiliau pwnc penodol Caiff myfyrwyr y cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau sy'n benodol i'r pwnc i'w helpu i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau ar y modiwl. Mae'r sgiliau pwnc penodol yma'n cynnwys: - Casglu a deall ystod eang o ddata yn ymwneud a'r modiwl - Y gallu i werthuso persbectifau gwahanol - Arddangos technegau ymchwil pwnc penodol - Cymhwyso ystod o fethodolegau i broblemau hanesyddol a gwleidyddol cymhleth.
Sgiliau ymchwil Bydd holl elfennau'r gwaith asesedig yn gofyn am sgiliau ymchwil annibynnol. Bydd disgwyl i'r myfyrwyr ddefnyddio ffynonellau cyfryngol a'r We yn ogystal a thestunau academaidd mwy traddodiadol. Yn rhannol asesir myfyrwyr ar eu gallu i gasglu deunyddiau ac adnoddau addas a diddorol. Bydd arholiad terfynol yn sicrhau asesiad o allu'r myfyriwr i weithio ar ei ben/phen ei hun.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno eu gwaith wedi'i gwblhau ar brosesydd geiriau. Hefyd, anogir myfyrwyr i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal a chwilio am ffynonellau electronig (megis Web of Science ac OCLC). Bydd disgwyl hefyd i fyfyrwyr wneud defnydd o'r adnoddau fydd ar gael ar Blackboard.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5