Module Information

Cod y Modiwl
CY20620
Teitl y Modiwl
Pedair Cainc y Mabinogi
Blwyddyn Academaidd
2021/2022
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   50%
Arholiad Semester 2 Awr   50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd  (2,000 o eiriau)  50%
Asesiad Semester Traethawd  (2,000 o eiriau)  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Darllen a deall un o destunau pwysicaf Cymraeg Canol yn yr iaith wreiddiol.

2. Trafod y testunau yn briodol yn eu cyd-destun yn yr Oesoedd Canol.

3. Trafod y testunau mewn cyd-destun llenyddol, yn benodol o ran technegau naratif, cymeriadaeth, syniadaeth ac adeiladwaith.

4. Adnabod a thrafod agweddau beirniadol penodol ar hanes ysgolheictod y pedair cainc, gan gynnwys y dadleuon o blaid ac yn erbyn ystyried y pedair cainc yn gyfanwaith llenyddol unedig.

Disgrifiad cryno

Mae Pedair Cainc y Mabinogi’n drysorau llenyddol o bwys rhyngwladol. Mae eu poblogrwydd yn amlwg heddiw yng Nghymru a thu hwnt, a’u pwysigrwydd yn ddi-gwestiwn ym maes llenyddiaeth yr Oesoedd Canol. Ni fyddai astudiaeth o lenyddiaeth yr Oesoedd Canol yn gyflawn hebddynt.

Canolbwyntir ar agweddau llenyddol y ceinciau, eu harddull, eu hadeiladwaith, eu cymeriadaeth a’u technegau naratif. Hefyd trafodir syniadau’r prif ysgolheigion yn y maes hwn. Yn y dosbarthiadau testunol rhoddir sylw arbennig i strwythur un o’r ceinciau a gwneir cymhariaeth rhyngddi a’r ceinciau eraill. Mae hefyd yn gyflwyniad defnyddiol i’r ddisgyblaeth o ddarllen testunau rhyddiaith Cymraeg Canol.

Arweinir y myfyrwyr drwy bob un o’r pedair cainc yn eu tro, gan roi sail gadarn iddynt o ran yr hyn y mae’r cymeriadau’n ei wneud ac o ran llif y stori. Darllenir un gainc yn fanwl ac fe ddarllenir rhai darnau o’r tair cainc arall. Canolbwyntir ar y cymeriadau byw a chyffrous a bortreadir yn y gwaith. Archwilir y rhesymeg waelodol sy’n sail i’r ceinciau unigol o ran eu hadeiladwaith, ac fe’u cymharir a’i gilydd er mwyn gofyn i ba raddau y gellir ystyried y pedair cainc yn gyfanwaith. Ystyrir hefyd ai un storiwr dawnus a roddodd y cyfan at ei gilydd, ynteu a fu mwy nag un storiwr ar waith?

Defnyddir y delweddau digidol o’r llawysgrifau lle diogelwyd y pedair cainc, sef Llyfr Gwyn Rhydderch (o’r Llyfrgell Genedlaethol dafliad carreg i ffwrdd i lawr y bryn) a Llyfr Coch Hergest, ynghyd â’r golygiadau diweddaraf o’r testunau.

Cynnwys

2 awr o ddarlithoedd yr wythnos am gyfnod o 10 wythnos: y naill awr yng ngofal Eurig Salisbury (cefndir a chyd-destun) a’r awr arall yng ngofal Simon Rodway (darllen testun rhan o un gainc yn fanwl).

Wythnos 1: Cyflwyniad cyffredinol i’r pedair cainc ac i’r testun a astudir

O hynny ymlaen, yr hyn a wna SR yw gweithio’n raddol drwy’r testun o wythnos i wythnos. Darllenir rhan o’r bedwaredd gainc, Math fab Mathonwy (noder ei bod yn bosib y dewisir un o’r ceinciau eraill).

Yr hyn a wna ES yw canolbwyntio ar y tair cainc arall ac ar y themâu a gwyd yn y pedair cainc ynghyd:

Wythnos 2 + 3: y gainc gyntaf, Pwyll Pendefig Dyfed
Wythnos 4 + 5: yr ail gainc, Bendigeidfran fab Llŷr
Wythnos 6 + 7: y drydedd gainc, Manawydan fab Llŷr

Wythnos 8: cymeriadau’r pedair cainc
Wythnos 9: awduraeth y pedair cainc
Wythnos 10: casgliadau

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Ceir yn y darlithoedd elfen o drafod a chyd-ddarllen, ac anogir y myfyrwyr i gyfathrebu’n effeithiol yn hyn o beth. At hynny, disgwylir i’r myfyrwyr gyfrathrebu’n effeithiol yn ysgrifenedig wrth lunio’r traethawd ac wrth gwblhau’r arholiad.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygir sgiliau hanfodol (megis delio â llif gwaith yn wythnosol, trefnu amser yn effeithlon a chyflawni ymchwil yn annibynnol) drwy gydol y modiwl.
Datrys Problemau Datblygir drwy’r darlithoedd allu’r myfyrwyr i ddatrys problemau yn ymwneud a darllen yn fanwl destunau Cymraeg Canol.
Gwaith Tim Anogir y myfyrwyr i drafod a chyd-ddarllen yn y darlithoedd wrth astudio’r testunau.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Anogir y myfyrwyr i wella eu gallu i ddarllen a dehongli testunau Cymraeg Canol yn wythnosol.
Rhifedd Mae rhoi ystyriaeth i berthynas gwahanol destunau yn ôl y dyddiadau pan gawsant eu creu yn rhan o’r gwaith.
Sgiliau pwnc penodol Y gallu i ddarllen a deall testunau barddonol a rhyddiaith Cymraeg Canol, a thrwy hynny i ddysgu mwy am ddatblygiad yr iaith Gymraeg o’r Oesoedd Canol hyd heddiw.
Sgiliau ymchwil Asesir y gallu i ymchwilio’n annibynnol ac i bwyso a mesur testunau a gwybodaeth yn feirniadol yn y ddau aseiniad.
Technoleg Gwybodaeth Anogir y myfyrwyr i wneud defnydd o’r Bwrdd Du ac i ddod o hyd i ddelweddau o rai o’r ffynonellau perthnasol ar lein (er enghraifft, Llyfr Gwyn Rhydderch ar wefan y Llyfrgell Genedlaethol).

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5