Module Information

Module Identifier
CB35120
Module Title
Arweinyddiaeth Strategol
Academic Year
2021/2022
Co-ordinator
Semester
Semester 1
Pre-Requisite
Other Staff

Course Delivery

 

Assessment

Due to Covid-19 students should refer to the module Blackboard pages for assessment details

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment Adroddiad ysgrifenedig  (2,500 gair)  40%
Semester Exam 2 Hours   Arholiad  60%
Supplementary Assessment Adroddiad ysgrifenedig  (2,500 gair)  40%
Supplementary Exam 2 Hours   Arholiad  60%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

1. Esbonio a chymhwyso arfau ar gyfer dadansoddi’r amgylchedd busnes mewnol ac allanol.

2. Cloriannu’n feirniadol faterion yn ymwneud â phroses, cynnwys a chyd-destun strategaethau busnes.

3. Gwerthuso prif theorïau strategaeth yn feirniadol.

4. Cloriannu segmentau cwsmeriaid.

5. Ystyried dulliau creadigol o lunio strategaethau busnes.

6. Cynnig ac amddiffyn gwelliannau i’r modd y gwneir penderfyniadau strategol mewn sefydliadau.

Brief description

Mae’r modiwl hwn yn meithrin dealltwriaeth o’r broses o ddatblygu strategaeth, ac yn dangos mor bwysig yw strategaeth fusnes i’r cwmni ei hun, i wahanol randdeiliaid ac i’r gymuned fusnes ehangach. Mae’r modiwl yn edrych ar y llu o wahanol ffyrdd (sydd yn aml yn gwrthdaro â’i gilydd) o lunio strategaeth fusnes; yn ystyried sut mae strategaeth yn gweithredu yn yr amgylchedd busnes mewnol ac allanol ehangach; ac yn darparu’r sgiliau a’r
wybodaeth sydd eu hangen i wneud penderfyniadau strategol effeithiol a gwybodus, arwain newid, a chreu a chynnal mantais gystadleuol.

Content

 Beth yw strategaeth?
 Mantais gystadleuol
 Llunio Strategaeth
 Dadansoddi Strategaeth
 Strategaeth ar waith
 Archwiliad marchnata (Dadansoddi Sefyllfaoedd);
 Segmentiad, Targedu a Lleoli;
 Partneriaethau Strategol;
 Penderfyniadau Marchnata Strategol;
 Strategaeth a’r Cymysgedd Marchnata;
 Rheoli Brand yn Strategol;
 Cloriannu a Rheoli

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number Dadansoddi adroddiadau ariannol ac adroddiadau eraill sy’n seiliedig ar wybodaeth rifyddol
Communication Datblygu sgiliau cyfathrebu gan gynnwys sgiliau cyflwyno a gwrando. Gwella sgiliau llythrennedd trwy ddarllen ac ysgrifennu am reolaeth strategol
Improving own Learning and Performance Llunio strategaethau hunan-ddysgu realistig, a’u rhoi ar waith. Adolygu a monitro’u perfformiad cyffredinol, bod yn ymwybodol o dechnegau rheoli amser
Information Technology Defnyddio ystod o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn eang, paratoi a dadansoddi data, cyflwyno gwybodaeth
Personal Development and Career planning Bydd myfyrwyr yn gallu defnyddio’r sgiliau a ddysgwyd yn y modiwl hwn i wella’u cyfleoedd gyrfaol. Byddant hefyd yn gallu cynllunio’n strategol ar gyfer yr hirdymor yn eu dewis yrfa.
Problem solving Nodi problemau. Datblygu ffyrdd o ddatrys problemau trwy feddwl yn greadigol. Cloriannu manteision ac anfanteision. Llunio cynnig rhesymegol mewn ymateb i broblem
Research skills Cynnal ymchwil ar reolaeth strategol. Dod o hyd i ddeunydd ffynhonnell perthnasol ar gyfer aseiniadau ac astudiaethau achos
Subject Specific Skills Bydd myfyrwyr yn gallu deall, dadansoddi a datblygu cynlluniau strategol yn eu dewis yrfa a’u sefydliad
Team work Deall y cysyniad o ddeinameg grŵp, cyfrannu’n effeithiol i weithgareddau grŵp, cymryd rhan mewn trafodaethau grŵp a gwaith cwrs a asesir, arfer sgiliau negod

Notes

This module is at CQFW Level 6