Module Information

Cod y Modiwl
TC33340
Teitl y Modiwl
Ymarfer Creadigol Annibynnol (Cyfryngau
Blwyddyn Academaidd
2020/2021
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Elfennau Anghymharus
Y modiwlau cynhyrchu annibynnol yn Saesneg
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Portffolio Creadigol  40%
Asesiad Semester Prosiect Terfynol a Thraethawd Atblygol (3000 o eiriau)  60%
Asesiad Ailsefyll Portffolio Creadigol  40%
Asesiad Ailsefyll Prosiect Terfynol Unigol a Thraethawd Atblygol (3000)  60%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Dyfeisio a chynllunio prosiect cynhyrchu cyfryngol mewn cyd-destun annibynnol.

2. Ystyried eu gwaith creadigol o fewn cyd-destun beirniadol ac atblygol.

3. Arddangos meistrolaeth o sgiliau cynhyrchu penodol ynghyd a dealltwriaeth o'r berthynas rhyngddynt.

Disgrifiad cryno

Yn y modiwl hwn fe fydd myfyrwyr yn gweithio'n annibynnol i greu cynhyrchiad cyfryngol o'u dewis o blith y canlynol: ffilm fer Ffuglen neu Ddogfen (tua 10 munud o hyd). Dysgir y modiwl mewn gweithdai ble disgwylir i fyfyrwyr dafoli eu gwaith o fewn cyd-destun academaidd a chreadigol ehangach.

Cynnwys

Sesynau dysgu:
10 x gweithdy 3 awr - semester 1
10 x gweithdy 3 awr - semester 2

Dysgir y modiwl hwn mewn cyfres o weithdai a darlithoedd fel a ganlyn:

Wrth ddatblygu'r ffilm derfynol trafodir y pynciau isod a cheir gweithdai cynhyrchu yn ôl galw'r prosiect:

  • Dyfeisio a Chynllunio Prosiect
  • Cynhyrchu Creadigol.
  • Lleoli Gwaith Creadigol o fewn Traddodiad Critigol ac Atblygol.
  • Cyflwyno a Datblygu Syniadau.
  • Cyflwyno Gwaith Portffolio ac
  • Adolygu Syniadau
  • Triniaeth, genre
  • deunydd archif
  • cyfarwyddo, sain, golygu ac ôl-gynhyrchu.

Nod

Amcan y modiwl hwn yw rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu prosiectau cynhyrchu creadigol gan adeiladu ar wybodaeth a sgiliau a'u cymhwyso i gyd-destun o weithio yn annibynnol. Gall myfyrwyr ganolbwyntio ar un math o ffilm (Dogfen neu Ffuglen). Bydd hunanwerthusiad a beirniadaeth atblygol yn wreiddiol i'r modiwl hwn.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Caiff sgiliau cyfathrebu ar lafar, yn ysgrifenedig ac yn gyfryngol eu datblygu a'u hymestyn fel rhan allweddol o'r modiwl hwn.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd gweithio'n annibynnol yn sgil a ddatblygir yn y modiwl hwn ac yn hynny o beth gwelir fod elfen o ddatblygiad personol yn rhan ohono. Mae hefyd yn gyfle i fyfyrwyr i ystyried o ddifrif eu cynlluniau gyrfaol yn enwedig wrth iddynt ymwneud ag aelodau o'r diwydiant yn eu dewis feysydd arbenigol.
Datrys Problemau Datblygir y sgiliau hyn yn gyson drwy'r modiwl wrth i'r myfyrwyr wynebu her dyfeisio a chreu prosiect cyfryngol.
Gwaith Tim Gall prosiect terfynol y myfyrwyr fod yn waith unigol os ydynt yn dymuno. Fodd bynnag, bydd disgwyl i fyfyrwyr gyfrannu at feirniadaeth atblygol o waith ei gilydd hyd yn oed os nad ydynt yn rhan o'r un prosiect terfynol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae'r broses hon yn un gynyddol ac fe ddisgwylir i fyfyrwyr asesu eu gwaith eu hunain yn gyson. Mae elfennau atblygol yn greiddiol i'r modd o ddysgu yn y modiwl hwn.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Fe ddatblygir medrau ymchwil penodol wrth ddyfeisio ac ymchwilio i'r prosiect cynhyrchu annibynnol.
Technoleg Gwybodaeth Bydd myfyrwyr yn defnyddio nifer o becynnau technoleg gwybodaeth wrth ddilyn y modiwl hwn gan gynnwys pecynnau prosesu geiriau, trin sain a delweddau a chyfathrebu ar-lein.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6