Module Information

Cod y Modiwl
GC10120
Teitl y Modiwl
Gwyddeleg Modern: Cyflwyniad
Blwyddyn Academaidd
2021/2022
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad  Arholiad 2 awr.  60%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad  Arholiad 2 awr.  60%
Asesiad Ailsefyll Arholiad Llafar  Arholiad llafar (10 munud).  10%
Asesiad Ailsefyll Ymarferion  Pecyn o ymarferion wythnosol.  30%
Asesiad Semester Ymarferion  Pecyn o ymarferion wythnosol.  30%
Asesiad Semester Arholiad Llafar  Arholiad llafar (10 munud).  10%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Byddwch yn gallu defnyddio'r ferf 'bod' yn yr Wyddeleg yn yr amser presennol, yr amser gorffennol, a'r amser dyfodol.
2. Byddwch yn gallu defnyddio'r enw yn y cyflwr enwol a'r cyflwr dadiol.

3. Byddwch yn gallu defnyddio'r rhagenwau personol yn gywir.
4. Byddwch yn gallu defnyddio'r ferf reolaidd a'r ferf afreolaidd yn yr amser presennol, gorffennol a dyfodol.

5. Byddwch yn gallu defnyddio rhifolion a dweud yr amser.
6. Byddwch yn gallu defnyddio rhai o gystrawennau'r berfenw.

7. Byddwch yn gallu defnyddio ambell gystrawen gypladol.
8. Byddwch yn gallu cynnal sgwrs syml yn yr Wyddeleg gan ddefnyddio'r pwyntiau gramadegol a chystrawennol uchod.

Disgrifiad cryno

Cyflwynir teithi sylfaenol Gwyddeleg Modern gan bwysleisio ynganiad Conamara. Bydd myfyrwyr yn cyrraedd safon A2 (CEFR; Common European Framework of Reference for Languages).

Cynnwys

1. Cystrawen sylfaenol y frawddeg
2. Y ferf ‘bod’: presennol; gorffennol; dyfodol
3. Berfau rheolaidd/afreaolaidd: presennol; gorffennol; dyfodol
4. Cystrawen yr enw a’r ansoddair
5. System treigliadau’r Wyddeleg
6. Yr arddodiaid; defnydd o’r arddodiaid pwysicaf, ynghyd â’r ffurfiau personol.
7. Y cyplad a’i gystrawen.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Trafod materion gramadegol yn y gweithdai ; medru egluro gwallau gramadegol yn yr aseiniadau ac yn yr arholiad.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd y gweithdai yn rhoi cyfle i fyfyrwyr drafod ymarferion iaith a darnau i’w cyfieithu; bydd y pecyn o dasgau yn caniatáu i fyfyrwyr fesur eu perfformiad a’u datblygiad personol.
Datrys Problemau Ymateb i heriau technegol y rheolau gramadegol a’r ymarferion gramadegol unigol; anelu at gywirdeb gramadegol.
Gwaith Tim Ceir cyfle i drafod mewn grŵp yn ystod gweithdai.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd y gweithdai yn rhoi cyfle i fyfyrwyr drafod ymarferion iaith a darnau i’w cyfieithu; bydd y pecyn o dasgau yn caniatáu i fyfyrwyr fesur eu perfformiad a’u datblygiad personol.
Rhifedd Amherthnasol.
Sgiliau pwnc penodol Mae’r sgiliau gramadegol a ddatblygir yn rhai trosglwyddadwy a fydd o ddefnydd i fyfyrwyr yn y brifysgol ac yn y gweithle.
Sgiliau ymchwil Ymchwilio er mwyn atgyfnerthu’r rheolau gramadegol a ddysgir yn y dosbarth.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddir rhaglen prosesu geiriau i gynhyrchu’r tasgau.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4