Module Information
Cod y Modiwl
HCM0160
Teitl y Modiwl
Traethawd Hir: Hanes Cymru
Blwyddyn Academaidd
2021/2022
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 3 (Traethawd Hir)
Exclusive (Any Acad Year)
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Traethawd hir (12,000 i 15,000 o eiriau) | 100% |
Asesiad Semester | Traethawd hir (12,000 i 15,000 o eiriau) | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
1. Arddangos arbenigedd ymchwil ym maes neilltuol eu hastudiaeth;
Cynhyrchu darn hanesyddol trefnus sy'r dangos sgiliau beirniadaol a dadansoddiadol;
Gwneud cyfraniad at faes ymchwil hanesyddol;
Cyflwyno gwaith o safon academaidd proffesiynol o ran cyfeiriadu a chyflwyniad.
Disgrifiad cryno
Rhesymeg academaidd y cynnig:
Y traethawd hir yw'r elfen olaf yn rhaglen MA yr Adran ac y mae'r llenwi'r gofynion ar gyfer Rhan II y radd MA. Nod y traethawd yw i asesu gallu'r myfyryiwr i ddadansoddi corff sylweddol o ddeunydd hanesyddol, ei drefnu, a'r gyflwyno mewn ffordd sy'r cynnal dadl sy'r argyhoeddi ac sy'r gwneud cyfraniad i ysgolheictod hanesyddol yn ymwneud a Chymru. Ni ddisgwylir o reidrwydd i'r myfyriwr ddarganfod canlyniadau newydd, ond yn hytrach i ysgrifennu darn o ymchwil wreiddiol sy'r arddangos y gallu i feddwl yn annibynnol.
Disgryfiad cryno:
Ar gyfer y modiwl hwn, ymchwilir a chyflwynir traethawd hir yr MA Hanes Cymru, sef darn o waith ymchwil annibynnol o hyd at 15,000 o eiriau, gyda chyfarwyddyd aelod o staff a benodir i oruchwylio'r ymchwil.
Cynnwys:
Cynnwys y modiwl yw paratoi a chyflwyno'r traethawd. Disgwylir i'r myfyrwyr gyflawni hyn yn ystod yr haf, gyda chyfarwyddyd aelod o staff. Bydd y traethawd yn ddarn o waith ymchwil hanesyddol annibynnol 15,000 o eiriau ar bwnc o ddewis y myfyriwr.

Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Datblygir drwy ddangos y gallu i gyflwyno dadl synhwyrol mewn darn o ysgrifennu hanes sydd yn cyrraedd safon academaidd derbyniol, o bosib yn cynnwys theorïau cymhleth sydd angen eu cyfleu’n effeithiol i’r darllenydd. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Drwy ddatblygu ymwybyddiaeth o sgiliau personol, a fydd yn cyfrannu at gyflogadwyedd i’r dyfodol. |
Datrys Problemau | Datblygir sgiliau o ran lleoli deunyddiau a threfnu canlyniadau ymchwil mewn modd systematig ac effeithiol. Hefyd wrth ddod i adnabod materion ymghlwm â’r prosiect a all fod yn broblematig a darganfod ffyrdd i ddygymod â rhain. |
Gwaith Tim | Heb fod yn berthnasol. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Drwy osod targedau realistig a chynllunio sut i’w cyrraedd; drwy fyfyrio’n feirniadol ar y gwaith; drwy ymateb yn gadarnhaol i feirniadaeth adeiladol; drwy gadw llygad ar gynnydd personol er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau posib. |
Rhifedd | Pan yn briodol i’r prosiect, drwy gasglu a dadanoddi data ystadegol yn feirniadol. |
Sgiliau pwnc penodol | Gallu i gynllunio a chwblhau prosiect ymchwil ym maes hanes Cymru, gan arddangos sgiliau lefel meistr wrth leoli ac asesu corff o ddeunydd o ran ffynonellau gwreiddiol a llenyddiaeth hanesyddol a chyflwyno ymchwil annibynnol ar ffurf ysgrifenedig i gynulleidfa academaidd. |
Sgiliau ymchwil | Datblygir sgiliau drwy leoli a gwerthuso ystod o ffynonellau gwreiddiol ac eilaidd sy’n berthnasol i bwnc y traethawd, gan wneud defnydd priodol o’r rhain i adeiladu a chyflwyno dadl gyson. |
Technoleg Gwybodaeth | Drwy wneud defnydd addas o adnoddau i gynorthwyo ymchwil, adnoddau arlein a phecynnau meddalwedd amrywiol, gan ddibynnu ar anghenion y prosiect ymchwil. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7