Module Information

Cod y Modiwl
CY35420
Teitl y Modiwl
Barddoniaeth Tri Chwarter Canrif, 1900-79
Blwyddyn Academaidd
2022/2023
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad atodol  60%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad  60%
Asesiad Ailsefyll Traethawd: 2500 o eiriau  40%
Asesiad Semester Traethawd: 2500 o eiriau  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

dangos dealltwriaeth fanwl o dirwedd wleidyddol, ddiwylliannol a llenyddol y cyfnod;

dangos dealltwriaeth aeddfed o’r eirfa gysyniadol arbenigol a ddefnyddir wrth drafod y cyfnod;

medru ymateb yn feirniadol i ystod eang o destunau gan y beirdd a enwyd uchod ac eraill;

gwerthfawrogi y gellir trafod barddonaeth y cyfnod o ran cyd-destun hanesyddol, yng ngoleuni gwaith ehangach y bardd/beirdd perthnasol; o safbwynt y derbyniad a roddwyd iddo; yn ei hawl ei hun fel gwrthrych.

Disgrifiad cryno

Cyflwyniad i brif feirdd a mudiadau llenyddol y cyfnod rhwng 1900 a 1979.

Nod

Mae’r modiwl hwn yn sicrhau bod deunydd canonaidd yr 20fed ganrif yn rhan o arlwy’r Adran. Gellir ei ystyried yn ogystal yn gymar naturiol i CY35320 (Rhyddiaith Tri Chwarter Canrif).

Cynnwys

Darlithoedd ar: 1-2 Cefndir y canu: Y Bardd Newydd ac uniongrededd beirniadol troad yr 20fed ganrif
(Elfed, Dyfed ayb)
3 Canu telynegol (W. J. Gruffydd, R. Silyn Roberts)
4-5 Eisteddfod Bangor 1902 a’i chanlyniadau (T. Gwynn Jones)
6 Hedd Wyn a Barddoniaeth y Rhyfel Mawr
7. R. Williams Parry – Bardd yr Haf a’r Gaeaf
8. Gweithdy
9 T.H. Parry-Williams – Bardd Amheuaeth
10 Waldo Williams – Cyfriniaeth a Chymuned
11 Alun-Llywelyn Williams – Canu Trefol
12 Caradog Prichard – Bardd Terfysgoedd
13 Saunders Lewis – y Bardd-Feirniad
14 Gwenallt – Cymru a Christ
15 Iorwerth Peate – Bardd Alltud ac Euros Bowen – Bardd Tywyll
16 Gweithdy
17 Bobi Jones – Bardd Ymennydd ac Angerdd
18 Gwyn Thomas – Llais y Chwedegau
19 Gerallt Lloyd Owen ac Alan Llwyd – Canu Newydd ar Hen Fesurau
20. Nesta Wyn Jones – Bardd Cysgodion.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Anogir myfyrwyr i fynegi eu syniadau yn glir ac yn argyhoeddiadol yn yr aseiniadau ysgrifenedig.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygir sgiliau hanfodol (megis delio â llif gwaith yn wythnosol, trefnu amser yn effeithiol a chyflawni ymchwil yn annibynnol) drwy gydol y modiwl.
Datrys Problemau Trwy ymwneud yn feirniadol, ar lafar ac ar bapur, â chysyniadau deallusol sy’n codi o’r cyd-destun hanesyddol ac o destunau llenyddol penodol.
Gwaith Tim Trwy gyfrannu at drafodaethau grŵp ynghylch y testunau a’r cysyniadau allweddol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Trwy ymchwil annibynnol; adborth eu twtoriaid ar waith ysgrifenedig a chyfraniadau llafar; ymwneud â chymheiriaid yn ystod trafodaethau grŵp; datblygu sgiliau trefnu amser/gwaith; myfyrio ar sgiliau cyflwyno a gwaith ysgrifenedig arall.
Rhifedd Amherthnasol
Sgiliau pwnc penodol Trwy feithrin gallu myfyrwyr i ddarllen a deall testunau, a thrwy hynny ddysgu mwy am ddatblygiad ymateb y beirdd i Gymru a’r byd ar ôl 1979.
Sgiliau ymchwil Trwy gyfrwng ymchwil annibynnol ar gyfer aseiniadau ysgrifenedig (traethawd) a chyfraniadau i drafodaethau grŵp. Hefyd, trwy ddefnyddio ymchwil electronig ac adnoddau electronig a llyfryddol.
Technoleg Gwybodaeth At ddibenion ymchwil (aseiniad a thrafodaethau); prosesu geiriau. Defnyddio ymchwil electronig ac adnoddau llyfryddol; cael mynediad i adnoddau’r modiwl ar y BwrddDu.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6