Module Information

Cod y Modiwl
CY25820
Teitl y Modiwl
Bro a Bywyd: Dehongli Treftadaeth Lenyddol y Cymry
Blwyddyn Academaidd
2021/2022
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Pre-Requisite
Exclusive (Any Acad Year)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Adroddiad  (500 gair)  10%
Asesiad Ailsefyll Prosiect  (c.3,500 gair)  70%
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad ysgrifenedig  (1,000 gair - yn lle'r cyflwyniad llafar)  20%
Asesiad Ailsefyll Ailgyflwyno'r gwaith cwrs a gloriennir (gan ysgrifennu ar bwnc newydd). 
Asesiad Semester Prosiect  (c.3,500 gair)  70%
Asesiad Semester Cyflwyniad llafar  (10 munud o hyd)  20%
Asesiad Semester Adroddiad  (500 gair) Adroddiad byr yn Semester 1 yn trafod un o'r teithiau maes.  10%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Meddu ar adnabyddiaeth o froydd Cymru a’u cysylltiadau llenyddol.

2. Dangos sgiliau ymchwilio a’r gallu i ddod o hyd i ddeunyddiau perthnasol.

3. Dangos dealltwriaeth o gydberthynas agweddau theoretig ac ymarferol wrth gynllunio sut i hybu ymwneud y cyhoedd ag etifeddiaeth ddiwylliannol y Cymry.

4. Gwneud defnydd pwrpasol o amrywiaeth o dechnegau wrth gynllunio a chynhyrchu deunyddiau o’u dewis eu hunain, ac wrth gyflwyno dehongliad i gynulleidfa fyw.

Disgrifiad cryno

Modiwl sy’n dysgu myfyrwyr am y gwahanol ffyrdd o ddehongli a chyflwyno etifeddiaeth lenyddol y Cymry ac elfennau eraill o’r diwylliant yn ehangach, a’u hyfforddi i gyfuno gwybodaeth, creadigrwydd a dyfeisgarwch i hybu diddordeb y cyhoedd.

Cynnwys

Darlithoedd 1-5
Trafod Cysyniadau

1. Cyflwyniad i’r modiwl
2. Sut i ddechrau prosiect
3. Y cyd-destun eang: sefydliadau, asiantaethau, twristiaeth a’r economi, y gyfraith, cadwraeth, Parciau Cenedlaethol, llywodraeth leol
4. Treftadaeth ddiwylliannol
5. Cof cenedl: ystyriaethau gwleidyddol


Darlithoedd 6-9
Astudiaethau bro

Astudiaeth Bro 1: Eryri
Astudiaeth Bro 2: Sycharth
Astudiaeth Bro 3: Awdur yn ei fro Astudiaeth Bro 4: Llwybr Bro Iolo Morganwg

Cynhelir dwy daith maes wedi eu hamserlennu yn Semester 1.

Yn Semester 2 bydd y myfyrwyr yn gweithio dan hyfforddiant ar brosiect unigol a fydd yn esgor ar waith addas i’w gyhoeddi (e.e. llyfryn; teithlyfr manwl; testun ar gyfer podlediad neu raglen radio; deunydd ar gyfer gwefan.)

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Ar bapur ac ar lafar a thrwy gynllunio deunydd amlgyfrwng ar gyfer y cyhoedd, ar ffurf prosiect neu gyflwyniad.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Drwy ddysgu am faes sydd o’r pwys mwyaf i economi’r wlad; datblygu’r gallu i chwilio am gydweithrediad gan bobl eraill (e.e. mewn sefydliadau) i ddeall gofynion y gynulleidfa, ac i weithio’n hyderus ac i safon uchel o fewn cyfnod penodedig o amser.
Datrys Problemau Drwy ddethol deunydd a’i ddehongli’n effeithiol.
Gwaith Tim Elfennau o waith tîm yn y gweithdai.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Drwy gael adborth gan y darlithwyr a thrwy drafod wgaith cyflwyno eraill mewn sefyllfa gweithdy.
Rhifedd Gall fod elfennau achlysurol gydag ystadegau.
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Dangos ystod o sgiliau ymchwilio a dod o hyd i amrywiaeth o ffynonellau ac ymgynefino â deunyddiau mewn sawl cyfrwng.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i’r myfyrwyr ddefnyddio’r We, rhaglen PowerPoint, offer digidol, yn ogystal â geirbrosesu.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5