Module Information

Cod y Modiwl
HA34520
Teitl y Modiwl
Stori America, 1607-1867, ar Ffilm a Theledu
Blwyddyn Academaidd
2021/2022
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Exclusive (Any Acad Year)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Essay  One essay of 2,500 words  50%
Asesiad Ailsefyll Essay  2500 Words  50%
Asesiad Semester Essay  One essay of 2,500 words  50%
Asesiad Semester Essay  2500 Words  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Dangos dealltwriaeth sylweddol o hanes yr Unol Daleithiau a Chanada rhwng 1607 a 1867.

Cydnabod a thrafod yn aeddfed sut mae ein dealltwriaeth o orffennol America wedi cael ei fowldio gan ffilm a theledu, cyfryngau torfol y ganrif ddiwethaf.

Dangos dealltwriaeth soffistigedig o’r prif themâu gwleidyddol, cymdeithasol a diwyllianol sydd wedi nodweddu storïau America a Chanada rhwng 1607 a 1867.

Dadansoddi beirniadol o ffilmau, dramâu teledu, a rhaglenni dogfen.

Disgrifiad cryno

Mae cyfresi ar alw fel THE CROWN a ffilmiau poblogaidd fel LITTLE WOMEN a 1917, yn tystio nid yn unig i gyseinedd parhaus hanes fel pwnc sy’n taro tant gyda gwylwyr yn y sinema, o flaen y teledu neu ar-lein, ond i bwysigrwydd cyfryngau gweledol fel pwynt mynediad allweddol ar gyfer ein hadeiladwaith a’n dealltwriaeth o’r gorffenol. Mae hyn yn wir am y cyfnod 1607 i 1867 yng Ngogledd America, a archwiliwyd mewn gweithiau mor amrywiol a ffilm animeiddiedig POCAHONTAS Disney (1995), a’r drama bywyd go iawn GLORY (1989), stori bataliwn milwyr du cyntaf yr Unol Daleithiau. Mae’r cwrs hwn yn archwilio’r cyfnod yma, y cyfnod pan ddaeth drefedigaethau Americanaidd Prydain i’r amlwg fel Unol Daleithiau America tra datblygodd eu cymydog a’u gwrthwynebydd i’r Gogledd, Ffrainc Newydd, i fod yn Canada. Mae’r cwrs yn gwneud hynny mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, mae’n dilyn y digwyddiadau a datblygiadau mawr yn y stori honno o sefydlu’r drefedigaeth Seisnig gyntaf yn Firginia ac anheddiad Quebec gan y Ffrancwyr ar y St Lawrence i ddiwedd y Rhyfel Cartref Americanaidd a genedigaeth Canada. Yn ail, mae’n archwilio sut mae’r newidiadau hynny wedi cael eu cyfleu mewn sinema ac ar y teledu i gynulleidfaoedd torfol dros y ganrif ddiwethaf. Y cwestiynau y mae’n eu hwynebu yw: beth fu effaith newid ar brofiad America a Chanada? Sut mae’r newid hwnnw wedi’i ddehongli ar gyfer cynulleidfaoedd poblogaidd ar y sgrîn? A sut mae ffilmiau a chyfresi teledu wedi gweithredu fel testunau hanesyddol? Mae’r cwrs yn cynnwys themâu trefedigaethedd, imperialaeth, caethwasiaeth, rhywedd, rhyddid, a thwf democratiaeth trwy lens y berthynas â phobloedd brodorol y cyfandir, gwrthdaro Ewropeaidd yng Ngogledd America, y gwrthdaro rhwng Catholigion a Phrotestaniaid, y Chwyldro Americanaidd, ehangu i’r Gorllewin, Chwyldro’r Farchnad, twf Diddymiad, y Rhyfel Cartref ac ymddangosiad Canada fel canlyniad.

Nod

• I gyflwyno myfyrwyr i themâu gwleidyddol, cymdeithasol a diwyllianol allweddol hanes yr Unol Daleithiau a Chanada rhwng 1607 a 1867.
• I alluogi myfyrwyr i ddadansoddi ffilmiau a chynyrchiadau teledu fel testunau hanesyddol.
• I dynnu sylw myfyrwyr at gyfryngau mwyaf poblogaidd y ganrif ddiwethaf fel cyfathrebwyr y gorffennol i gynulleidfaoedd torfol
• I asesu dylanwadau ffilm a theledu ar ein dealltwriaeth o hanes.

Cynnwys

Wythnos 1: Cyflwyniad a’r Gwladychu Seisnig Cyntaf
Wythnos 2: Ffrainc Newydd a’r Cenhedloedd Cyntaf
Wythnos 3: Gwrachod a’r Defosiynol
Wythnos 4: Caethwasiaeth Trefedigaethol
Wythnos 5: Y Chwyldro Americanaidd
Wythnos 6: Rhyfel 1812
Wythnos 7: Oes Jackson
Wythnos 8: Mewnfudo a Manifest Destiny
Wythnos 9: Argyfwng y 1850au
Wythnos 10: Y Rhyfel Cartref 1
Wythnos 11: Y Rhyfel Cartref 2 A Genedigaeth Canada

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Adnabod problemau a ffactorau all ddylanwadu ar atebion posibl; datblygu ffyrdd creadigol o ddatrys problemau; dadansoddi manteision ac anfanteision atebion posibl.
Bydd myfyrwyr yn datblygu amrediad o sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys rheoli amser, ymchwil a chyfathrebu a fydd o gymorth iddynt adnabod eu cryfderau wrth ystyried gyrfaoedd posibl.
Datblygir sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig yn y traethawd (a asesir) a sgiliau cyfathrebu llafar yn y trafodaethau seminar (ni asesir).
Mae pob rhan o’r modiwl yn cynnwys rhywfaint o ddefnydd o dechnoleg gwybodaeth.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6