Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad a welir ymlaen llaw Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd (2,500 gair) Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl | 50% |
Asesiad Semester | Traethawd (2,500 gair) | 50% |
Asesiad Semester | 2 Awr Arholiad a welir ymlaen llaw | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth ddatblygedig o ddamcaniaethau troseddegol craidd;
2. Nodi a chloriannu sail ontolegol ac epistemolegol ystod eang o ddamcaniaethau ym maes troseddeg;
3. Dangos gwerthfawrogiad o sut y mae datblygiadau mewn theori droseddegol yn esblygu;
4. Deall a chloriannu sut y mae troseddeg ddamcaniaethol wedi helpu i siapio’r system a’r prosesau cyfiawnder troseddol cyfoes;
5. Nodi a dadansoddi’r cryfderau a’r cyfyngiadau o ran potensial esboniadol theori.
Disgrifiad cryno
Mae’r modiwl hwn yn ystyried safbwyntiau damcaniaethol allweddol sy’n helpu i esbonio troseddu ac anrhefn gymdeithasol mewn cymdeithas. Mae’n gosod safbwyntiau troseddegol yn eu cyd-destunau cymdeithasol a gwleidyddol gan ystyried eu perthnasedd a’u cymhwysiad yn y gymdeithas gyfoes a sut y maent wedi llywio systemau a phrosesau cyfiawnder troseddol.
Cynnwys
Cyflwyniad i Droseddeg
Troseddeg Glasurol a Dewis Rhesymegol
Troseddeg Fiolegol a’r Ysgol Bositifaidd
Troseddeg Gymdeithasegol
Durkheim a Ffwythiannaeth Strwythurol
Damcaniaethau Straen Cymdeithasol
Ecoleg Gymdeithasol ac Anhrefn Gymdeithasol
Troseddeg Is-ddiwylliannol
Damcaniaeth Rheolaeth Gymdeithasol
Labelu
Troseddeg Feirniadol
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Llafar: Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyfathrebu llafar trwy gymryd rhan mewn trafodaethau seminar. Byddant yn dysgu i fod yn glir ac yn uniongyrchol wrth drafod. (Dim asesiad) Ysgrifenedig: Bydd disgwyl i'r myfyrwyr gyflwyno eu gwaith wedi’i eirbrosesu ac asesir eu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig ar sail eu gallu i fynegi syniadau’n effeithiol, sgiliau iaith da a dadl resymegol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Gwell gallu i feddwl yn annibynnol ac yn feirniadol. Sgiliau rheoli amser da wrth baratoi ar gyfer seminarau a chyflwyno gwaith yn brydlon. |
Datrys Problemau | Bydd cymathu ystod o ddamcaniaethau cymhleth yn datblygu gallu myfyrwyr i ddatrys problemau, a bydd ystod o ymarferion rhyngweithiol yn y darlithoedd, y seminarau a'r aseiniad yn annog meddwl ochrol. |
Gwaith Tim | Bydd gweithio mewn grwpiau bach a seminarau grŵp o fewn y seminarau yn meithrin sgiliau gweithio mewn tîm. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd darlithoedd a seminarau rhyngweithiol yn annog myfyrwyr i feddwl yn feirniadol ac yn ochrol, gydag ymarferion a gynlluniwyd i ddarparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu cysyniadau haniaethol, a chaniatáu i fyfyrwyr fyfyrio ynghylch eu dysgu eu hunain. |
Rhifedd | Bydd deall a chloriannu data ymchwil meintiol perthnasol yn elfen bwysig o’r modiwl. |
Sgiliau pwnc penodol | Mae’r modiwl hwn yn darparu cyfle i’r myfyrwyr nodi, dadansoddi, cloriannu ac ymarfer cyfres o sgiliau yn ymwneud â deall theori troseddegol. |
Sgiliau ymchwil | Datblygir sgiliau ymchwil trwy ddod o hyd i destunau ar wahanol ddamcaniaethau troseddegol a’u dadansoddi’n feirniadol er mwyn llunio a chyflwyno trafodaeth wybodus ar gyfer yr asesiadau. Bydd y myfyrwyr hefyd yn datblygu sgiliau ymchwil wrth baratoi ar gyfer y seminarau, fel unigolion ac fel grŵp. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd paratoi ar gyfer seminarau, yr aseiniadau a’r arholiad oll yn golygu bod angen defnyddio cronfeydd data’r llyfrgell a chronfeydd data electronig eraill. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5