Module Information

Cod y Modiwl
AD20120
Teitl y Modiwl
Seicoleg Dysgu a Meddwl
Blwyddyn Academaidd
2021/2022
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Exclusive (Any Acad Year)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester Cyflwyniad llafar  (10 munud)  20%
Arholiad Semester Arholiad ‘gwneud adref’ 2 gwestiwn,  1000 o eiriau yr un, 1 wythnos i’w gwblhau (2000 words).  40%
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad llafar  (10 munud)  20%
Asesiad Ailsefyll Traethawd ysgrifenedig  (2000 o eiriau)  40%
Asesiad Ailsefyll Arholiad 'gwneud adref' 2 gwestiwn,  1000 o eiriau yr un, 1 wythnos i'w gwblhau (2000 words).  40%
Asesiad Semester Traethawd ysgrifenedig  (2000 o eiriau)  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth effeithiol o natur gymhleth prosesau meddwl ac egwyddorion prif ddamcaniaethau dysgu.

Gwerthuso'r feirniadol ddamcaniaethau, ffyrdd a dulliau o asesu dysgu a meddwl.

Trafod yn feirniadol ddadleuon wrth drafod damcaniaethau, ffyrdd a dulliau o ddysgu a meddwl.

Arddangos ymgysylltu beirniadol a ffynonellau perthnasol.

Disgrifiad cryno

Nod y modiwl hwn yw, ac fe'i cynllunnir yn benodol i, ymestyn gwybodaeth a dealltwriaeth feirniadol myfyrwyr o'r prif ddamcaniaethau sy'n ymwneud a meddwl a dysgu. Mae'r damcaniaethau hyn yn cynnwys: damcaniaethau Piaget, Vygotsky a Skinner. Bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i fyfyrio ar eu harddulliau dysgu ac i gysylltu'r rhain a chysyniadau allweddol yn y maes. Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn cael cyfleoedd i wneud gwaith arbrofol mewn grwpiau bach er mwyn hybu eu dealltwriaeth o'r cysyniadau sy'n sail i'r damcaniaethau mawr a'u cymhwysiad.

Nod

Bydd darlithoedd (2 awr yr un) a seminarau (1 awr yr un) yn seiliedig ar y canlynol:
Darlith a seminar 1: Datblygiad cyn-geni
Darlith a seminar 2: Datblygiad yr ymennydd
Darlith a seminar 3: Prosesu gwybodaeth
Darlith a seminar 4: Damcaniaethau gwybyddol
Darlith a seminar 5: Datblygiad iaith
Darlith a seminar 6: Damcaniaethau dysgu cymdeithasol
Darlith a seminar 7: Damcaniaeth y meddwl
Darlith a seminar 8: Problemau ymddygiad plant
Darlith a seminar 9: Anhwylderau datblygiadol
Darlith a seminar 10: Datblygiad moesol

Cynnwys

.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Mae technegau cyfathrebu yn elfen hanfodol drwy ddarlithoedd a seminarau. Cyfathrebu llafar drwy gydol gweithgareddau seminar. Cyfathrebu ysgrifenedig drwy gydol asesiadau ysgrifenedig. Yn ogystal, bydd y cyflwyniad llafar yn asesu cyfathrebu llafar.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Caiff sgiliau empathi eu datblygu drwy'r amser a'u cymhwyso i yrfaoedd yn y dyfodol. Bydd hyn yn elfen o'r cyflwyniad llafar.
Datrys Problemau Elfen hanfodol yn y broses o asesu beirniadol.
Gwaith Tim Mae gweithgareddau'r seminar yn rhoi llawer o gyfleoedd i weithio fel tîm, gan gynnwys cyflwyniadau a thrafodaethau grŵp.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae adborth o aseiniad ysgrifenedig a myfyrdod personol yn ystod tasgau seminar yn annog perfformiad gwell.
Rhifedd Ystadegau disgrifiadol achlysurol mewn darlithoedd a ffynonellau.
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Bydd angen ymchwilio ar gyfer y prif aseiniadau a rhai o'r tasgau seminar.
Technoleg Gwybodaeth Dylid prosesu geiriau ar gyfer aseiniadau ysgrifenedig a bydd y cyflwyniad llafar yn golygu defnyddio TG.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5