Module Information

Cod y Modiwl
BG13610
Teitl y Modiwl
Y Blaned Werdd
Blwyddyn Academaidd
2022/2023
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Exclusive (Any Acad Year)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 1.5 Awr   Rhaid i fyfyrwyr wneud yr elfennau o’r asesiad sy’n cyfateb i’r hyn a arweiniodd at fethu’r modiwl.  50%
Arholiad Semester Papur cwestiynau aml-ddewis  50%
Asesiad Ailsefyll 2 Awr   Arbrawf ac adroddiad (Sesiwn labordy). Rhaid i fyfyrwyr wneud yr elfennau o’r asesiad sy’n cyfateb i’r hyn a arweiniodd at fethu’r modiwl.  50%
Asesiad Semester Arbrawf ac adroddiad  (2000 o eiriau)  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Cyflawni a gwerthuso arbrofion meintiol mewn ffisioleg planhigion.

2. Nodweddu rhannau anatomegol perthnasol ar gyfer adnabod planhigion.

3. Arddangos gwybodaeth o fioamrywiaeth y prif grwpiau o fflora daearol.

4. Arddangos gwybodaeth o strwythur, ffisioleg a’r defnydd o blanhigion hadau.

Disgrifiad cryno

Mae’r modiwl yn gyflwyniad eang a chyfoes i esblygiad, bioamrywiaeth, ffisioleg a’r defnydd dynol o fflora daearol. Fe fydd yn dysgu sgiliau a dealltwriaeth i danategu gyrfaoedd mewn arolygu neu reolaeth ecolegol. Ar yr un pryd fe fydd yn darparu sylfaen ar gyfer y rheini sydd â diddordeb mewn ymchwil bioleg planhigion neu ddatblygu cnydau.

Cynnwys

Mae’r modiwl yn dechrau gyda’r esblygiad o lystyfiant yn ffactor ddominyddol yn hanes y blaned. Mae ffurfiau a hanes bywyd y prif ddosbarthiadau o fflora daearol, yn enwedig teuluoedd pwysig o angiosbermau, yn cael eu hamlinellu. Trafodir y cyd-esblygiad o blanhigion hadau a’i peillwyr pryfaid neu fertebrau. Mae bioamrywiaeth llystyfiant yn cael eu hastudio mewn gweithgareddau ymarferol ac yn nhŷ gwydr trofannol IBERS. Fe fydd sgiliau botanegol yn cael eu hasesu mewn arholiad ymarferol. Mae cynnwys am ffisioleg planhigion yn cynnwys swyddogaethau hormonau a synhwyro circadaidd wrth ddatblygu ac ymateb i’r amgylchedd. Mae addasiadau ecolegol megis ffotosynthesis arbenigol a goddefiant i sychder yn cael eu harchwilio mewn gweithgareddau ymarferol a fydd yn cael eu hasesu fel adroddiad gwyddonol. Bydd mecanweithiau y mae planhigion yn eu defnyddio i amddiffyn eu hunain oddi wrth blâu a phathogenau yn cael eu nodi. Bydd y wyddoniaeth y tu ôl i wneud defnydd economaidd o gnydau (gan gynnwys rhai anghyfreithiol) yn cael ei drafod ynghyd a llwybrau i wella cnydau i’r dyfodol.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd angen sgiliau cyfathrebu gwyddonol da yn yr aseiniad adroddiad gwyddonol. Bydd adborth ar gael trwy Turnitin.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Fe fydd perthnasedd sgiliau o fewn y modiwl i yrfaoedd posib yn cael eu hamlygu.
Datrys Problemau Bydd yr arbrofion ymarferol yn gosod problemau a fydd yn gofyn am gynhyrchu a dehongli data.
Gwaith Tim Fe fydd yr arbrawf ymarferol yn golygu timau yn cynllunio a chynhyrchu canlyniadau. Fe fydd canlyniadau grwpiau gwahanol yn cael eu cymharu trwy ddata dosbarth.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd adborth manwl ar gael drwy Turnitin ar yr adroddiad arbrofol, ac mewn sesiynau ymarferol trwy’r darlithwyr.
Rhifedd Dadansoddi data rhifyddol o sesiynau ymarferol, gan gynnwys y defnydd o daenlenni.
Sgiliau pwnc penodol Fe fydd y modiwl yn gofyn i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau ymarferol yn y labordy ac yn y maes sydd yn allweddol i nifer o yrfaoedd biolegol.
Sgiliau ymchwil Bydd angen arddangos sgiliau ymchwil sydd yn gysylltiedig gyda chasglu a phrosesu gwybodaeth a cheir adborth trwy Turnitin.
Technoleg Gwybodaeth Bydd angen defnyddio technoleg gwybodaeth gan gynnwys y defnydd o daenlenni wrth ymchwilio a chyflwyno adroddiad arbrofol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4