Module Information

Cod y Modiwl
TC31440
Teitl y Modiwl
Ymarfer Cynhyrchu 2
Blwyddyn Academaidd
2021/2022
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Os yw myfyriwr yn methu cyflawni eu cyfraniad i'r perfformiad a/neu'r gweithdai am resymau meddygol neu unrhyw reswm dilys arall, gellir gosod traethawd (hyd at 6,000 o eiriau) yn lle'r elfen ymarferol. Penderfynir ar hyd a graddfa'r traethawd gan gyd-gysylltydd y modiwl yn ôl canran o'r gwaith a gollwyd.  100%
Asesiad Semester Portffolio Creadigol a Chritigol  40%
Asesiad Semester Proses Ymarfer a Pherfformiad  60%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Arddangos gallu i gyflawni anghenion eu rôl yn y prosiect yn ôl gofynion celfyddydol, technegol neu/ac ymarferol y cynhyrchiad.

2. Arddangos gallu i ddeall amcanion sylfaenol y cynhyrchiad fel y disgrifir hwy gan arweinydd y prosiect, ac i weithredu'n drwyadl ac yn fanwl wrth gyflawni'r amcanion hynny.

3. Arddangos gallu i newid ac addasu eu ffordd o weithredu er lles y cynhyrchiad wrth ymateb i gyfarwyddyd gan arweinydd y prosiect a chan gyd-fyfyrwyr.

4. Arddangos gallu i ddatblygu deallusrwydd yn annibynnol o'r gwaith cynhyrchu, trwy ystyried y broses ar ei hyd fel enghraifft o ymchwil fel ymarfer.

5. Arddangos gallu i adfyfyrio mewn traethawd ysgrifenedig ar eu cyfraniad unigol i'r broses o greu, ymarfer a chyflwyno’r gwaith terfynol.

Disgrifiad cryno

Fe fydd y modiwl hwn yn cael ei gyflwyno dros gyfnod o ddeg wythnos. Fe fydd y myfyrwyr yn gweithio fel rhan o dim cynhyrchu sefydlog dan oruchwyliaeth cydlynydd y modiwl, ac fel aelod o dim cynhyrchu disgwylir i'r myfyrwyr ymgymryd a rôl neilltuol a fydd yn cyfrannu'n bwysig at ddatblygiad a chyflwyniad y cynnyrch gorffenedig. Fe fydd natur y roliau hyn yn fater a drafodir rhwng y myfyrwyr a’r arweinydd ar dechrau'r prosiect, ac fe fydd cyfarwyddyd pendant yn cael ei roi i bob myfyriwr yn unigol ar y pwynt hwnnw ynglyn a natur eu cyfraniad a’r hyn a ddisgwylir ohonynt wrth ddatblygu’r cynhyrchiad terfynol.

Cynnwys

Gweithdai: 8 awr x dau ddiwrnod yr wythnos

Fe fydd y modiwl yn cael ei gyflwyno fel cyfres o ymarferion tuag at gynhyrchiad llawn, ac yn gofyn presenoldeb ac ymroddiad arbennig gan y myfyrwyr tuag at gwblhau'r cynhyrchiad yn llwyddiannus. Fe fydd y cynhyrchiad ei hun yn gofyn 16 awr yr wythnos o waith ar ran pob myfyriwr, gan gynnwys gwaith paratoi ac ymchwil cefndirol tu hwnt i’r oriau cyswllt.

Darlith: 1 awr x unwaith yr wythnos (Cynhelir y ddarlith o fewn oriau’r gweithdai. Addasir trefn a chynnwys y darlithoedd yn flynyddol, yn unol â natur ac anghenion penodol y cynhyrchiad.)

Trefn arfaethedig y darlithoedd:

1. Cyflwyniad i’r Testun Gosod

2. Dadansoddi’r Testun

3. Bywgraffiad a Chyd-destun hanesyddol/cymdeithasol yr awdur

4. Enghreifftiau eraill o waith yr awdur

5. Prif Nodweddion/Gweledigaeth Gelfyddydol y Cynhyrchiad

6. Y Llwyfaniad

7. Arddull y Cyfarwyddo

8. Y Broses Ymarfer

9. Y Cynhyrchiad a’r Gynulleidfa

10. Paratoi’r Portffolio Creadigiol a Chritigol

Mae’n debygol y bydd mwyafrif o fyfyrwyr TC31440 Ymarfer Cynhyrchu 2 eisoes wedi cwblhau TC20040 Ymarfer Cynhyrchu 1 yn yr ail flwyddyn. At hynny, bydd yn y modiwl hwn bwyslais ar ddatblygu sgiliau’r myfyrwyr ymhellach. Bydd disgwyl hefyd i fyfyrwyr fynegi dealltwriaeth ddatblygedig a gallu soffisdigedig i ddadansoddi a gwerthuso elfennau dethol o’r cynhyrchiad, ac i wneud hynny’n ysgrifenedig trwy gyfrwng y Portffolio Creadigol a Chritigol ar derfyn y broses gynhyrchu.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Mae datblygu ac ymestyn sgiliau cyfathrebu yn allweddol bwysig ar gyfer pob agwedd ar greu cynhyrchiad, boed hynny'n gyfathrebu a'r gynulleidfa drwy berfformio, cyflwyno gweledigaeth o gynnwys golygfa wrth yfwryddo neu gyfathrebu ag aelodau tim dylunio wrth weithio'n dechnegol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Ni cheir unrhyw ymwrwymiad ffurfiol na swyddogol i'r ddatblygiad personol a chynllunio gyrfa yn y modiwl; fodd bynnag, gellir trosglwyddo nifer fawr o'r sgiliau cyffredinol ac arbenigol a feithrinir yn ystod y prosiect hwn a'u cynhwyso ar gyfer nifer o amgylchiadau gwahanol, gan gynnwys rhai gyrfaol.
Datrys Problemau Fe ddatblygir y sgiliau hyn wrth i'r myfyrwyr ymateb i'r gwahanol fathau o her a gyfyd yn ystod y broses baratoi, ymarfer a chyflwyno ar gyfer y prosiect ymarferol.
Gwaith Tim Mae'r gallu i weithio fel aelod o dim creadigol yn allweddol bwysig ar gyfer pob agwedd ar waith cynhyrchu; ac fe fydd sgiliau arwain tim a chydweithio fel rhan o dim yn rhan bwysig o'r meini prawf ar gyfer asesiadau'r modiwl.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Fe gedwir golwg ar ddatblygiad y myfyrwyr yn ystod y broses ymarfer a gofynnir iddynt adfyfyrio ar eu cyfraniad i'r prosiect wrth iddo ddatblygu.
Rhifedd Ni ddatblygir y sgiliau hyn yn y modiwl.
Sgiliau pwnc penodol Fe fydd y modiwl yn datblygu ac ymestyn gallu'r myfyrwyr i gyfathrebu a chynulleidfa trwy nifer o wahanol ddulliau ymarferol, ac yn datblygu'u dealltwriaeth or theatr fel arf gyfathrebu.
Sgiliau ymchwil Fe ddatblygir sgiliau ymchwil wrth baratoi ar gyfer ymarferion y prosiect; ond nid asesir y sgiliau hyn yn uniongyrchol.
Technoleg Gwybodaeth Fe all myfyrwyr ganfod a defnyddio deunyddiau ar-lein wrth baratoi a chflwyno'r prosiect hwn (e.e. wrth baratoi gwaith sain a.y.b.); ond nid asesir y sgiliau hyn yn uniongyrchol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6