Module Information

Cod y Modiwl
CY10020
Teitl y Modiwl
Cyflwyniad i Ysgrifennu Creadigol
Blwyddyn Academaidd
2022/2023
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Pum darnau gwreiddiol o farddoniaeth ac o ryddiaith  Pum tasg bythefnosol lle gofynnir i’r myfyrwyr lunio darnau gwreiddiol o farddoniaeth ac o ryddiaith; anogir y myfyrwyr i gyflwyno drafft o’u gwaith o fewn wythnos i osod y dasg er mwyn derbyn adborth cyn ei gyflwyno’n derfynol. 2250 o eiriau  70%
Asesiad Ailsefyll Sylwebaeth feirniadol  Sylwebaeth feirniadol ar y darnau creadigol 750 o eiriau  30%
Asesiad Semester Pum darnau gwreiddiol o farddoniaeth ac o ryddiaith  Pum tasg bythefnosol lle gofynnir i’r myfyrwyr lunio darnau gwreiddiol o farddoniaeth ac o ryddiaith; anogir y myfyrwyr i gyflwyno drafft o’u gwaith o fewn wythnos i osod y dasg er mwyn derbyn adborth cyn ei gyflwyno’n derfynol. 2250 o eiriau  70%
Asesiad Semester Sylwebaeth feirniadol  Sylwebaeth feirniadol ar y darnau creadigol 750 o eiriau  30%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Deall hyd a lled y diwydiant Ysgrifennu Creadigol yng Nghymru, yn bennaf o ran y cyfleoedd sydd ar gael i awduron ac i bobl broffesiynol yn y maes;

Ysgrifennu darnau byrion, diwastraff o farddoniaeth ac o ryddiaith yn effeithiol ac yn hyderus;

Dadansoddi’n feirniadol ddarnau byrion o farddoniaeth ac o ryddiaith gan feirdd ac awduron profiadol;

Myfyrio’n hunan-feirniadol ar eu gwaith creadigol eu hunain.

Disgrifiad cryno

Mae’r modiwl hwn yn rhoi cyflwyniad cyhwysfawr i Ysgrifennu Creadigol ac i’r diwydiant creadigol yn ehangach. Cyflwynir y myfyrwyr i ddwy brif ffurf ar Ysgrifennu Creadigol, sef barddoniaeth a rhyddiaith. Drwy gyfrwng tasgau ac adborth rheolaidd, datblygir gallu’r myfyrwyr i ysgrifennu’n gryno ac yn ddiwastraff yn y ffurfiau hynny. Cyd-ddarllenir ac astudir darnau enghreifftiol o lenyddiaeth er mwyn dangos yr egwyddor honno ar waith. At hynny, rhoddir cyflwyniad bras i’r diwydiant Ysgrifennu Creadigol yng Nghymru a thu hwnt.

Cynnwys

Cynhelir deg o Seminarau dwyawr:
Seminar 1: cyflwyniad cyffredinol i’r modiwl, a darllen testun barddoniaeth rhydd.
Seminar 2: darllen testunau barddoniaeth rhydd.
Seminarau 3–4: darllen testunau rhyddiaith byr.
Seminarau 5–6: cyflwyniad i’r diwydiant Ysgrifennu Creadigol.
Seminarau 7–8: darllen testunau barddoniaeth caeth.
Seminar 9: darllen testunau rhyddiaith estynedig.
Seminar 10: darllen testunau rhyddiaith estynedig, a threm yn ôl dros yr hyn a ddysgwyd yn ystod y Semester.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cydlynu ag erail Ceir cyfle i drafod mewn grŵp yn ystod gweithdai.
Cyfathrebu proffesiynol Llunio darn o waith creadigol; trafod y darn hwnnw yng nghyd-destun y portffolio ehangach.
Datrys Problemau Creadigol Ymateb i heriau technegol yr ymarferion creadigol unigol. Ymateb i feirniadaeth adeiladol.
Gallu digidol Defnyddir rhaglen prosesu geiriau i gynhyrchu’r gwaith gorffenedig; trafodir hefyd y proses o gynhyrchu gwaith i'w gyflwyno a'i gyhoeddi yn y dulliau print traddodiadol ac ar wahanol lwyfannau ar lein.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Ymchwilio a pharatoi darn o waith creadigol
Myfyrdod Bydd y gweithdai a’r sesiynau unigol yn rhoi cyfle i fyfyrwyr drafod drafftiau cynnar gyda thiwtor ysgrifennu creadigol; bydd y sylwebaeth feirniadol a lunnir ar gyfer y portffolio gorffenedig yn esbonio’r datblygiad rhwng y drafftiau cynnar a’r darnau gorffenedig, gan gynnwys rhoi sylw i berfformiad a datblygiad personol.
Sgiliau Pwnc-benodol Mae’r sgiliau a ddatblygir oll yn berthnasol i’r pwnc, a byddant o ddefnydd i fyfyrwyr sy’n dymuno gyrfa yn y diwydiant cyhoeddi creadigol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4