Module Information

Cod y Modiwl
GW39620
Teitl y Modiwl
Gwragedd a Datblygiad Byd-eang
Blwyddyn Academaidd
2021/2022
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Exclusive (Any Acad Year)
Exclusive (Any Acad Year)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 1.5 Awr   Arholiad  1.5 Awr  40%
Arholiad Semester 1.5 Awr   Arholiad  1.5 Awr  40%
Asesiad Ailsefyll Adroddiadau beirniadol  2 x 250 gair  10%
Asesiad Ailsefyll Traethawd  2500 o eiriau  50%
Asesiad Semester Cyfranogiad Seminar  10%
Asesiad Semester Traethawd  2500 o eiriau  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Trafod yn feirniadol a dadansoddi amrywiaeth eang o bynciau sy’n berthnasol i brofiadau menywod yn y byd Anorllewinol;

2. Dangos dealltwriaeth a thrafod dynameg gymhleth pŵer sy’n gysylltiedig â dulliau croestoriadol;

3. Nodi a thrafod yn feirniadol y ffyrdd amrywiol y mae menywod Anorllewinol yn cyfranogi yn yr economi;

4. Asesu’n feirniadol y ffyrdd penodol y mae menywod Anorllewinol yn ymgysylltu â gwleidyddiaeth;

5. Asesu’n feirniadol effaith normau diwylliannol ar statws menywod Anorllewinol;

6. Dadansoddi’n feirniadol profiadau menywod Anorllewinol o ryfel a heddwch;

7. Nodi a thrafod yn feirniadol y ffyrdd y mae rhywioldeb menywod yn siapio eu gosodiad yn y gymdeithas a’r rhwystrau a’r cyfleoedd maent yn dod ar eu traws;

8. Tynnu casgliadau annibynnol a beirniadol am y ffordd mae bywydau menywod yn cael eu ffurfio gan rymoedd globaleiddio.

Disgrifiad cryno

Mae’r modiwl hwn yn edrych ar brofiadau menywod mewn perthynas â gwleidyddiaeth, economeg, cymdeithas a diwylliant yn y byd y tu hwnt i’r ‘Gorllewin’. O ganlyniad mae’n cymryd agwedd croestoriadol sy’n edrych ar y modd mae dynameg rhywedd, tlodi, hil a dynameg arall o ran gwahaniaethu’n gweithio gyda’i gilydd i ffurfio bywydau menywod y tu allan i’r byd Ewrosentrig.

Cynnwys

Mae’r modiwl yn dechrau gydag adran ddamcaniaethol sy’n edrych ar ffeministiaeth a chroestorri ac yn symud ymlaen i edrych ar nifer o themâu, gan ddefnyddio astudiaethau achos i angori dadansoddiad mewn realitioedd sy’n cael eu byw. Bydd y themâu perthnasol yn cynnwys gwleidyddiaeth, datblygu diwylliant, rhywioldeb, heddwch/rhyfel a globaleiddio.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig, a sut i gyflwyno eu dadleuon yn fwyaf effeithiol. Byddant yn datblygu sgiliau i ddefnyddio’r ffynonellau niferus o wybodaeth sydd ar gael yn y ffordd orau. Byddant yn dysgu bod yn glir wrth ysgrifennu a siarad a byddant yn uniongyrchol am eu nodau ac amcanion. Byddant yn dysgu ystyried dim ond yr hyn sy’n berthnasol i destun, ffocws ac amcanion eu dadl neu drafodaeth.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Cynllunnir y modiwl hwn i fireinio a phrofi sgiliau fydd o fudd i fyfyrwyr yn eu bywydau gwaith, yn benodol drwy siarad gyda grwpiau bach, gwrando, meddwl ac ymateb i ddatganiadau pobl eraill. Ymhellach, bydd y gwaith ysgrifenedig yn gofyn bod myfyrwyr yn ysgrifennu’n glir ac yn gryno, sy’n dasg gyffredin yn y gweithle. Caiff myfyrwyr eu hannog drwy gydol y modiwl i adfyfyrio ar eu perfformiad ac ystyried gwersi i’w defnyddio yn y dyfodol.
Datrys Problemau Gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau fydd un nod canolog yn y modiwl; bydd cyflwyno traethawd yn golygu bod myfyrwyr yn datblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal â sgiliau datrys problemau. Bydd yr angen i ymchwilio a pharatoi at seminarau hefyd yn helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau prosiect annibynnol. Bydd gallu myfyrwyr i ddatrys problemau’n cael ei ddatblygu a’i asesu drwy ofyn iddynt: fabwysiadu gwahanol safbwyntiau; trefnu data ac amcangyfrif ateb i’r broblem; ystyried achosi
Gwaith Tim Bydd myfyrwyr yn ymgymryd ag ymarferion tîm yn y seminarau. I lawer o bynciau’r modiwl hwn, bydd y seminarau ar ffurf trafodaethau mewn grwpiau bach gyda myfyrwyr yn trafod fel grŵp y materion craidd sy’n ymwneud â phwnc y seminar. Bydd y trafodaethau a’r dadleuon dosbarth hyn yn rhan sylweddol o’r modiwl, a byddant yn caniatáu i’r myfyrwyr drin ac archwilio pwnc penodol drwy waith tîm.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Nod y modiwl yw hyrwyddo hunan-reoli ond o fewn cyd-destun lle mae cefnogaeth a chymorth ar gael gan gynullydd y modiwl a myfyrwyr eraill. Bydd disgwyl i fyfyrwyr wella eu dysgu a’u perfformiad eu hunain drwy ymgymryd â’u hymchwil eu hunain ac ymarfer eu menter eu hunain, gan gynnwys chwilio am ffynonellau a phenderfynu sut i ateb cwestiynau traethawd a asesir.
Rhifedd Ddim yn berthnasol.
Sgiliau pwnc penodol Caiff myfyrwyr y cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi amrywiaeth eang o sgiliau penodol i’r pwnc sy’n eu helpu i ddeall, cysyniadu a gwerthuso enghreifftiau a syniadau ar y modiwl. Mae’r sgiliau pwnc benodol hyn yn cynnwys: • Casglu a deall amrywiaeth eang o ddata’n ymwneud â’r modiwl • Gwerthuso safbwyntiau sy’n cystadlu a’i gilydd • Cymhwyso amrywiaeth o fethodolegau i broblemau gwleidyddol a chymdeithasol hanesyddol a chyfoes cymhleth.
Sgiliau ymchwil Bydd gofyn i fyfyrwyr ymgymryd ag ymchwil annibynnol er mwyn cwblhau’r gwaith a asesir. Bydd hyn yn cynnwys defnyddio amrywiaeth o ffynonellau gwybodeth, gan gynnwys testunau academaidd craidd, erthyglau cyfnodolion, cyhoeddiadau electronig, gwefannau a ffynonellau newyddion ar-lein.
Technoleg Gwybodaeth Bydd myfyrwyr yn cyfoethogi eu gallu i ddefnyddio Blackboard, lle bydd deunyddiau i gynorthwyo’r dysgu ar gael. Bydd myfyrwyr hefyd yn datblygu sgiliau i chwilio am, ac asesu dilysrwydd ffynonellau gwybodaeth ar-lein fel rhan o’r gwaith paratoi at ddarlithoedd, seminarau a thasgau a asesir. Caiff gwaith a asesir ei gyflwyno mewn fformat electronig, yn ôl disgwyliadau safonol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6