Module Information
Cod y Modiwl
TC10520
Teitl y Modiwl
Creu Ffilm
Blwyddyn Academaidd
2021/2022
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Exclusive (Any Acad Year)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Cyflwyniad (3 munud) | 20% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd 1500 Words | 30% |
Asesiad Ailsefyll | Ffilm (5 munud) | 50% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad (3 munud) | 20% |
Asesiad Semester | Traethawd 1500 Words | 30% |
Asesiad Semester | Ffilm (5 munud) | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Dadansoddi testunau ffilm yn fanwl
Adnabod nodweddion sinematograffi, sain a mise-en-scène
Defnyddio ystod eang o ddarllen o faes Astudiaethau Ffilm
Arddangos gallu technegol a chreadigol wrth ddefnyddio camerâu ac offer golygu a sain
Dangos dealltwriaeth o sut mae dewisiadau cyfarwyddiadol yn effeithio ar fynegiant gweledol ac eglurder storïol wrth gynhyrchu ffilm ffuglen.
Disgrifiad cryno
Bwriad y modiwl hwn yw cynnig cyflwyniad i'r astudiaeth academaidd o ffilm o bersbectif academiadd ac ymarferol. Y cwestiynnau sy'n greiddiol i'r modiwl fydd: pam yr ystyrir ffilm yn ffurf y gellid astudio, a pha ddamcaniaethau, cysyniadau a dulliau a ddefnyddir i archwilio pwysigrwydd ffilm fel o safbwyntiau artistig, cymdeithasol, diwylliannol a hanesyddol.
Ar yr un pryd, trwy weithdai wythnosol fe fydd myfyrwyr yn cymhwyso'r damcaniaethau yma i waith ymarferol. Cyflwynir myfyrwyr i ddeg cysyniad ac yn y 10 gweithdy dilynnol archwilir y cysyniadau mewn modd ymarferol. Datblygir sgiliau beirniadol a chreadigol-ymarferol myfyrwyr ochr yn ochr.

Cynnwys
1) Darlith: Pam Astudio Ffilm? Gweithdy: Cyflwyniad i Avid
2) Darlith: Sinematograffi, Gweithdy: Camera a Sain
3) Darlith: Mise en scene, Gweithdy: Camera a Sain
4) Darlith: Golygu, Gweithdy: Ymarfer saethiadau + golygu
5) Darlith: Sain, Gweithdy: Ymarfer sain + golygu
6) Darlith: Naratif, Gweithdy: Ymdriniaeth ffilm fer + sgript
7) Darlith: Realaeth, Gweithdy: Gwaith cyn-gynhyrchu ffilm olaf
8) Darlith: Genre, Gweithdy: Ffilmio ffilm olaf
9) Darlith: Awduraeth, Gweithdy: Golygu ffilm olaf
10)Adolygu'r modiwl a sgrinio ffilm olaf

Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Bydd y modiwl yn cyflwyno amryw o bynciau ac aseiniadau, a bydd gofyn iddynt addasu i wybodaeth newydd a ffyrdd newydd o ymchwilio ar draws y modiwl. | |
Bydd y myfyrwyr yn trin pynciau academaidd ac ymarferol drwyddi draw. Bydd disgwyl iddynt ymchwilio a myfyrio ar gasgliad o ffynonellau a phynciau yn y sesiynau dysgu a yn y broses o ffurfio’r aseiniadau | |
Bydd y sesiynau dysgu yn rhoi’r cyfle i drafod ac chyd greu fel grwp. | |
Bydd y modiwl yn canolbwyntio ar drafodaethau a dealltwriaeth o’r cyd-destun proffesiynol. Mae’r modiwl yn pwysleisio gwaith cynhyrchu mewn rolau a ddiffiniwyd yn broffesiynol fel cyfarwyddwr, sinematograffydd ac sgriptiwr. Cyflwynir myfyrwyr hefyd ar lefel sylfaenol i’r gweithdrefnu proffesiynol wrth gynhyrchu. | |
Bydd y modiwl yn defnyddio Blackboard i gyfleu prif wybodaeth y modiwl, a defnyddir Aspire, a system Turnitin. Defnyddio meddalwedd proffesiynol i olygu gwaith a chamerâu proffesiynol i ffilmio. | |
Mae’r ymarferion cynhyrchu byr yn cynnwys cyfathrebu rhwng cyfarwyddwr, sinematograffydd ac actorion. | |
Bydd sesiynau dysgu a’r aseiniadau yn galluogi myfyrwyr i adlewyrchu ar eu dealltwriaeth o’r pwnc, a’r broses o greu ffilmiau. | |
Bydd myfyrwyr yn dysgu sgiliau ymchwil a phynciau academaidd er mwyn ymrwymo yn y sesiynau wythnosol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4