Module Information

Cod y Modiwl
CT14120
Teitl y Modiwl
Troseddeg ar Waith
Blwyddyn Academaidd
2021/2022
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Pre-Requisite
Co-Requisite
Exclusive (Any Acad Year)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Adroddiad Unigol  (1,500 gair)  50%
Asesiad Ailsefyll Os methwyd cyflwyniad llafar  i gwblhau aseiniad 1,500 gair ar y pwnc a osodwyd.  50%
Asesiad Semester Cyflwyniad Llafar Unigol  (10 munud)  50%
Asesiad Semester Adroddiad Unigol  (1,500 gair)  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Adolygu a gwerthuso amrywiaeth o destunau, damcaniaethau a chysyniadau allweddol yn ymwneud â throseddeg a seicoleg troseddu.

Cymhwyso cysyniadau troseddegol a seicolegol damcaniaethol i ddigwyddiadau cyfoes a materion yn ymwneud â throseddu, rheolaeth gymdeithasol a chyfiawnder troseddol.

Deall, defnyddio a chyfleu dadleuon allweddol am faterion troseddegol a seicolegol, ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Gallu llunio dadleuon troseddegol a seicolegol rhesymegol, a’u cyfiawnhau, mewn gwaith ysgrifenedig, cyflwyniadau llafar a thrafodaethau gwaith grŵp.

Dangos dealltwriaeth o’r prif ddamcaniaethau, cysyniadau, trafodaethau ac ymdriniaethau ym maes troseddeg a seicoleg troseddu.

Dangos dealltwriaeth o’r ffordd y mae troseddu, ymddygiad gwyrdroëdig ac erledigaeth yn cael eu llunio a’u harchwilio’n gymdeithasol, yn gyfreithiol ac yn seicolegol.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl hwn yn gyfle i fyfyrwyr lefel 1 fynd i’r afael â rhai o’r testunau a’r dadleuon allweddol ym meysydd troseddeg a seicoleg troseddu. Ar sail y sylfeini damcaniaethol a ddatblygwyd yn ystod semester 1, bydd y myfyrwyr yn ystyried digwyddiadau cyfoes a materion yn ymwneud â throseddu, ymddygiad gwyrdroëdig, rheolaeth, dioddefoleg a niwed (gweler e.e. Hillsborough; Grenfell; Brexit ac ati). Bydd ffocws cymhwysol y modiwl hwn yn caniatáu i fyfyrwyr osod eu dealltwriaeth o ddamcaniaethau, cysyniadau a thrafodaethau o fewn cyd-destunau cymdeithasol, cyfreithiol, seicolegol, hanesyddol ac economaidd ehangach. Nod y modiwl yw annog myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau dadansoddol a beirniadol mewn perthynas â’r wybodaeth y maent wedi’i datblygu hyd yma.

Cynnwys

Bydd y modiwl yn cael ei arwain gan fyfyrwyr yn bennaf, gyda nifer gymharol uchel o seminarau a gweithdai, a nifer cymharol isel o ddarlithoedd.

Bydd y darlithoedd yn cael eu defnyddio i gyflwyno’r myfyrwyr i ofynion y modiwl. Byddant hefyd yn cyflwyno’r myfyrwyr i faterion, trafodaethau a digwyddiadau sy’n gysylltiedig â gweithgareddau’r gweithdai a’r asesiad grŵp.

Trwy gydol cyfres seminarau’r modiwl, bydd gan y myfyrwyr gyfle i ddarllen, cloriannu a thrafod testunau allweddol a dylanwadol sy’n berthnasol i droseddeg a seicoleg troseddu. Anogir y myfyrwyr i ystyried dylanwadau ehangach ac etifeddiaeth y cyfraniadau hyn ar draws disgyblaethau perthnasol amrywiol.

Ym mhob seminar, gofynnir i’r myfyrwyr ddarllen testun penodol neu baratoi trafodaeth ar bwnc penodol. Defnyddir y seminarau i alluogi myfyrwyr i fagu hyder wrth ddarllen a deall testunau allweddol.

Defnyddir cyfres o weithdai trwy gydol y modiwl i roi cyfle i’r myfyrwyr gymryd rhan mewn gwaith grŵp, gan gymhwyso damcaniaethau a chysyniadau troseddegol i ddigwyddiadau, materion a thrafodaethau cyfoes.

Oherwydd natur gymhwysol a chyfoes y modiwl, bydd yr union gynnwys yn newid bob blwyddyn.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Llafar Unigol: Bydd y myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyfathrebu llafar trwy roi cyflwyniadau mewn seminarau yn rhan o’u hasesiad. Byddant yn dysgu i fod yn glir ac yn uniongyrchol wrth drafod. Poster Grŵp: Bydd myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau cyfathrebu grŵp ymhellach wrth baratoi a rhoi cyflwyniad poster ac wrth ymateb i gwestiynau. Adroddiad Ysgrifenedig: Disgwylir i’r myfyrwyr gyflwyno eu gwaith wedi’i eirbrosesu, ac asesir eu cyfathrebu ysgrifenedig ar sail eu gallu i fynegi syniadau’n effeithiol, sgiliau iaith cadarn, a’u gallu i lunio dadl gydlynol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd paratoi ar gyfer y seminarau a’r aseiniadau asesedig yn datblygu sgiliau rheoli amser. Bydd cymharu ffynonellau ar gyfer asesiadau yn datblygu sgiliau ymchwil. Bydd meithrin gwerthfawrogiad o faterion damcaniaethol cymhleth a’u cymhwyso i faterion a digwyddiadau cyfoes yn datblygu sgiliau meddwl beirniadol. Bydd yr holl sgiliau hyn yn cyfrannu at bortffolio ehangach y myfyriwr o sgiliau trosglwyddadwy.
Datrys Problemau Bydd gofyn i’r myfyrwyr ystyried, trafod a defnyddio amrywiaeth o ddamcaniaethau a chysyniadau yn ymwneud â throseddeg a seicoleg troseddu. Yna, bydd disgwyl iddynt ddatblygu eu sgiliau datrys problemau a meddwl ochrol trwy gymhwyso’r hyn y maent wedi’i ddysgu i faterion a digwyddiadau cyfoes perthnasol.
Gwaith Tim Bydd y gweithgareddau yn y gweithdai yn meithrin sgiliau gweithio mewn tîm, a bydd y cyflwyniad poster grŵp yn golygu bod angen datblygu’r gallu i weithio mewn tîm.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd seminarau rhyngweithiol yn annog myfyrwyr i feddwl yn feirniadol ac ochrol gydag ymarferion a gynlluniwyd i ddarparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu cysyniadau haniaethol, a chaniatáu i fyfyrwyr fyfyrio ynghylch eu dysgu eu hunain.
Rhifedd Bydd y myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i gysyniadau allweddol darllen a deall astudiaethau yn ymwneud â throseddeg a seicoleg troseddu. Bydd gofyn iddynt ymdrin â data empirig a bydd gofyn eu bod yn gallu deall natur ymchwil wyddonol gymdeithasol yn ei amryw ffurfiau.
Sgiliau pwnc penodol Amherthnasol.
Sgiliau ymchwil Mae astudio troseddeg yn gofyn am y gallu i ddarllen yn hyderus ar draws amrywiaeth o wahanol ddeunyddiau ymchwil a disgyblaethau. Mae’r modiwl yn annog datblygu’r gallu hanfodol hwn
Technoleg Gwybodaeth Bydd chwilio am ddeunydd o ffynonellau gwybodaeth electronig ar-lein a chyrchu gwybodaeth o gyfnodolion electronig yn gyfle i ymarfer sgiliau TG. Defnyddir sgiliau TG i gael gafael ar wybodaeth ar Blackboard. Bydd myfyrwyr yn cyflwyno gwaith i’w asesu wedi’i baratoi ar brosesydd geiriau.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4