Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Traethawd ysgrifenedig (2,000 gair) | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Adroddiad yn lle cyflwyniad llafar (2,000 gair) | 50% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad llafar grwp (10 munud) | 40% |
Asesiad Semester | Traethawd ysgrifenedig (2,000 gair) | 50% |
Asesiad Semester | Traethawd ysgrifenedig adfyfyriol (500 gair) | 10% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Dangos dealltwriaeth o arwyddocad ffynonellau gwreiddiol wrth astudio hanes.
2. Dangos dealltwriaeth o’r amrywiaeth o fathau o ffynonellau gwreiddiol a'u defnydd.
3. Dadansoddi a dehongli ffynhonnell benodol a’i gosod yn ei chyd-destunau hanesyddol a hanesyddiaethol.
Disgrifiad cryno
O lawysgrifau i bapurau newydd, dogfennau swyddogol i gerddoriaeth, tros y blynyddoedd mae haneswyr wedi gwneud defnydd o amrediad eang o ffynonellau er mwyn dehongli’r gorffennol. Bwriad y modiwl yw eich cymryd ar daith trwy hanes gan ganolbwyntio ar yr union ddeunyddiau a ddefnyddiwyd gan haneswyr er mwyn deall hanes. Cyflwynir myfyrwyr i’r amrywiaeth o ffynonellau a ddefnyddir gan ein darlithwyr yn eu hymchwil eu hunain ac fe’u dysgir i’w dadansoddi. Ffynonellau gwreiddiol yw’r cliwiau a ddefnyddir gan haneswyr er mwyn creu darlun o’r gorffennol. Dysgir myfyrwyr ar y modiwl i ymwneud yn feirniadol â’r rhain a pharatoir myfyrwyr i wneud eu gwaith ditectif hanesyddol eu hunain yn y dyfodol.
Cynnwys
Cyflwyna’r modiwl hwn fyfyrwyr i amrediad o ffynonellau gwreiddiol a’u defnydd gan haneswyr. Ymhob un o’r naw gweithdy dwyawr cyflwynir myfyrwyr i ffynhonnell wreiddiol benodol, ei defnydd gan haneswyr a sut i’w dadansoddi. Bydd elfen ymarferol o weithio â deunydd gwreiddiol ymhob gweithdy yn ogystal a gwybodaeth am ffyrdd mae haneswyr wedi eu defnyddio. Adlewyrcha’r modiwl ddiddordebau ymchwil aelodau staff yr adran ac felly canolbwyntir ar y ffynonellau a ddefnyddir ganddynt. Archwilir amrediad eang o ddeunyddiau, gan gynnwys ffynonellau archifol, dogfennau personol, diwylliant materol a ffynonellau gweledol a chlyweledol ymysg eraill. O fewn gweithdai unigol astudir ffynonellau megis llythyrau, dyddiaduron, papurau newydd, caneuon, papurau personol, hanes llafar, ffilmiau a darluniau, megis posteri neu ffotograffau. Ar wahan i’r naw gweithdy bydd hefyd darlith gyflwyniadol, sesiwn ymarferol er mwyn paratoi cyflwyniadau grŵp a sesiwn llafar er mwyn asesu cyflwyniadau grwp.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Dtablygir sgiliau cyfathreby ysgrifenedig yn y traethawd a sgiliau cyfathrebu llafar yn y cyflwyniad grwp. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd myfyrwyr yn datblygu amrediad o sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys rheoli amser, ymchwil a chyfathrebu a fydd o gymorth iddynt adnabod eu cryfderau wrth ystyried gyrfaoedd posibl. |
Datrys Problemau | Adnabod problemau a ffactorau all ddylanwadu ar atebion posibl; datblygu ffyrdd creadigol o ddatrys problemau; dadansoddi manteision ac anfanteision atebion posibl. |
Gwaith Tim | Mae gwaith tim yn rhan hanfodol o’r gweithdai a’r aseiniadau, a disgwylir i fyfyrwyr gyfrannu’n llawn i’r trafodaethau. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Trwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau asesu, mae'r modiwl yn manteisio myfyrwyr ag amrywiaeth o ddulliau addysgu, sy'n helpu myfyrwyr datblygu hyder yn eu hastudiaethau. Byddant hefyd yn addasu i ddadansoddi amrediad o ffynonellau. |
Rhifedd | |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd myfyrwr yn datblygu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd ffynonellau gwreiddiol a’r sgiliau i’w dadansoddi. |
Sgiliau ymchwil | Bydd myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau ymchwil wrth ddadansoddi ffynonellau gwreiddiol ac ystyried eu cyd-destun. Bydd yr ymchwil yn datblygu sgiliau llythrennedd gwybodaeth. |
Technoleg Gwybodaeth | Mae pob rhan o’r modiwl yn cynnwys rhywfaint o ddefnydd o dechnoleg gwybodaeth. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4