Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad atodol | 50% |
Arholiad Semester | 2 Awr arholiad Arholiad Ysgrifenedig | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Prawf Llafar | 20% |
Asesiad Ailsefyll | tasgau | 30% |
Asesiad Semester | prawf llafar prawf llafar | 20% |
Asesiad Semester | ymarferion tasgau yn ystod y semester | 30% |
Canlyniadau Dysgu
Ar o^l dilyn y modiwl hwn yn llwyddiannus:
1. Byddwch yn gallu cynnal sgwrs estynedig yn yr Wyddeleg.
2. Bydd gennych wybodaeth ddigonol o ramadeg sylfaenol yr iaith, gan gynnwys ffurfiau amhersonol y ferf, y modd dibynnol, ffurfiau genidol yr enw, cymalau perthnasol, araith anuniongyrchol, ac amryw gystrawennau copiwla.
3. Byddwch yn gallu dirnad darlithiau syml yn yr Wyddeleg.
4. Byddwch yn gallu cymryd rhan mewn trafodaethau syml yn yr Wyddeleg.
5. Byddwch yn gallu ysgrifennu traethodau syml yn yr Wyddeleg.
6. Byddwch wedi darllen detholiadau o lenyddiaeth lafar y Gaeltacht ac o ryddiaith fodern.
7. Byddwch yn gallu trafod cyd-destun cymdeithasol a chyd-destun llenyddol y detholiadau darllen hwn.
Disgrifiad cryno
Dosbarthiadau ieithyddol. Gramadeg yr Wyddeleg. Cyfieithu o'r Wyddeleg i'r Gymraeg a Chymraeg i'r Wyddeleg. Darllen a dehongli rhai o destunau llenyddol yr 20fed ganrif: barddoniaeth, storiau byrion. Hefyd astudiaeth o Hanes Llenyddiaeth Wyddeleg o 1600 hyd heddiw; a detholion o'r llenyddiaeth honno.
Cynnwys
.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cydlynu ag erail | Ymarfer yr iaith gyda'r tiwtor a myfyrwyr eraill. |
Sgiliau Pwnc-benodol | Gwybodaeth arbenigol o ierfa a gramadeg yr Wyddeleg |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5