Module Information

Cod y Modiwl
BBM1120
Teitl y Modiwl
Systemau Cyflenwi Cynaliadwy
Blwyddyn Academaidd
2021/2022
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Dysgu o Bell
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Gall myfyriwr ail-sefyll elfennau asesiad sy'n cyfateb i'r rhai a arweiniodd at fethiant y modiwl.  100%
Asesiad Semester Cynllun Arloesedd  (2000 o eiriau)  45%
Asesiad Semester Fforwm Ar-lein  (O leiaf 1200 o eiriau)  25%
Asesiad Semester (2000 o eiriau)  30%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. ​Esbonio'r heriau presennol ac yn y dyfodol i gyflenwad bioseiliedig a bwyd

2. Archwilio'r cysyniad o gynaliadwyedd ac economeg cyflenwad cynaliadwy

3. Asesu'r berthynas rhwng nodau busnes a chynaliadwyedd

4. Gwerthuso'r dulliau cyfredol o fesur a llywodraethu cynaliadwyedd

5. Gwerthuso rol gwybodaeth a rheoli perthynas mewn cyflenwad cynaliadwy

6. Cymharu a gwerthuso gwahanol ddulliau o gyflawni cynaliadwyedd​

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn rhan o gyrsiau BioArloesedd Cymru. Bydd yn addysgu myfyrwyr am y cysyniadau a’r heriau i gynaliadwyedd mewn systemau cyflenwi bioseiliedig a bwyd, gan dynnu ar yr ymchwil ddiweddaraf. Mae'r modiwl hwn yn un o'r modiwlau trosfwaol sy'n dwyn ynghyd nifer o'r pynciau modiwl mwy penodol a gwmpesir gan BioArloesedd Cymru (e.e. Rheoli Adnoddau Gwastraff) i edrych ar sut mae'r rhain yn ffitio o fewn y system gyflenwi ehangach. Mae'n archwilio heriau a chyfleoedd cynaliadwyedd yn y sector bwyd-amaeth, gan gynnwys agweddau a chysyniadau cynaliadwyedd, gwahanol fathau o systemau a rheolaeth gynaliadwy, heriau cyrchu cynaliadwyedd, a sut mae cwmnïau'n defnyddio'r cysyniad o gynaliadwyedd i ychwanegu gwerth at eu cynhyrchion a gwasanaethau. Mae'r modiwl yn ceisio herio myfyrwyr i feddwl yn feirniadol am faterion sy'n ymwneud â chynaliadwyedd mewn cyflenwad bwyd a bio-seiliedig, ac i ennill dealltwriaeth o'r cymhellion a'r berthynas sy'n tanlinellu'r materion hyn.

Cynnwys

Heriau a Chynaliadwyedd mewn Cyflenwad Bioseiliedig a Bwyd

Cyflwyno'r heriau unigryw i gyflenwad bwyd a bio-seiliedig a sut mae'r rhain yn rhyngweithio a'r agenda cynaliadwyedd; yn rhoi trosolwg o'r agweddau yr ymhelaethwyd arnynt mewn unedau dilynol

Cynaliadwyedd Amgylcheddol a Chymdeithasol

Archwilio gwahanol agweddau o gynaliadwyedd amgylcheddol a chymdeithasol mewn cyflenwad bwyd a bioseiliedig, gan gynnwys dulliau o asesu'r elfennau hyn o gynaliadwyedd, a thensiynau a heriau posibl o'u cwmpas

Cynaliadwyedd Maeth ac Iechyd

Yn ystyried cynaliadwyedd cymdeithasol mewn cyflenwi bwyd o ran ansawdd y cynnyrch a ddarperir a'u heffaith ar ddefnyddwyr, o ddiogelwch bwyd i faterion maeth (agenda One Health, gordewdra a diffyg maeth)

Economeg, Nodau Busnes a Chynaliadwyedd

Yn archwilio damcaniaeth economaidd y cyflenwad, a nodau busnes a'r synergeddau a'r tensiynau rhwng y rhain a chyflawni cynaliadwyedd

Llwybrau tuag at Gynaliadwyedd

Yn ystyried y chwyldro 'Rheoli Main' mewn systemau cyflenwi ac i ba raddau y gall ddarparu gwell cynaliadwyedd mewn bwyd a chyflenwad bio-seiliedig a cyferbynnu'r model newid hwn a datblygu systemau cyflenwi amgen sy'n ceisio cynaliadwyedd trwy newid mwy sylfaenol

Pwer Gwybodaeth

Yn canolbwyntio ar rol ganolog gwybodaeth mewn systemau cyflenwi (gan adeiladu ar y cysyniadau o 'reoli main' o'r uned flaenorol) ac effaith technegau casglu data newydd a gallu dadansoddol ar y rol hon. Archwilir y cyfleoedd a'r heriau sy'n gysylltiedig a'r newidiadau hyn (cysylltiadau pwer rhwng cynhyrchwyr fel ffermwyr, manwerthwyr a chwsmeriaid; diogelwch data; mwy o dryloywder ac atebolrwydd), gan gynnwys trwy astudiaeth achos ar y system cyflenwi cig coch.

Gwerth Ychwanegol o Arfer Cynaliadwy

Yn edrych ar sut y gall cwmniau elwa o gynaliadwyedd trwy rannu eu harferion cynaliadwy gyda chwsmeriaid, er enghraifft trwy gynlluniau labelu sy'n ychwanegu gwerth at gynhyrchion. Ystyried y cyfyngiadau a'r heriau sy'n gysylltiedig a'r broses hon.

Llywodraethu Cynaliadwyedd

Yn archwilio sut mae cynaliadwyedd yn cael ei lywodraethu gan bolisi ar lefelau cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys egwyddorion llywodraethu da a'r heriau cysylltiedig - yn edrych yn feirniadol ar yrwyr cynaliadwyedd a maint y llywodraethu allanol sydd ei angen.

Astudiaethau Achos o Gyflenwad Cynaliadwy

Yn cyflwyno myfyrwyr gydag amrywiaeth o astudiaethau achos systemau cyflenwi o Gymru a thu hwnt, gan ganolbwyntio ar sut yr eir i'r afael a'r materion, yr heriau a'r cyfleoedd a drafodir mewn unedau blaenorol yn y byd go iawn. Pa faterion sy'n cael eu trin yn dda, pa rai sy'n fwy cymhleth? Sut mae tyndra rhwng nodau busnes a chynaliadwyedd yn chwarae allan mewn bywyd go iawn a pha atebion y mae cwmniau wedi'u canfod?

Gwella Cynaliadwyedd yn Ymarferol - Arloesedd mewn Systemau Cyflenwi

Ar sail y wybodaeth ddamcaniaethol a'r enghreifftiau pendant a roddwyd mewn unedau blaenorol, mae'r uned hon yn hwyluso archwilio gan y myfyrwyr eu hunain o gadwyn gyflenwi benodol a'r arloesedd y gellid ei ddefnyddio i wella ei gynaliadwyedd, gan gynnwys heriau a chyfleoedd sy'n gysylltiedig a newid o'r fath.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Disgwylir i fyfyrwyr gyfathrebu allbwn ymchwil cymhleth i'w cyfoedion yn y fforymau ar-lein a hefyd trwy aseiniadau eraill.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd y modiwl hwn yn rhoi'r ymchwil ddiweddaraf i'r myfyrwyr ar gynaliadwyedd mewn systemau cyflenwi, sut y gellir ei gyflawni a'r cyfleoedd a'r heriau sy'n gysylltiedig i'w helpu i rannu gwybodaeth/cyngor diweddaraf gyda'u cydweithwyr/cleientiaid yn y diwydiannau bioseiliedig a bwyd. Mae'r modiwl hefyd wedi'i gynllunio i ddatblygu sgiliau dadansoddol a meddwl critigol myfyrwyr.
Datrys Problemau Defnyddir fforymau ar-lein i helpu i ddatblygu a gwella sgiliau datrys problemau myfyrwyr, trwy ddefnyddio cwestiynau sy'n cyflwyno problemau damcaniaethol i'r myfyrwyr eu datrys. Yn ogystal, bydd y cynllun arloesedd yn mynnu bod y myfyriwr yn cynnig sut y gellid defnyddio atebion arloesol i ddatrys problem gynaliadwyedd penodol.
Gwaith Tim Bydd fforymau ar-lein yn mynnu bod myfyrwyr yn dadlau ymhlith ei gilydd i ddatblygu consensws barn.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Rhoddir adborth manwl ar gyfer gwaith aseiniad sy'n darparu arweiniad cyffredinol tuag at aseiniad nesaf y myfyriwr. Yn enwedig gyda'r aseiniad ffurfiannol a fydd yn ddyledus cyn unrhyw aseiniadau cyfansymiol.
Rhifedd Bydd gofyn i fyfyrwyr archwilio a syntheseiddio data meintiol o ystod o gyhoeddiadau yn eu haseiniadau.
Sgiliau pwnc penodol Gwerthusiad o systemau cyflenwi cynaliadwy. Nodi meysydd i'w gwella a chyfleoedd sy'n ymwneud a chyflenwad cynaliadwy cynhyrchion bioseiliedig a bwyd, a phrofiad o sut i asesu a gweithredu cysyniadau/syniadau newydd.
Sgiliau ymchwil Trwy'r modiwl, bydd gofyn i fyfyrwyr ymgymryd a hunanastudiaeth gyfeiriedig, gan wella eu medrau ymchwil llenyddiaeth. Yn ogystal a derbyn adborth o aseiniadau a fydd yn cynnig cyngor ar synthesis gwybodaeth.
Technoleg Gwybodaeth Bydd gofyn i fyfyrwyr gyrchu gwybodaeth o amrywiaeth o gronfaoedd cyhoeddiadau gwyddonol a defnyddio Blackboard ar gyfer pob agwedd o'r modiwl

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7