Module Information

Cod y Modiwl
TC11320
Teitl y Modiwl
Creu Cynyrchiadau Amlgyfrwng
Blwyddyn Academaidd
2021/2022
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Traethawd Ysgrifenedig  1500 Words  50%
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad Amlgyfrwng  Mewn Grŵp (10-15 munud)  50%
Asesiad Semester Traethawd Ysgrifenedig  1500 Words  50%
Asesiad Semester Cyflwyniad Amlgyfrwng  Mewn Grŵp (10-15 munud)  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Dadansoddi’n feirniadol ystod eang o gynyrchiadau amlgyfrwng.

Manylu a dadansoddi arwyddocâd ac effeithiolrwydd gwahanol elfennau llwyfannu a thechnegol o fewn strwythur dramatwrgiaethol cymhleth.

Cyflwyno dadansoddiad o gynyrchiadau amlgyfrwng yn annibynnol trwy gyfrwng traethawd ysgrifenedig.

Cyflwyno dadansoddiad gynyrchiadau amlgyfrwng fel rhan o grŵp trwy gyfrwng traethawd fideo.

Disgrifiad cryno

Trwy edrych ar ystod o gynyrchiadau gwahanol, fe fydd y modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i ddadansoddi gwaith perfformwyr, cyfarwyddwyr, dylunwyr, a thechnegwyr yn y broses o greu cynyrchiadau amlgyfrwng. At hynny, bydd y myfyrwyr yn cael eu gwahodd i ystyried arwyddocâd a swyddogaeth cyfraniadau artistig unigol o fewn cyfanwaith ehangach y cynyrchiadau dan sylw, gan gynnwys cynyrchiadau theatraidd, perfformiadol, sinematig a rhai ar gyfer y sgrin fach.

Fe fydd y modiwl yn gofyn i’r myfyrwyr i ddiffinio ac adlewyrchu ar ddramatwrgiaeth cynhyrchiadau o’r fath, ac i ystyried sut y gall elfennau amlgyfrwng herio rhai o sylfeini cysyniadol mwyaf sylfaenol gwahanol gyfryngau. Disgwylir iddynt wneud hynny nid yn unig o safbwynt yr artistiaid, ond hefyd o safbwynt amryfal gynulleidfaoedd cynhyrchiadau amlgyfrwng.

Cynnwys

Strwythurir y modiwl trwy gyfrwng un ddarlith un awr ac un seminar ddwy awr wythnosol. Bydd cynnwys pob wythnos yn canolbwyntio ar un cysyniad beirniadol a/neu waith gan ymarferydd neu gwmni penodol.

Sesiynau Dysgu:
Darlithoedd: 10 x 1 awr
Seminarau: 10 x 2 awr

Cynnwys:
1. Y Ddadl am Fywoldeb: Auslander a Phelan
2. Y Byw a’r Cyfryngol: Ôl-Foderniaeth The Wooster Group
3. Sinema Fyw: Theatr Amlgyfryngol Katie Mitchell
4. Chwyddo’r Ddrama: Y Camera ar Lwyfan yr Auteur Ewropeaidd (Ivo van Hove, Thomas Ostermeier, a Frank Castorf)
5. Y Perfformiwr Digidol: Eddie Ladd, Cof y Corff
6. Lleihau’r Byd/Ehangu’r Theatr: Rimini Protokoll
7. Sinema Theatraidd: Alexander Sokurov, Russian Ark; Sam Mendes, 1917.
8. Pell ac Agos: Sain ac The Encounter, Simon McBurney
9. Cyfranogiad a Chynulleidfaoedd: Gob Squad
10. Rheoli’r Naratif: Charlie Brooker, Bandersnatch

Noder mai mynegol yw'r rhestr uchod. Gall y cynnwys amrywio o flwyddyn i flwyddyn.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd yn rhaid i'r myfyriwr gyflwyno'u gwaith yn ysgrifenedig ac ar ffurf traethawd fideo, a thrafod ar lafar yn y seminarau. Caiff y sesiynau dysgu eu cynnig mewn modd ble gall y myfyrwyr gyfrannu at drafodaeth. Rhydd hyn gyfle i fyfyrwyr finiogi eu sgiliau cyfathrebu ar lafar, yn ysgrifenedig, ac yn weledol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Nid oes sesiynau penodol ar gynllunio gyrfa ond wrth astudio perfformiadau a chynyrchiadau cyfoes, caiff y myfyrwyr gyfle i ddyfnhau eu gwybodaeth o ddiwydiant y cyfryngau creadigol, a chyfle i fynegi hynny trwy gyfrwng traethawd fideo.
Datrys Problemau Bydd cyfle i fyfyrwyr arddangos ymwybyddiaeth o adnabod problemau a chanfod ffyrdd o'u datrys o fewn cyd-destun astudiaeth y modiwl.
Gwaith Tim Cynhelir trafodaethau grŵp yn ystod y seminarau, a bydd angen cyflwuno’r ail aseiniad fel rhan o dîm.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Disgwylir i’r aseiniad cyntaf gael eu cwblhau’n unigol, a bydd cyfle yn y seminarau i fyfyrwyr dderbyn adborth ar ddrafftiau. 
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Mae sgiliau penodol i'r pwnc a ddatblygir gan y modiwl hwn yn cynnwys dadansoddi dramatwrgiaethol, semioteg gweledol, a dadansoddi symud. Yn ogystal, mae'r modiwl yn gorfodi myfyrwyr i ymdrin â llenyddiaeth damcaniaethau beirniadol, ac yn cynnig strategaethau er mwyn eu hannog i ddefnyddio'r cysyniadau a gyflwynir yn y llenyddiaeth ar gyfer dehongli ystod berfformiadau a ffurfiau theatraidd gwahanol.
Sgiliau ymchwil Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio ymhellach tu hwnt i gynnwys ffurfiol y darlithoedd er mwyn canfod deunydd priodol i gyflawni eu haseiniadau
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio sgiliau technoleg gwybodaeth, gan gynnwys sgiliau golygu fideo sylfaenol, ar gyfer cwblhau’r aseiniadau.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4