Module Information

Cod y Modiwl
FGM4410
Teitl y Modiwl
Cyfathrebu Pynciau Mewn Ffiseg
Blwyddyn Academaidd
2021/2022
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Pre-Requisite
Cwblhau yn llwyddiannus Blwyddyn 3 MPhys neu gynllun gradd F341
Exclusive (Any Acad Year)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll ​Fel bennir gan y Bwrdd Arholi Adrannol  100%
Asesiad Semester Erthygl ysgrifenedig  ar destun cyfredol mewn Ffiseg wedi ei anelu at gynulleidfa gyffredinol. (Erthygl gwyddoniaeth boblogaidd 6-10 tudalen ar destun gwyddonol cyfredol.)  50%
Asesiad Semester Ymarferion ar gynllunio, cyflwyno ac asesu prosiect ymchwil.  Cwrs preswyl (ar gyfer myfyrwyr nad ydynt wedi cofrestru ar PHM5760) NEU Cyflwyniad ac arholiad llafar (ar gyfer myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar PHM5760).  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

​1. Arddangos dysgu annibynnol drwy ymgymryd ag adolygiad o bapur, ar bwnc amserol mewn Ffiseg, a llenyddiaeth sy'n atgyfnerthu.

2. Cyfathrebu pwnc amserol i gynulleidfa gyffredinol drwy gyfrwng erthygl gwyddoniaeth boblogaidd.

3. Cyflwyno cefndir deunydd cefndir testun gwyddoniaeth gyfredol mewn modd sy'n hygyrch i gynulleidfa gyffredinol.

4. Gwneud penderfyniad gwybodus ar y testun a chyflwyno argymhelliad ar y testun.

5
a) Arddangos sgiliau sy'n sail i gynllunio, cyflwyno ac asesu prosiect ymchwil (myfyrwyr nad sydd wedi cofrestru ar PHM5760);
neu.
b) Arddangos y gallu i gyflwyno y gwyddoniaeth sy'n sail i brosiect blwyddyn derfynol ac ymateb i gwestiynau manwl ar y gwaith mewn arholiad llafar (myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar PHM5760).

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau cyflwyno a chyfathrebu yng nghyd-destun pynciau Ffiseg. Ystyrir dwy agwedd gymharus. Mae'r gyntaf yn mynd i'r afael a chyflwyniad o bwnc Ffiseg amserol mewn erthygl ysgrifenedig a anelir at y cyhoedd cyffredinol. Mae'r ail agwedd yn ystyried sgiliau cyfathrebu sy'n bwysig ar gyfer gweithrediad llwyddiannus prosiect ymchwil. Mae'r ail agwedd yn amrywio ar gyfer myfyrwyr sy'n cymryd y modiwl PHM5760 Upper Polar Atmosphere yn UNIS yn eu hail semester, a disgwylir i'r myfyrwyr yma baratoi cyflwyniad a chael arholiad llafar.

Cynnwys

Yn rhan gyntaf y modiwl bydd y myfyrwyr yn cynnal adolygiad o bapur diweddar, amserol mewn ffiseg. Byddant yn cynnal adolygiad llenyddiaeth ac yna bydd gofyn iddynt ddarparu erthygl ar yr papur ar ffurf gwyddoniaeth boblogaidd (e.e. New Scientist). Trafodir yr adolygiad a pharatoad yr erthygl mewn seminarau. Yna bydd y myfyrwyr yn cynhyrchu erthygl ysgrifenedig ar y papur hwn a gaiff ei werthuso ar ansawdd ei gyflwyniad a'i hygyrchedd i gynulleidfa gyffredinol. Gall y pwnc fod yn berthnasol i faes ymchwil yn yr adran (deunyddiau, cysawd yr haul, astroffiseg, ffiseg ddamcaniaethol a chyfrifiaduro) er nad oes yn rhaid iddo fod wedi ei gyfyngu i'r rhain. Bydd yr erthygl yn y Gymraeg.

Caiff cynllunio, cyflwyno ac asesu prosiect ymchwil (ar gyfer myfyrwyr nad ydynt wedi cofrestru ar PHM5760) sylw mewn cwrs byr ar sgiliau ymchwil. Fel arfer, caiff y cwrs ei drefnu ar y cyd gan staff Ffiseg ym Mhrifysgolion Aberystwyth , Caerdydd ac Abertawe a chaiff ei gynnal yn Gregynog ar ddiwedd Semester 1. Mae'n ofynnol i fyfyrwyr weithio mewn grwpiau.

Ar gyfer y cyflwyniad ac arholiad llafar (myfyrwyr wedi'u cofrestru ar PHM5760 ) mae disgwyl i'r myfyrwyr roi cyflwyniad am eu prosiect Blwyddyn 4 i banel bychan o aseswyr ac yna ymateb ar lafar i gwestiynau manwl ar y maes astudio.

Cyflwyniry modiwl hwn trwy seminarau arlein a sesiynau adborth. Caiff y cwrs ei gynnal yng Ngregynog fel cwrs preswyl 5-diwrnod, os yn ymarferol, neu fel digwyddiad cyfunol.

Anogir y myfyrwyr i gyflawni cymaint o'r modiwl ag sy'n bosibl yn Gymraeg, ond mae disgwyl iddynt gyflwyno'r erthygl yn Gymraeg.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Yn cael ei asesu drwy gydol y modiwl.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Yn cael ei asesu yn 5a.
Gwaith Tim Yn cael ei asesu yn 5a.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Dysgu trwy ddarllen erthyglau gwyddoniaeth boblogaidd, defnyddio gramadeg, hunan-fyfyrio I greu barn wybodus.
Rhifedd Bydd disgwyl i fyfyrwyr egluro meintiau sydd yn eu testun i gynulleidfa gyffredinol.
Sgiliau pwnc penodol Cyflwyno barn wyddonol wybodus am bapur ymchwil penodol.
Sgiliau ymchwil Darganfod papur testun, a gosod cyfeiriadau o'r llenyddiaeth berthnasol.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio Word/Latex i gynhyrchu adroddiad. Powerpoint/pdf ar gyfer 5b.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7