Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Ailsefyll | Prawf aml-ddewis canol modiwl | 50% |
| Asesiad Ailsefyll | Prawf aml-ddewis diwedd modiwl | 50% |
| Asesiad Semester | Prawf aml-ddewis canol modiwl | 50% |
| Asesiad Semester | Prawf aml-ddewis diwedd modiwl | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Amlinellu dosbarthiad cynefinoedd allweddol mewn ystod o systemau priodol;
2. Disgrifio'r ffactorau naturiol sy'n dylanwadu ar ddatblygiad cynefinoedd allweddol;
3. Egluro rôl dynolryw yn natblygiad hanesyddol cynefinoedd allweddol;
4. Disgrifio'r rheolaeth a'r defnydd cyfredol o gynefinoedd cyfredol a phynciau sy'n codi o ganlyniad;
5. Adnabod gwerth, statws a photensial o ran cadwraeth cynefinoedd allweddol.
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl hwn yn archwilio'r rhyngberthynas rhwng ffactorau naturiol a gweithrediadau gan ddyn sy'n arwain at ddatblygu'r prif grwpiau o gynefinoedd daearol a geir ym Mhrydain: coetiroedd; glaswelltiroedd; cymunedau arfordirol, ucheldirol a mynyddig; rhostiroedd a mignenni; corsydd a ffeniau; cynefinoedd ymylol a thros dro; a thiroedd ar. Ystyrir y defnydd o'r cynefinoedd hyn at ddibenion masnachol amrywiol ochr yn ochr gwerth i fywyd gwyllt a'r tirwedd. Bydd y modiwl yn ystyried i ba raddau y gall gwahanol fathau o gynefin wasanaethu fel elfennau allweddol o dirwedd amlswyddogaethol; y pwysau ar y cynefinoedd hyn gan gystadleuwyr; a'r gorchmynion, y polisau a'r cynlluniau sydd mewn lle er mwyn dylanwadu ar reolaeth y cynefinoedd hyn.
Cynnwys

Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Paratoi nodiadau ar gyfer adolygu i'r profion aml-ateb |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Sgiliau maes. |
| Datrys Problemau | |
| Gwaith Tim | Bydd casglu data yn cael ei wneud mewn tîmoedd bychain. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | |
| Rhifedd | Gwneir peth dadansoddi cyfyngedig o ddata fel elfen o asesiad |
| Sgiliau pwnc penodol | Adnabod planhigion yn y maes. |
| Sgiliau ymchwil | Gall ymweliadau maes gynnwys peth casglu data. |
| Technoleg Gwybodaeth | Paratoi graffiau ar gyfer adolygu i'r profion aml-ateb |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4