Module Information

Module Identifier
CT37120
Module Title
Troseddeg Feirniadol a Radical
Academic Year
2021/2022
Co-ordinator
Semester
Semester 1
Pre-Requisite
Other Staff

Course Delivery

 

Assessment

Due to Covid-19 students should refer to the module Blackboard pages for assessment details

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment Traethawd  (2,500 o eiriau)  50%
Semester Exam 2 Hours   Arholiad nas gwelir ymlaen llaw  50%
Supplementary Assessment Traethawd  (2,500 o eiriau)  50%
Supplementary Exam 2 Hours   Arholiad nas gwelir ymlaen llaw  50%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:


1. Dangos dealltwriaeth gadarn o’r prif theorïau, safbwyntiau, a chysyniadau wrth astudio troseddegau beirniadol a radical.


2. Gwybod sut mae troseddegau beirniadol yn wahanol i ymagweddau traddodiadol a phrif ffrwd at astudio trosedd a throseddoldeb.


3. Disgrifio sut mae theorïau beirniadol yn gweld trosedd a gwyriad fel cysyniadau a luniwyd yn gymdeithasol ac yn gyfreithiol.


4. Egluro sut mae troseddegau beirniadol yn egluro twf a datblygiad polisïau rheoli trosedd.


5. Adnabod y ddeinameg, prosesau a phroblemau allweddol sy’n wynebu safbwyntiau beirniadol cyfoes mewn troseddeg.


6. Dangos ymwybyddiaeth o sut mae strwythurau a phrosesau swyddogol ac answyddogol gorfodi’r gyfraith a chosbi yn cael eu dylanwadu gan ffactorau gwleidyddol, athronyddol ac ideolegol.


7. Dadansoddi a chloriannu i ba raddau y mae theorïau beirniadol yn herio neu’n cefnogi polisïau cyfoes a luniwyd i leihau trosedd a rheoli’r ‘broblem o droseddu’?


8. Gwerthfawrogi’r cyfraniad y mae safbwyntiau ffeminyddol wedi’i wneud i droseddeg feirniadol.

Brief description

Mae Troseddeg yn bwnc sy’n rhyngweithio â strwythurau llywodraethol, gwleidyddol a grym. Mae’r modiwl hwn yn asesu i ba raddau y mae’r rhain yn effeithio ar drosedd, troseddwyr a dioddefwyr ac a ddylid ystyried eu bod yn achosi yn hytrach na datrys y broblem. Bydd felly yn ymchwilio i rôl y Wladwriaeth yn rheoli problemau trosedd, rôl y cyfryngau a safbwyntiau’r rhywiau. Bydd hefyd yn ystyried cosb a phynciau fel diddymiaeth a’r defnydd o adsefydlu fel offeryn cymathiadol.

Content

Cyflwyniad i safbwyntiau beirniadol

Theorïau gwrthdaro cynnar

Troseddeg Farcsaidd

Troseddeg radical

Realaeth y chwith

Troseddeg ddiwylliannol

Safbwyntiau ffeminyddol

Theori hiliau beirniadol a chroestoriadrwydd

Troseddeg werdd

Uwch-realaeth

Cyfiawnder adferol a datrys gwrthdaro


Troseddeg naratif


Troseddeg cadw’r heddwch


Safbwyntiau beirniadol a ddefnyddir ar gyfer yr isod: polisi trosedd; plismona; diwygio’r deddfau cosbi; ymyriadau troseddwyr

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number Bydd deall a chloriannu data ymchwil meintiol perthnasol yn elfen o’r modiwl, o leiaf mewn perthynas â rhai theorïau.
Communication Anogir sgiliau cyfathrebu llafar a’u gloywi mewn seminarau a hefyd mewn darlithoedd (heb eu hasesu). Caiff sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig eu hymarfer drwy gymryd nodiadau mewn darlithoedd ac wrth astudio’n breifat ac wrth gyflwyno gwaith ysgrifenedig ffurfiol mewn aseiniadau ac arholiadau.
Improving own Learning and Performance Disgwylir i fyfyrwyr ddarllen testunau dethol ac o’r deunyddiau hyn adeiladu ar eu darlithoedd a phrofi eu dysgu eu hunain, yn enwedig mewn seminarau. Bydd hyn yn eu galluogi i reoli eu dysgu yn well ac i ganfod meysydd sy’n peri problemau y byddant yn derbyn cefnogaeth i’w goresgyn.
Information Technology Bydd yn rhaid defnyddio cronfeydd data y llyfrgell a chronfeydd data electronig eraill er mwyn paratoi ar gyfer seminarau, yr aseiniadau a’r arholiad. Cyfeirir myfyrwyr at gyfeiriadau gwe defnyddiol ac fe’u hanogir i adalw data yn electronig (heb eu hasesu). Bydd myfyrwyr yn cyflwyno eu gwaith i’w asesu drwy Turnitin.
Personal Development and Career planning Gallu meddwl yn annibynnol ac yn feirniadol yn well. Sgiliau rheoli amser da wrth baratoi ar gyfer seminarau a chyflwyno gwaith yn brydlon.
Problem solving Bydd myfyrwyr yn astudio ffynonellau cyfreithiol, damcaniaethol a chymdeithasegol i ganfod sut mae’r rhain yn cydadweithio i ddatrys rhai problemau cyfraith a rheoli trosedd anodd.
Research skills Disgwylir i fyfyrwyr ddod o hyd i ddeunyddiau ar lein ac yn y llyfrgell ar gyfer aseiniadau a pharatoi seminarau. Fe’u hanogir i ddatblygu sgiliau ymchwilio personol er mwyn perfformio’r tasgau hyn yn effeithiol.
Subject Specific Skills
Team work Yn ogystal â gwaith personol, bydd y seminarau yn cynnwys tasgau gwaith tîm a fydd yn galluogi myfyrwyr i gefnogi ei gilydd mewn dysgu rhyngweithiol.

Notes

This module is at CQFW Level 6