Module Information

Cod y Modiwl
FG35620
Teitl y Modiwl
Prosiect (20 Credyd)
Blwyddyn Academaidd
2022/2023
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Pre-Requisite
Exclusive (Any Acad Year)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Fel bennir gan y Bwrdd Arholi Adrannol  100%
Asesiad Semester Cyflwyniad Llafar (Yn Gymraeg)  15%
Asesiad Semester Chwiliad Llenyddiaeth a Chynllun Prosiect​  (Tua 500 gair)  15%
Asesiad Semester Adolygiad Llenyddiaeth  (Tua 500 gair)  15%
Asesiad Semester Adroddiad Terfynol  45%
Asesiad Semester Cynnydd Prosiect  10%

Canlyniadau Dysgu

Ar ddiwedd y modiwl, dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Ymchwilio problem wyddonol benodol sy'n berthnasol i ffiseg.
2. Adnabod, gwerthuso a chrynhoi y llenyddiaeth wyddonol mewn maes dewisol.
3. Llunio a gweithredu cynllun prosiect gan adnabod yr adnoddau sydd eu hangen.
4. Crynhoi eu canfyddiadau mewn adroddiad cynhwysfawr.
5. Cyflwyno ac amddiffyn y gwaith ar lafar.
.

Disgrifiad cryno

Prosiect yw'r modiwl hwn lle mae myfyrwyr yn ymchwilio i broblem o dan oruchwyliaeth aelod o'r staff academaidd. Gall natur y broblem fod yn arbrofol, damcaniaethol, dadansoddi data, offer neu fodelu cyfrifiadurol. Mae'r modiwl ar gael i fyfyrwyr sy'n dilyn Anrhydedd Cyfun a Chynlluniau Gradd Prif bwnc/Is-bwnc.

Mae'r myfyrwyr fel arfer yn gweithio mewn parau neu ar eu pen eu hunain. Bydd pob myfyriwr yn rhoi cyflwyniad ac adroddiad. Mae anghenion labordy, cyfrifiadura, dadansoddi ayb y gwahanol brosiectau yn wahanol, ond fel canllaw dylai cyfanswm yr amser ar y prosiect fod yn 200 awr.

Cynnwys

Nod y modiwl hwn yw rhoi cyfle i fyfyrwyr gynnal ymchwiliad penagored o bwnc Ffiseg penodol. Dylai hyn ganiatau i'r myfyrwyr gymhwyso gwybodaeth a thechnegau y maent wedi'u dysgu yn y cwrs hyd yma. Rhoddir pwyslais ar ddeall a chymhwyso egwyddorion ffiseg sylfaenol.

Disgwylir i fyfyrwyr gynllunio a rheoli rhaglen astudio annibynnol, gydag arweiniad gan eu Goruchwylydd, ac i ysgrifennu adroddiad gwyddonol ffurfiol.

Bydd cyflwyniad llafar yn cael ei roi ar ddiwedd y modiwl i ddangos dealltwriaeth o egwyddorion sylfaenol y prosiect a'i gyd-destun ehangach.

Bydd goruchwylydd neu oruchwylydd cynorthwyol sy'n medru'r Gymraeg. Anogir y myfyrwyr i gyflawni cymaint o'r modiwl ag sy'n bosibl yn Gymraeg, ond mae disgwyl iddynt gyflwyno'r Cynllun Prosiect a'r Cyflwyniad Llafar yn Gymraeg.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Meddwl beirniadol a dadansoddol Critical and analytical thinking

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6