Module Information

Cod y Modiwl
BG36320
Teitl y Modiwl
Adolygiad critigol
Blwyddyn Academaidd
2021/2022
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Pre-Requisite
Exclusive (Any Acad Year)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Rhaid i fyfyrwyr wneud yr elfennau o’r asesiad sy’n cyfateb i’r hyn a arweiniodd at fethu’r modiwl.   100%
Asesiad Semester Adroddiad ysgrifenedig  (uchafswm 4000 gair)  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Asesu a gwerthuso gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau.

2. Dehongli canlyniadau dadansoddiadau data mewn llenyddiaeth academaidd.

3. Llunio casgliadau a thrafod y rhain mewn perthynas a gwybodaeth sydd eisoes yn bodoli yn y maes.

4. Amlygu cwestiynau sydd heb eu hateb a meysydd dadleuol yn eu maes ymchwil a ffurfio awgrymiadau ar gyfer ymchwil yn y dyfodol.

5. Defnyddio sgiliau ysgrifennu a TG priodol i gyflwyno’r cyd-destun, y cwestiynau ymchwil a’r casgliadau mewn adroddiad ysgrifenedig.

Disgrifiad cryno

Bydd gofyn i fyfyrwyr lunio dadansoddiad o ysgrifennu poblogaidd, llenyddiaeth estyn, neu’r llenyddiaeth “lwyd”, sy’n ymdrin â phwnc academaidd sy’n berthnasol i’w cynllun gradd. Gofynnir i fyfyrwyr nodi’r cwestiynau pwysig y mae’r erthygl yn mynd i’r afael â hwy, a natur yr atebion y mae’n eu cynnig. Yna dylid nodi corff o lenyddiaeth wyddonol/briodol sy’n berthnasol i’r cwestiynau hyn, a llunio adolygiad strwythuredig i drafod i ba raddau y cefnogir yr erthygl gan y llenyddiaeth berthnasol, y rhesymau am hyn, a chyfeiriadau posibl ar gyfer y maes ymchwil yn y dyfodol. Bydd yr holl brosiectau’n gofyn i’r myfyrwyr weithio’n annibynnol o dan arweiniad goruchwyliwr.

Bydd y tasgau deallusol ynghlwm wrth baratoi’r adroddiad yn cynnwys:
1. Llunio adolygiad strwythuredig sy’n dangos ymagwedd systematig tuag at ddatrys problemau
2. Cloriannu sylwadau ysgrifenedig mewn llenyddiaeth boblogaidd a llenyddiaeth a adolygir gan gymheiriaid
3. Ymchwilio a chloriannu dadansoddiadau data yn y llenyddiaeth academaidd. Gall rhai adroddiadau estyn i gynnwys dadansoddiadau ystadegol mwy ffurfiol, ond ni fydd hyn yn orfodol.
4. Ystyried tystiolaeth anghyson, a nodi agweddau o gynllunio arbrofol a dulliau ymchwil sy’n achosi’r anghysondeb hwn.
5. Nodi bylchau yn yr ymchwil ynghyd a chyfeiriadau posibl ar gyfer y maes ymchwil yn y dyfodol.

Cynnwys

Bydd natur yr adolygiad yn adlewyrchu diddordebau’r myfyrwyr unigol ac er y bydd amrywiaeth o ran pwyslais y gwaith, mae’r holl adroddiadau’n ddarostyngedig i’r un rheoliadau a rhaid iddynt geisio cyflawni’r un amcanion dysgu. Disgwylir i fyfyrwyr gynnal cyswllt rheolaidd gyda’u goruchwyliwr (o leiaf unwaith bob pythefnos yn ystod y semestrau) i drafod cynnydd eu gwaith.
Bydd darlith gyflwyniadol yn cynnig arweiniad ar sut i fynd ati i ymchwilio. Cynhelir cymorthfeydd galw heibio dewisol bob pythefnos i ddarparu cyngor ar agweddau penodol o baratoi’r adroddiad.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd myfyrwyr sy’n ymgymryd â’r prosiect yn datblygu sgiliau gwrando effeithiol yn ystod cyfarfodydd goruchwylio – asesir hyn trwy ddehongli’r rhain yn y gwaith gorffenedig. Caiff llythrennedd ysgrifenedig ei ddatblygu hefyd drwy lunio’r traethawd ymchwil.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygir sgiliau trosglwyddadwy wrth werthuso a chymhwyso casgliadau ymchwil.
Datrys Problemau Anogir myfyrwyr i werthuso’r prif destunau yn feirniadol ac i feddwl yn greadigol i ganfod bylchau yn yr ymchwil.
Gwaith Tim Nid yw’n elfen benodol o’r modiwl hwn.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd y modiwl hwn yn helpu myfyrwyr i ddatblygu a chymhwyso strategaethau dysgu a hunanreoli realistig. Bydd myfyrwyr yn llunio cynlluniau gweithredu personol i nodi eu hamcanion ac i adolygu a monitro eu cynnydd. Byddant yn diwygio’r cynlluniau gweithredu fel bo’n briodol i wella’u perfformiad yn gyffredinol.
Rhifedd Bydd myfyrwyr yn dehongli dadansoddiadau data. Mae’n bosib y bydd yna elfen o drin data o’r lenyddiaeth yn fathemategol.
Sgiliau pwnc penodol Bydd y sgiliau pwnc-benodol a ddatblygir yn dibynnu ar natur y pwnc a ddewiswyd.
Sgiliau ymchwil Mae’r modiwl hwn yn gofyn i fyfyrwyr ddeall a gwerthuso amrywiaeth o ddulliau ymchwil, a llunio adroddiad.
Technoleg Gwybodaeth Bydd gofyn am ddefnyddio TG wrth chwilio am destunau cyhoeddedig, dadansoddi data, cyflwyno data, ac wrth baratoi’r adroddiad terfynol. Mae’n bosib y bydd rhai myfyrwyr yn ymdrin â’r data yn ystadegol drwy ddefnyddio pecynnau meddalwedd ystadegol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6