Module Information

Module Identifier
AD31530
Module Title
Gwybodaeth Addysgeg a Chwricwlwm
Academic Year
2022/2023
Co-ordinator
Semester
Semester 2 (Taught over 2 semesters)
Pre-Requisite
Gofynion mynediad TAR
Co-Requisite
Co-Requisite
Co-Requisite
Other Staff

Course Delivery

 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment Blog academaidd  (cyfanswm 4,000 gair: 7x500 + 2x250)  100%
Supplementary Assessment Blog academaidd  (cyfanswm 4,000 gair: 7x500 + 2x250)  100%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

1. Adlewyrchu a dadansoddi yn gywir ofynion cwricwlaidd ac ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer eu pwnc a / neu faes dysgu.

2. Gwerthuso y cynnwys a’r cymhwyso sgiliau, gan gynnwys y fframwaith llythrennedd a rhifedd, a'r fframwaith cymhwysedd digidol.

3. Dangos ymwybyddiaeth o effaith amgylchedd ddysgu gynhwysol.

4. Gwerthuso materion addysgol traws-gyfnodol.

Brief description

Dyluniwyd y modiwl craidd hwn i gwrdd â Chylchlythyr Llywodraeth Cymru Rhif: 008/2017, Meini Prawf ar Gyfer Achredu Rhaglenni Addysg Athrawon Cychwynnol yng Nghymru. Mae'r modiwl hwn yn rhoi pwyslais cryf ar ddeall y gofynion cwricwlaidd a sgiliau, a sut y gellir cymhwyso damcaniaethau addysgeg a datblygu dysgwyr yn effeithiol o fewn meysydd a chyd-destunau dysgu penodol. Oherwydd natur integredig y rhaglen byddwch yn ennill gwybodaeth, dealltwriaeth a phrofiad ymarferol o ofynion cwricwlaidd ac addysgeg effeithiol ar draws y sectorau Cynradd ac Uwchradd. Bydd y profiadau estynedig hyn yn eich galluogi i allu addysgu'n effeithiol ar draws cyfnodau tra hefyd, oherwydd eich dealltwriaeth well o ofynion y cwricwlwm ehangach, gan eich galluogi i gynllunio ac addysgu yn y ffyrdd mwyaf effeithiol a phriodol.

Content

Yn y modiwl hwn, trafodir yr unedau canlynol mewn perthynas â'r Safonau newydd ar gyfer SAC, fel y dangosir yn Schemapp 1 Adran B. Mae'r unedau cynnwys ar gyfer 7 wythnos yn y brifysgol fel a ganlyn ac yn nodi'r cynnwys craidd ar gyfer pob elfen o'r modiwl. Bydd yr unedau hyn yn darparu'r egwyddorion a'r wybodaeth sylfaenol y mae'n rhaid eu defnyddio ar ymarfer dysgu. Bydd gofyn i bob athro dan hyfforddiant astudio tair elfen - maes arbenigol, maes craidd, ac ardal gyfoethogi. Bydd athrawon dan hyfforddiant o bob arbenigedd yn dilyn cyfuniad gwahanol yn dibynnu ar eu dewis o bwnc neu faes dysgu, ond byddant yn dilyn cynnwys tebyg ar gyfer pob adran, fel y nodir isod:

Cwrs Arbenigedd: Cysyniadau Allweddol, Sylwedd a Strwythur
(Bydd y cynnwys yn amrywio yn ôl yr athro dan hyfforddiant: Ffocws athrawon dan hyfforddiant uwchradd: Arbenigedd pwnc; Ffocws athrawon dan hyfforddiant CA2: Holl Feysydd Dysgu CA2; Ffocws athrawon dan hyfforddiant FPh: Pob Maes Dysgu FPh)
- Arfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth mewn maes arbenigol.
- Cymhwyso'r cwricwlwm sgilisu yn y maes dysgu arbenigol.
- Sesiynau cynllunio a gwerthuso yn yr ardal arbenigol.
- Cymhwyso theori asesu mewn maes arbenigol.
- Cymhwiant ac anghenion ychwanegol mewn maes arbenigol.
- Datblygu amgylchedd dysgu effeithiol mewn maes arbenigol.
- Cymhwyso damcaniaethau dysgu mewn maes arbengiol.

Cwrs Craidd: Addysgeg a Chwricwlwm
- Datblygu Gwybodaeth Gwricwlaidd
- Cymhwyso'r cwricwlwm sgiliau ym maes craidd dysgu.
- Datblygu amgylchedd dysgu cynhwysol yn y maes craidd.
- Arfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn y maes craidd.


Cwrs Cyfoethogi: Addysgeg a Chwricwlwm
(Bydd y cynnwys yn amrywio yn ôl athro dan hyfforddiant: Ffocws athrawon dan hyfforddiant uwchradd: 1 Maes Dysgu CA2; Ffocws athrawon dan hyfforddiant CA2: 1 Maes Dysgu CA3; Ffocws athrawon dan hyfforddiant FPh: 1 Maes Dysgu CA3;
- Datblygu gwybodaeth gwricwlaidd yr ardal gyfoethogi
- Cynllunio a gwerthuso sesiynau yn yr ardal Gyfoethogi.
- Datblygu amglychedd dysgu cynhwysol yn yr ardal Gyfoethogi.
- Arfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth ym maes Cyfoethogi.

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number Gellir ystyried adroddiadau ystadegol a gellir dadansoddi data i gefnogi dadleuon.
Communication Bydd hyn yn cael ei ddatblygu mewn trafodaethau seminar ac wrth baratoi ar gyfer yr asesiadau.
Improving own Learning and Performance Bydd hwn yn sgil graidd a ddatblygir o fewn y modiwl, gyda phwyslais clir ar hunan-fyfyrio, lle bydd disgwyl i'r athrawon dan hyfforddiant ystyried effaith ar eu harfer eu hunain.
Information Technology Bydd pob aseiniad wedi ei gyflwyno ar brosesydd geiriau a bydd gofyn i fyfyrwyr ddefnyddio adnoddau TG wrth ymchwilio i'w haseiniadau yn ogystal ag wrth gyflwyno eu blog.
Personal Development and Career planning Bydd hon yn sgil a ddatblygir o fewn y modiwl hwn wrth i athrawon dan hyfforddiant fyfyrio ar eu harfer a'u datblygiad eu hunain.
Problem solving Bydd myfyrwyr yn ystyried sut i fynd i'r afael â materion penodol yn eu cyd-destunau a'u harfer eu hunain, ac yn datblygu'r sgiliau i fynd i'r afael â hyn yn y dyfodol.
Research skills Bydd hyn yn cael ei ddatblygu trwy gydol y modiwl ond yn enwedig o ran yr ymchwil sy'n angenrheidiol yn yr asesiadau.
Subject Specific Skills Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau o ran addysgu, gwerthuso a datblygu ymarfer proffesiynol trwy ymchwil a chydweithio.
Team work Bydd gweithgareddau seminar yn cynnwys gwaith grŵp. Bydd ystyriaeth o gydweithredu a phartneriaethau yn cael ei gyflwyno a'i ystyried. Disgwylir rhywfaint o gydweithio â staff eraill o fewn y maes pwnc.

Notes

This module is at CQFW Level 6