Module Information

Cod y Modiwl
FG35110
Teitl y Modiwl
Sgiliau Ymchwil Ymarferol (10 credyd)
Blwyddyn Academaidd
2021/2022
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Pre-Requisite
Exclusive (Any Acad Year)
Exclusive (Any Acad Year)

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Fel bennir gan y Bwrdd Arholi Adrannol.  100%
Asesiad Semester Ymarfer – Asesiad risg  2 dudalen (Grŵp)  15%
Asesiad Semester Cyflwyniad Llafar  15 munud (Grŵp)  15%
Asesiad Semester Adroddiad Unigol  10 tudalen (Unigol)  40%
Asesiad Semester Adolygiad llenyddiaeth  2 dudalen (Grŵp)  15%
Asesiad Semester Poster  1 tudalen (Grŵp)  15%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Chwilio am wybodaeth berthnasol i'r gwaith prosiect drwy ymchwil ar-lein o bapurau ac erthyglau gwyddonol, adolygu y llyfryddiaeth yn feirniadol a chyflwyno adolygiad gan ddefnyddio meddalwedd llyfryddiaeth pwrpasol.

2. Trefnu a chymryd rhan mewn prosiect heb lawer o fewnbwn gan staff addysgu, gan arddangos sgiliau labordy a dadansoddi a ddatblygwyd yn ystod y cwrs.

3. Casglu data drwy arbrawf neu adnoddau ar-lein gan arddangos ymwybyddiaeth o weithrediad yr offerynnau a'u graddnodiad.

4. Dadansoddi, dehongli a gwerthuso data arbrofol.

5. Rhannu canlyniadau arbrawf a'i ganlyniadau mewn cyflwyniad llafar, poster ac adroddiad ffurfiol.

6.Ffurfio asesiad risg ar gyfer gwaith arbrofol.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yn bont rhwng gwaith labordy blwyddyn gyntaf a phrosiectau blwyddyn olaf. Mae'n rhoi profiad i fyfyrwyr o ofynion ymchwil ffiseg ymarferol. Caiff y myfyrwyr eu cyflwyno i'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer prosiectau blwyddyn olaf a byddant yn datblygu'r rhain drwy weithio ar brosiect gosod mewn tîm bychan (o bedwar neu bump fel arfer). Bydd y myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth o gynllunio a gweithredu ar brosiect, technegau offeryniaeth a chyfrifiadura, asesu risg, chwilio'r lenyddiaeth, dadansoddi a dehongli data. Byddant yn cyfathrebu eu gwaith-prosiect a'r canlyniadau drwy boster, cyflwyniad llafar ac adroddiad ffurfiol.

Cynnwys

Caiff y myfyrwyr eu cyflwyno i:
- Chwiliadau llyfrgell a rhyngrwyd, meddalwedd cyfeiriadau, darllen ac ysgrifennu papurau gwyddonol.
- Technegau dadansoddi a chyfrifiadurol ar destunau megis prosesu delweddau, modelu ac efelychu.
- Offeryniaeth a data o adnoddau amrywiol.
- Diogelwch mewn gwaith prosiect yn cynnwys Asesu Risg ac eitemau megis COSHH, DSEAR, diogelwch laser a phelydredd.
Mae'r myfyrwyr yn gweithio mewn timau (o bedwar neu bump fel arfer) ar brosiect gosod. Mae angen iddynt gymhwyso'r sgiliau a ddatblygir yn y modiwl i ymchwilio cefndir y prosiect, cynllunio'r prosiect, datblygu strategaeth arbrofol, a dadansoddi a dehongli'r canlyniadau. Mae asesiad y gwaith prosiect yn cynnwys adolygiad llenyddiaeth, poster a chyflwyniad llafar gan y grŵp ac adroddiad ffurfiol gan yr unigolyn. Bydd y myfyrwyr hefyd yn cael eu hasesu ar ymarfer asesu risg ffurfiol.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Disgwylir i'r myfyrwyr ymchwilio cefndir y gwaith, cyd-destun yr arbrofion a bod yn ymwybodol o'r llenyddiaeth berthnasol mwyaf diweddar.
Mae myfyrwyr yn gweithio ar brosiect mewn timau bychain (o bedwar neu bump fel arfer).
Mae datrys problemau yn sgil craidd mewn gwaith prosiect ffiseg.
Gwybodaeth o'r teclynnau ymchwil priodol e.e. rhaglennu cyfrifiadurol, offeryniaeth. Mae cymhwyso rhif yn angenrheidiol mewn dadansoddi data, yn cynnwys ansicrwydd mewn data a'u lledaeniad.
Bydd y myfyrwyr yn cyfathrebu eu gwaith prosiect drwy adolygiad llenyddiaeth, cyflwyniad llafar, poster ac adroddiad ffurfiol.
Mae myfyrwyr yn datblygu a gwella eu perfformiad mewn set o sgiliau a ddefnyddir ar gyfer prosiectau blwyddyn-olaf i israddedigion.
Mae llawer o'r sgiliau a ddatblygir yn elfennau hanfodol o radd ffiseg ac yn y byd gwaith yn y dyfodol. Mae asesiad risg yn sgil a ellir ei drosglwyddo yn y gweithle.
Mae myfyrwyr yn ymchwilio i gefndir y prosiect gan ddefnyddio'r rhyngrwyd a chwiliadau llyfrgell, ac yn cyflwyno adolygiad llenyddiaeth gan ddefnyddio Endnote neu feddalwedd llyfryddiaeth tebyg. Mae'r myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyfrifiadurol i ddadansoddi data ac yn defnyddio'r cyfleusterau sydd ar gael ar gyfer prosesu-geiriau a chyflwyniadau.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6